Biwrocratiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Y Baich Gweinyddol": mae gwaith papur gormodol (neu dâp coch) yn un o ystrydebau biwrocratiaeth.

System lywodraethol, yn enwedig un lle gwneir penderfyniadau gan swyddogion y wladwriaeth yn hytrach na chynrychiolwyr etholedig, yw biwrocratiaeth.[1] Y gwasanaeth sifil yw'r fiwrocratiaeth mewn llywodraeth genedlaethol. Mae diffiniad ehangach o'r gair yn crybwyll y strwythur sy'n gweithredu mewn unrhyw sefydliad, gan gynnwys sefydliadau preifat megis corfforaethau, gyda phwyslais ar rheolau a rheoliadau, rhaniad llafur, parhauster, rheolaeth broffesiynol, hierarchaeth a chadwyn awdurdod, ac awdurdod cyfreithiol.[2] Defnyddir y gair hefyd yn ddilornus i ddisgrifio trefn weinyddol eithafol o gymhleth.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1  biwrocratiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
  2. (Saesneg) bureaucracy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.