Cysylltiadau rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cangen o wyddor gwleidyddiaeth yw cysylltiadau rhyngwladol sy'n ymwneud ag astudiaeth materion tramor a chysylltiadau rhwng gwladwriaethau o fewn y gyfundrefn ryngwladol, yn cynnwys rhannau o wladwriaethau neu daleithiau, sefydliadau rhyngwladol (IGOau), sefydliadau anlywodraethol (NGOau), a chwmnïau amlwladol (MNCau). Mae'n faes academaidd ac mae'n ymwneud â pholisi cyhoeddus, gall fod naill ai'n bositif neu'n ddiduedd gan mai ei amcan yw dadansoddi yn ogystal â ffurfio polisïau tramor gwladwriaethau.

Ar wahân i wyddor gwleidyddiaeth mae cysylltiadau rhyngwladol yn ymwneud â meysydd gwahanol fel economeg, hanes, cyfraith, athroniaeth, daearyddiaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, seicoleg, ac astudiaethau diwylliannol. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o faterion: o globaleiddio a'i effeithiau ar gymdeithasau a sofraniaeth wladwriaethol i gynaliadwyedd ecolegol, amlhau niwclear, cenedlaetholdeb, datblygiad economaidd, terfysgaeth, tor-cyfraith cyfundrefnol, diogelwch dynol, a hawliau dynol.

Terminoleg[golygu]

Defnyddir y term cysylltiadau rhyngwladol[1] i ddisgrifio'r holl ryngweithiadau rhwng gwladwriaethau fel gweithredyddion dros eu ffiniau,[2] ac at y ddisgyblaeth academaidd cysylltiadau rhyngwladol (IR)[nodyn 1] neu astudiaethau rhyngwladol (IS)[nodyn 2] sydd yn astudio'r cysylltiadau hyn.[3] Er bod rhai yn defnyddio gwleidyddiaeth ryngwladol yn gyfystyr â chysylltiadau rhyngwladol, yn gyffredinol fe'i neilltuir yn benodol at ryngweithiadau gwleidyddol eu natur rhwng gwladwriaethau, a ystyrid felly yn gategori o gysylltiadau rhyngwladol.[4] Mae rhai yn camddefnyddio'r term gwleidyddiaeth ryngwladol wrth gyfeirio at fywyd a chysylltiadau byd-eang gwleidyddol eu natur;[5] y term cywir am gysylltiadau nad sy'n wladwriaeth-ganolog – hynny yw, sy'n cynnwys gweithredyddion ar wahân i wladwriaethau – yw gwleidyddiaeth fyd-eang, gwleidyddiaeth fyd neu wleidyddiaeth y byd.[6]

Gellir hefyd defnyddio cysylltiadau rhyngwladwriaethol neu wleidyddiaeth ryngwladwriaethol, termau sydd yn fanylach gan eu bod yn pwysleisio taw cysylltiadau rhwng gwladwriaethau ac nid gwledydd yw'r pwnc. Yn gyffredinol defnyddir "rhyngwladol" gan nad yw nifer o ieithoedd eraill, gan gynnwys Saesneg, Sbaeneg, a Ffrangeg, yn gwahaniaethu mewn un gair rhwng "gwladwriaeth" a "thalaith", ac felly gall "cysylltiadau rhyngwladwriaethol" yn yr ieithoedd hynny gyfeirio at gysylltiadau rhwng endidau ffederal,[5] er enghraifft taleithiau'r Unol Daleithiau neu daleithiau Mexico.

Cyfeiria polisi tramor at sut mae gwladwriaethau yn gweithredu, adweithio, a rhyngweithio fel gweithredyddion. Mae polisi tramor yn stradlu dau amgylchedd: un mewnol, neu fewnwladol; ac un allanol, neu fyd-eang.[7] Gan amlaf defnyddir cysylltiadau tramor wrth gyfeirio at gysylltiadau rhyngwladol gwladwriaeth benodol, er enghraifft cysylltiadau tramor y Deyrnas Unedig.

Hanes[golygu]

Er dim ond yn ddiweddar datblygodd cysylltiadau rhyngwladol fel disgyblaeth academaidd, yn wir mae cymdeithasau rhyngwladol[nodyn 3] wastad wedi bodoli ble a phryd bynnag ceir gwahanol diriogaethau gwleidyddol yn cydfodoli a'i gilydd.[8] Mae cymdeithas ryngwladol, yn ei hystyr o strwythur o normau, rheolau, a sefydliadau rhwng gwahanol diriogaethau, yn agwedd gyffredin o hanes y byd.[9] Er hyn, mae natur cysylltiadau rhyngwladol wedi amrywio: o bosib gwahaniaeth amlycaf cymdeithas ryngwladol gyfoes i gymharu â'r hen drefnau yw'r egwyddor o gydraddoldeb cyfreithiol i bob aelod-wladwriaeth.[9]

Yr Henfyd[golygu]

Ym mlynyddoedd cynnar hanes y ddynoliaeth gwelwyd amrywiolyn llac o gymdeithas ryngwladol ymhlith y cymunedau dynol cynharaf. Yn sgîl gwelliannau economaidd ac wrth i lwythau nomadig gyfanheddu, datblygodd cymdeithasau rhyngwladol soffistigedig, yn bennaf yng Ngroeg, India, a Tsieina.[10]

Bodolai cymdeithas ryngwladol ymysg dinas-wladwriaethau Groeg yr Henfyd, oedd yn rhannu iaith a chrefydd debyg. Cydweithiai'r gwahanol ddinas-wladwriaethau hyn mewn meysydd diwylliannol, megis Gemau Olympaidd yr Henfyd, a chrefyddol, megis y Gynghrair Amphictyonig oedd yn diogelu cysegrfeydd megis Oracl Delphi ac yn sicrháu parhâd bywyd crefyddol yn ystod rhyfel. Ymunant yn erbyn gelyn cyffredin, Ymerodraeth Persia, yn ystod Rhyfeloedd Groeg a Phersia, ond er hyn bu nifer o gynigion am hegemoni ymhlith y dinas-wladwriaethau, a'r enwocaf oedd Rhyfel y Peloponnesos rhwng Athen a Sparta. Roedd deialog Melos yn enghraifft o natur realaidd o fewn cysylltiadau rhyngwladol Groeg yr Henfyd,[11] ac ystyrid Thucydides, awdur Hanes Rhyfel y Peloponnesos, fel realydd cynnar.[12] Ond er y bwyslais ar rym mewn achosion fel hyn, roedd nifer o agweddau o gysylltiadau yng Ngroeg yr Henfyd oedd yn dynodi cymdeithas ryngwladol soffistigedig.[11] Modd cyffredin o gytuno ar anghydfodau tiriogaethol oedd i drydedd blaid gyflafareddu, yn enwedig mewn dadleuon o bwysigrwydd crefyddol, strategol, neu economaidd. Penodwyd proxenia (fath o gonswliaeth) i gynrychioli cymunedau tramor yn y dinas-wladwriaethau mwy. Datblygodd cysyniadau o foesau cyffredin (rhagflaenydd i foeseg ryngwladol) ynghylch diplomyddiaeth, cytundebau, a thriniaeth meirw'r gelyn, a chosbwyd torri'r safonau hyn gan sancsiynau.[11]

Bu nifer o normau crefyddol oedd yn elfennol i gysylltiadau rhwng Teyrnasoedd India'r Henfyd. Datblygodd cysyniadau, yn seiliedig ar dharma, o'r rhyfel cyfiawn, oedd yn dibynnu ar berfformio defodau penodol wrth gychwyn rhyfel a rheolau ar ymddygiad yn ystod ac ar ôl rhyfel.[11] Amlinellwyd rheolau ar gysylltiadau rhwng teyrnasoedd yr India, gan gynnwys ymddygiad trugarog yn ystod rhyfel, yn nhraethawd yr Arthashastra yn y bedwaredd ganrif CC, gan ystyried y rheolau hyn fel mater o wladweinyddiaeth ddoeth, nid moesoldeb yn unig.[10] Yn debyg i gymdeithas ryngwladol Groeg yr Henfyd, ystyriwyd cytundebau yn sanctaidd, ond weithiau cytunwyd ar warantau ychwanegol megis gwystlon rhag ofn i un o'r pleidiau eu torri.[13]

Bodolodd system ryngwladol rhwng teyrnasoedd Tsieina am bum ganrif cyn i Frenhinllin y Qin uno'r wlad yn 221 yn dilyn Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar. Yn ystod Cyfnod y Gwanwyn a'r Hydref bu rhyfeloedd yn aml, ond cawsant hwy eu hymladd mewn modd ffurfiol gan barchu rheolau sifalri. Ar ôl yr uniad, mabwysiadodd Ymerodraeth Tsieina cred swyddogol eu bod yn uwchraddol i allanwyr, a buont yn cynnal cysylltiadau â thramorwyr, a elwyd yn "farbariaid allanol", dim ond os oeddent yn cydnabod statws uwch Tsieina.[13]

Cyn ei hegemoni yn y ganrif gyntaf CC roedd Rhufain Hynafol yn cynnal cysylltiadau â phwerau gwrthwynebol megis Carthago ar sail cydraddoldeb. Datblygwyd terminoleg gyfreithiol o fewn yr Ymerodraeth Rufeinig, a gwelwyd cysyniad o ius gentium (cyfraith cenhedloedd) am y tro cyntaf. Gyda chodiad yr Ymerodraeth Rufeinig nid oedd angen i Rufain boeni cymaint am gynnal cysylltiadau â phwerau eraill.[13]

Tra-arglwyddiaeth Cristnogaeth ac Islam[golygu]

Yn 395 rhannodd yr Ymerodraeth Rufeinig yn ddwy rhan: y dwyrain Uniongred, a'r gorllewin Catholig.[13] Ar ôl i'r Ymerodraeth Orllewinol gwympo, hawliodd y Babaeth ei bod wedi etifeddu awdurdod uwchgenedlaethol Rhufain dros Ewrop Gatholig a daeth yr Eglwys Gatholig yn elfen unedig o fewn cymdeithas ryngwladol Ewrop yr Oesoedd Canol. Datblygodd yr Eglwys cyfraith ganon oedd yn manylu ar reolau sancsiynau, cyflafareddiad, gwrandawiadau ffurfiol, diplomyddiaeth a chytundebau, ysgymuniad, dirwyon, a phenydiau cyhoeddus. Datblygodd hefyd athrawiaeth o ryfel cyfiawn a llenyddiaeth ar rôl cred Gristnogol mewn rhyfel. Er cydnabuwyd awdurdod y Babaeth gan wledydd Ewrop a bu'r rheolau hyn wastad yn cael eu hystyried, nid oedd gan y Fatican llawer o rym ymarferol, a chafodd gorchmynion pabaidd eu hanwybyddu'n aml gan arweinwyr seciwlar. Un o orchmynion y Fatican a anwybyddwyd yn amlaf oedd y gwaharddiad ar wladwriaethau i gynnal cysylltiadau â chenhedloedd anghristnogol.[14]

Yn Nwyrain Ewrop a'r Dwyrain Agos parhaodd yr Ymerodraeth Fysantaidd Uniongred tan 1453. Er nad oedd ganddi fawr o rym milwrol i gymharu â'r grym cyfagos, y Byd Islamaidd, goroesodd trwy rwydwaith cuddwybodaeth soffistigedig ac effeithiol, polisïau o rannu a rheoli ymhlith ei gelynion, a chorfflu diplomyddol hynod o hyfforddedig.[13] Ar ôl marwolaeth Muhammad yn 632 ymledodd Islam ar draws y Dwyrain Canol, a rhannau o Affrica, Asia, ac Ewrop. Bwriad Islam fel grym gwleidyddol oedd i greu umma ("cymuned o gredinwyr"). Yn wreiddiol gwnaed hyn trwy'r galiffiaeth, a etifeddodd rôl lywodraethol Muhammad dros Fwslimiaid, ond daethpwyd â therfyn i'r drefn hon gan y sgism rhwng sunni a shia ac wrth i arweinwyr lleol gweld eu hunain yn fwyfwy annibynnol ar y califf.[14]

Yn namcaniaeth Islamaidd gynnar, rhanwyd y byd yn ddwy rhan: Dar al-Islam (tŷ Islam), sef tiroedd Mwslimaidd, a Dar al-harb (tŷ rhyfel), gyda rhyfel parhaol rhwng y ddwy. Er roedd cadoediadau yn bosib, roeddent dim ond yn gallu para hyd at 10 mlynedd. Roedd gan Fwslimiaid rwymedigaeth i ymladd jihad yn erbyn pobloedd Dar al-harb, a'r unig eithriadau oedd Iddewon a Christnogion, neu "Bobloedd y Llyfr", a ganiateir iddynt ymarfer eu ffydd mewn tiroedd Islamaidd er bod ganddynt llai o hawliau na Mwslimiaid ac roedd yn rhaid iddynt talu treth y pen.[14]

Roedd rheolau Islamaidd ar barchu cytundebau yn fwy llym na rheolau'r Eglwys Gatholig. Datblygodd athrawiaeth Islamaidd o ryfel cyfiawn, a arloeswyd gan Saladin yn ystod y Croesgadau, ond fel yn achos y Babaeth, anwybyddwyd hyn yn aml.[14] Yn y bôn cwympodd uniad Islamaidd o ganlyniad i wrthsafiad allanol, a bu rhaid i wledydd Mwslimaidd derbyn cydfodolaeth heddychlon â Dar al-harb. Datblygodd masnach rhwng gwledydd Islamaidd a gwledydd Cristnogol, a rhoddwyd caniatâd i rai arweinwyr Cristnogol i sefydlu gwladfeydd mewn gwledydd Mwslimaidd dan arweiniad conswliaid.[15]

Sefydlodd Mwslimiaid yn Nhwrci Ymerodraeth yr Otomaniaid ym 1299,[14] ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd yn rym pwysig yng nghymdeithas ryngwladol Ewrop.[15]

Esgyniad cymdeithas ryngwladol fodern[golygu]

Datblygodd y gymdeithas ryngwladol gyfoes ar sail y gysyniadaeth o'r wladwriaeth fel gweithredydd annibynnol gyda sofraniaeth a goruchafiaeth gyfreithiol dros bob gweithredydd anwladwriaethol y tu mewn i'w gororau, a gyda chydraddoldeb cyfreithiol i bob gwladwriaeth ar y lefel ryngwladol. Roedd y ddealltwriaeth hon o'r system ryngwladol yn cynnwys diffyg hierarchaeth, hegemoni, ac imperialaeth o fewn cymdeithas ryngwladol Ewrop (dadleir i ba raddau yr oedd hyn yn wir mewn gwirionedd), a datblygodd hefyd y syniad o anymyrraeth gan rymoedd allanol mewn materion mewnwladol gwladwriaethau. Ar droad yr Oesoedd Canol Diweddar a'r Cyfnod Modern Cynnar, datblygodd tri sefydliad canolog cymdeithas ryngwladol fodern: diplomyddiaeth, sef cyfathrebu ffurfiol rhwng gwladwriaethau (gyda'r syniad o freintryddid diplomyddol); cyfraith ryngwladol oedd yn orfodol ar wladwriaethau, gyda'u cydsyniad; a chydbwysedd grym i gadw trefn ryngwladol yng nghyd-destun absenoldeb awdurdod uwch.[15]

Datblygodd cyfraith ryngwladol gyda chyfreithegwyr o Sbaen yn ystod y Dadeni, megis Francisco de Vitoria a ysgrifennodd ar hawliau pobloedd brodorol yr Amerig gyda syniadau oedd groes i farn y Fatican. Yn hwyrach, ysgrifennodd yr Iseldirwr Grotius a'r Swisiad Vattel ar hawliau a dyletswyddau gwladwriaethau yng nghymdeithas ryngwladol, cydbwysedd grym, rheolau diplomyddiaeth, cytundebau, masnach ryngwladol, cyfraith y môr, a rhyfel.[16]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Imperialaeth a threfedigaethrwydd Ewropeaidd[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Globaleiddio[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Damcaniaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol

Mae damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn ceisio gosod fframwaith cysyniadol er mwyn dadansoddi cysylltiadau rhyngwladol.[17] Bodolir perthynas gryf rhwng damcaniaeth ac astudiaeth cysylltiadau rhyngwladol fel disgyblaeth academaidd.[18][19]

Astudiaeth[golygu]

Adeilad Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yr adran gyntaf o'i math yn y byd.[20]

Sefydlwyd yr adran brifysgol gyntaf yn y byd i astudio cysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1919.[20] Sefydlwyd Cadair Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth gan David Davies a ddilynwyd hyn gan Gadair Montague Burton ym Mhrifysgol Rhydychen a Chadair David Davies yn Ysgol Economeg Llundain.[21] Un o'r cymhellion dros sefydlu adrannau a chadeiriau dros y ddisgyblaeth newydd, fel y nododd C. K. Webster yn ei Araith Agoriadol fel yr ail Athro Woodrow Wilson, oedd fel ymateb i erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf a'r angen i osgoi rhyfel arall o'r un fath yn y dyfodol.[22] Un o brif wreiddiau datblygiad cysylltiadau rhyngwladol fel disgyblaeth academaidd oedd y cred rhyddfrydol mewn gwerth addysg, ac ei phwysigrwydd wrth amlygu'r harmoni diddordebau naturiol. Yn ôl y rhyddfrydwyr bydd dysgu cysylltiadau rhyngwladol yn hyrwyddo heddwch a chefnogaeth dros gyfraith ryngwladol a Chyngrair y Cenhedloedd, a sefydlwyd ym 1919.[21] O ganlyniad i'r agweddau hyn, rhyngwladoldeb rhyddfrydol[21] neu ddelfrydiaeth[3] oedd uniongrededd cyntaf y ddisgyblaeth, er roedd rhai ysgolheigion, megis nifer o hanesyddion rhyngwladol, yn amheugar.[21]

Ers ei gychwyn fel maes academaidd, mae cysylltiadau rhyngwladol wedi canolbwyntio ar bolisi[3] (yn bennaf i naill ai sicrháu sefydlogrwydd rhwng gwladwriaethau neu sefydlogrwydd gwladwriaeth benodol o fewn y system ryngwladol) ond gyda phwyslais sylweddol ar ddamcaniaeth.[19] Yn gyffredinol disgrifir hanes y ddisgyblaeth fel cyfres o Ddadleuon Mawr rhwng safbwyntiau damcaniaethol gwrthwynebol, yn aml gyda dadleuon dros fethodoleg, epistemoleg, ac ontoleg.[3] Bellach, mae rhai yn gweld y fath dadleuon yn fogailsyllol ac yn ffordd annefnyddiol o ystyried hanesyddiaeth y ddisgyblaeth ac astudio'r pwnc ei hun,[19] a gan ei fod yn faes mor gymhleth a rhyngddisgyblaethol gall amryw o safbwyntiau damcaniaethol hyd yn oed bod yn gaffaeliad.[3] Digwyddodd y mwyafrif o'r dadleuon hyn ymlith academyddion Gogledd America, Ewrop, ac Awstralia (a elwir gan yr enw anghywir "y traddodiad Eingl-Americanaidd")[3] yn y Rhyfel Oer (1945–91) oedd yn canolbwyntio ar gysylltiadau rhwng yr uwchbwerau (yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd) a'r pwerau mawr. Yn y Trydydd Byd a De'r Byd ar y llaw arall canolbwyntiodd academyddion ac ysgolheigion cysylltiadau rhyngwladol ar broblemau polisi oedd yn berthnasol i'w gwledydd a rhanbarthau hwy, ac yr oedd unrhyw safbwyntiau damcaniaethol yn y rhannau hyn o'r byd yn gyffredinol yn tarddu o syniadau Marcsaidd a Leninaidd ar imperialaeth, damcaniaeth dibyniaeth, a strwythuriaeth.[3]

Ansicr yw statws disgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol yn dilyn diwedd y Rhyfel Oer. Y ddwy brif ddamcaniaeth fodern yw neo-realaeth a neo-ryddfrydiaeth ond mae amheuon am y safbwynt gwladwriaeth-ganolog traddodiadol wedi achosi rhai i gwestiynu os y gall cysylltiadau rhyngwladol yn ei ffurf bresennol oroesi fel maes academaidd ar wahân.[3]

Ymchwil[golygu]

Ceir dau fath o ymchwil ym maes cysylltiadau rhyngwladol: ymchwil traddodiadol, ac ymchwil cyfoes (a elwir hefyd yn Wleidyddiaeth Ryngwladol Fesurol (QIP),[nodyn 4] Astudiaeth Wyddonol Gwleidyddiaeth Ryngwladol (SSIP),[nodyn 5] neu Interpolimetrics).[23] Mae ymchwil traddodiadol yn ymwneud â natur a nodweddion unigryw, tra bo ymchwil cyfoes yn ceisio darganfod patrymau a chysylltiadau cyffredinol rhwng dosbarthiadau o ddigwyddiadau a mathau o endidau.[24] Er enghraifft, bydd astudiaeth ymchwil traddodiadol yn ymdrin â hanes a datblygiad polisi tramor yr Unol Daleithiau, tra bydd astudiaeth ymchwil cyfoes yn ymdrin â mathau o bolisi tramor, megis milwrol neu economaidd.

Cysyniadau[golygu]

Anllywodraeth[golygu]

Un o gysyniadau hanfodol ond dadleuol[25] cysylltiadau rhyngwladol yw anllywodraeth[nodyn 6] y system ryngwladol (neu'r system ryngwladol anarchaidd), sef absenoldeb awdurdod canolog i wleidyddiaeth y byd. Nid yw anllywodraeth yn golygu anhrefn, ond yn hytrach cyflwr ffurfiol y system ryngwladol o ganlyniad i annibyniaeth pob gwladwriaeth ar ei gilydd.[26] Er bod sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig yn bodoli, yn y bôn dim ond gwladwriaethau sydd yn sofran.

Roedd natur anarchaidd y system ryngwladol yn ganolbwynt i lyfr yr ysgolhaig Hedley Bull, The Anarchical Society, oedd yn manylu ar fodel yr Ysgol Seisnig o gymdeithas ryngwladol.

Mae academyddion yn anghytuno dros ba elfen o lywodraeth yn union sydd ar goll yn y system ryngwladol sydd yn ei diffinio fel system anarchaidd. Dywed rhai, gan ddyfynnu diffiniad Weber o'r wladwriaeth, taw sefydliad canolog gyda monopoli ar ddefnydd grym sydd ar goll.[26]

Grym[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthyglau: Grym yng nghysylltiadau rhyngwladol, cydbwysedd grym yng nghysylltiadau rhyngwladol, a pegynedd yng nghysylltiadau rhyngwladol

Ystyrid grym yn gysyniad canolog i gysylltiadau rhyngwladol, yn enwedig gan yr ysgol realaidd.[27] Yn ôl realwyr mae grym ar ffurf galluoedd neu adnoddau yn dynodi nerth gweithredyddion, ac o ganlyniad eu gallu i effeithio ar ddigwyddiadau neu eu rheoli.[28]

Lefelau dadansoddi[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Lefelau dadansoddi

Yn namcaniaeth ac astudiaeth cysylltiadau rhyngwladol safbwyntiau i drefnu ymchwil a dadansoddiad o'u cwmpas yw lefelau dadansoddi. Yn gyffredinol, ystyrid bod yna tair lefel dadansoddi: yr unigolyn neu'r lefel iswladwriaethol, y wladwriaeth, a'r system ryngwladol.

Penderfyniadau[golygu]

Mae ystyried penderfyniadau o fewn cysylltiadau rhyngwladol yn helpu dadansoddi ac egluro digwyddiadau. Mae tybiaethau realaidd ar benderfyniadau yn wladwriaeth-ganolog. Gwelir gwladwriaethau fel gweithredyddion unedol, a'u llywodraethau'n gwneud dewisiadau rhesymol ar sail cyfrifon grym a buddiannau'r wlad. Yn ôl realwyr mae penderfyniadau wastad yn ymatebion rhesymol i ysgogiadau allanol; gellid ystyried ras arfau yn enghraifft nodweddiadol o sefyllfa benderfynu gweithred-ymateb.

Yn ei lyfr ar argyfwng taflegrau Ciwba, Essence of Decision, gosododd Graham T. Allison tair model i geisio dadansoddi digwyddiadau yn nhermau'r penderfyniadau a arweiniodd atynt. Lluniodd model y gweithredydd rhesymol, yn unol â damcaniaethau disgwyliadau rhesymol, fel esboniad am broses benderfynu gwladwriaethau gan ddweud bod pob gweithred gan wladwriaeth yn fodd tuag at ddiwedd. Roedd dau fodel arall Allison yn chwyldroadol. Yn ôl model y broses gyfundrefnol, nid yw'r wladwriaeth yn unedol ac mae gan wleidyddiaeth fiwrocrataidd ddylanwad blaenllaw ar benderfyniadau sydd yn adlewyrchu buddiannau biwrocrataidd yn hytrach na buddiannau'r wlad, ac yn ymateb i wleidyddiaeth fewnwladol yn hytrach nag ysgogiadau allanol. Yn ôl y model gwleidyddiaeth lywodraethol, arweinwyr gwleidyddol sy'n gwneud penderfyniadau ac felly mae eu barnau, personoliaeth, a chefndir ac hefyd natur gwleidyddiaeth a thrafodaeth yn effeithio ar wneud penderfyniadau.

Mae dynodi penderfynwyr, sef pwy sy'n gwneud penderfyniad ar ran gweithredydd rhyngwladol, yn amrywio yn ôl cyd-destun. Ac eithrio pan fo gweithredydd yn unigolyn, megis Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, gall adnabod penderfynwyr bod yn dasg anodd. Mewn achosion lle cyfangorff yw'r gweithredydd mae'n bosib y gellid defnyddio dogfennaeth neu fframwaith sy'n dynodi pwrpas a swyddogaethau'r corff, megis cyfansoddiad, siarter, cyfamod, neu draddodiadau, i ddynodi pwy yw'r penderfynwyr (yn yr achosion hyn swyddogion gwleidyddol o ryw fath). Mae presenoldeb fwyfwy grwpiau yn y broses benderfynu yn cymhlethu cydnabyddiaeth. Mewn cymdeithasau lluosogaethol mae pleidiau gwleidyddol a charfanau pwyso yn chwarae rhan bwysig, ac mewn rhai systemau mae gan y lluoedd milwrol rôl flaenllaw.[29]

Y wladwriaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthyglau: Gwladwriaeth a sofraniaeth

Y wladwriaeth, neu'r genedl-wladwriaeth, yw'r prif weithredydd o fewn cysylltiadau rhyngwladol.[30] Yn ôl Cytundeb Montevideo ar Hawliau a Dyletswyddau Gwladwriaethau (1933) mae'n rhaid i wladwriaeth fodloni'r meini prawf canlynol: poblogaeth barhaol, tiriogaeth ddiffinedig, a llywodraeth sydd â'r gallu i reoli ei thiriogaeth ac i gynnal cysylltiadau â gwladwriaethau eraill.[30] Mae'r olaf o'r rhain yn ffurfio a chynnal y system ryngwladol o wladwriaethau sydd yn cydnabod ei gilydd ac yn rhyngweithio a'i gilydd, neu'r gymuned ryngwladol.[30]

Mae gwladwriaethau yn bersonoliaethau cyfreithiol yng nghyfraith ryngwladol,[30] ac wedi dominyddu gwleidyddiaeth ryngwladol am dros bedair ganrif,[31] gyda Heddwch Westfalen ym 1648 yn cadarnhau y system ryngwladol fodern o wladwriaethau sofran ac annibynnol gyda chydraddoldeb cyfreithiol.[32] Yn bresennol mae tua 200 o wladwriaethau yn y byd, rhai ohonynt yn ficrowladwriaethau.[31]

Er eu nifer a'u pwysigrwydd a dominyddiaeth barhaol yng nghysylltiadau rhyngwladol, dadleua rhai bod yr hen drefn realaidd wladwriaeth-ganolog yn trawsnewid wrth i fwy o sylw droi at weithredyddion anwladwriaethol,[31] cyd-ddibyniaeth,[31] globaleiddio, a llywodraethiant byd-eang.

Strwythurau a phrosesau[golygu]

Cyfraith ryngwladol[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Cyfraith ryngwladol

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Diogelwch[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthyglau: Diogelwch cenedlaethol a diogelwch rhyngwladol

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Diplomyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diplomyddiaeth

Un o'r offer a ddefnyddir gan wladwriaeth i weithredu ei pholisi tramor yw diplomyddiaeth. Mae'n ymwneud â thrafod rhwng gwladwriaethau ac yn yr ystyr hon nid yn unig yw'n offeryn gwladwriaethol ond hefyd yn sefydliad o'r system wladwriaethau ei hunan.[33]

Economi wleidyddol ryngwladol[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi wleidyddol ryngwladol

Mae disgyblaeth economi wleidyddol ryngwladol (IPE)[nodyn 7] yn ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol ac economeg ryngwladol ynghlwm wrth ei gilydd, ac felly yn pwysleisio materion economaidd wrth drafod cysylltiadau rhyngwladol.

Gweithredyddion[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gweithredydd (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)
Adeilad Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, un o'r prif weithredyddion rhyngwladol modern, yn Ninas Efrog Newydd.

Unrhyw endid sydd yn chwarae rhan mewn cysylltiadau rhyngwladol yw gweithredydd. Defnyddir y term yn eang yn yr oes fodern gan ei fod yn osgoi cyfyngiadau'r term gwladwriaeth ac yn cydnabod bod nifer o endidau bellach yn dylanwadu ar gysylltiadau rhyngwladol[34] a bod yr hen safbwynt gwladwriaeth-ganolog wedi newid. Mae gweithredyddion yn cynnwys gwladwriaethau sofran, unigolion, mudiadau, cwmnïau trawswladol, sefydliadau anlywodraethol (NGOau), sefydliadau goruwchgenedlaethol, sefydliadau rhynglywodraethol (IGOau), a sefydliadau rhyngwladol eraill sy'n cynrychioli wahanol wladwriaethau (sydd yn debyg iawn i IGOau ond yn gyfreithiol wahanol).

Polisi tramor[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Polisi tramor

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Rhyfel a heddwch[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthyglau: Rhyfel a heddwch

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Materion rhyngwladol[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Materion yng nghysylltiadau rhyngwladol
Tyrau Canolfan Masnach y Byd ar dân yn Ninas Efrog Newydd ar 11 Medi 2001: mae terfysgaeth yn fater o bwys yng nghysylltiadau rhyngwladol

Mae mater rhyngwladol yn tynnu sylw'r rhai sydd yn weithredol o fewn cysylltiadau rhyngwladol yn ogystal â'r rhai sydd yn ei astudio, ac hefyd yn galw am ddefnydd adnoddau o ryw ffurf gan weithredyddion.[35] Y deipoleg gyntaf i ddosbarthu materion gwleidyddol oedd yn nhermau mewnwladol neu ryngwladol, dull gwladwriaeth-ganolog oedd yn gydnaws â chydweddiad y peli biliards. Ehangwyd ar hyn trwy geisio gwahanu materion i gategorïau gwleidyddiaeth uchel ac isel, lle nad yw materion "uchel" o reidrwydd yn y materion pwysicaf ond y materion sydd yn pennu'r amgylchedd i faterion "isel" ddigwydd. Gwleidyddiaeth uchel, felly, yw sicrhau diogelwch cenedlaethol a chynnal yr amgylchedd ddiplomyddol ryngwladol.[36] Caiff y ddau ddosbarthiad hyn eu herio'n fwyfwy. Ystyrid bod nifer o faterion, yn enwedig yn wyneb globaleiddio, yn pontio'r meysydd mewnwladol ac rhyngwladol ac felly'n amhosib eu categoreiddio yn ôl y deipoleg gyntaf. Yn ail dadleua rhai bod y dosbarthiad uchel-isel yn annefnyddiol gan bod rhai digwyddiadau "isel" yn peri cymaint o fygythiad â digwyddiadau milwrol neu ddiplomyddol. Er enghraifft, i Zaire roedd argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr yn gymaint o fygythiad i ddiogelwch y wladwriaeth ag os oedd y miliynau o ffoaduriaid o Rwanda a Bwrwndi yn fyddin ymosodol.[37] Bellach ni cheir cymaint o bwyslais ar ddosbarthu materion rhyngwladol yn ôl eu math.[38]

Gweler hefyd[golygu]

Nodiadau[golygu]

  1. O'r Saesneg: international relations.
  2. O'r Saesneg: international studies.
  3. Sylwer bod y term "cymdeithas ryngwladol" hefyd yn cyfeirio at gysyniad penodol o fewn traddodiad yr Ysgol Seisnig.
  4. O'r Saesneg: Quantitative International Politics.
  5. O'r Saesneg: Scientific Study of International Politics.
  6. Yn Saesneg: anarchy.
  7. O'r Saesneg: international political economy.

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Termau Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Prifysgol Aberystwyth.
  2. Evans a Newnham, t. 274.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 Evans a Newnham, t. 275.
  4. Evans a Newnham, t. 272–3.
  5. 5.0 5.1 Evans a Newnham, t. 273.
  6. Evans a Newnham, t. 578.
  7. Evans a Newnham, t. 179.
  8. Brown ac Ainley, t. 18.
  9. 9.0 9.1 Armstrong, t. 39.
  10. 10.0 10.1 Armstrong, t. 41–42.
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 Armstrong, t. 41.
  12. Dunne a Schmidt, t. 96.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 13.4 Armstrong, t. 42.
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 14.4 Armstrong, t. 43.
  15. 15.0 15.1 15.2 Armstrong, t. 44.
  16. Armstrong, t. 45.
  17. (Saesneg) The IR Theory Home Page. Adalwyd ar 16 Chwefror 2010.
  18. Burchill a Linklater, t. 1.
  19. 19.0 19.1 19.2 Brown ac Ainley, t. 18–19.
  20. 20.0 20.1 (Saesneg) McInness, Yr Athro Colin. Aber's Interpol. BBC. Adalwyd ar 26 Ionawr 2010.
  21. 21.0 21.1 21.2 21.3 Brown ac Ainley, t. 21–22.
  22. Brown, t. 58–59.
  23. Zinnes, t. 1.
  24. Zinnes, t. 2.
  25. Evans a Newnham, t. 18.
  26. 26.0 26.1 Hurd, t. 20.
  27. Guzzini, t. 689.
  28. Guzzini, t. 690.
  29. Evans a Newnham, t. 114.
  30. 30.0 30.1 30.2 30.3 Evans a Newnham, t. 512.
  31. 31.0 31.1 31.2 31.3 Evans a Newnham, t. 513.
  32. Evans a Newnham, t. 572.
  33. Evans a Newnham, t. 129.
  34. Evans a Newnham, t. 4–5.
  35. White, Little a Smith, t. 5.
  36. White, Little a Smith, t. 9.
  37. White, Little a Smith, t. 10.
  38. White, Little a Smith, t. 11.

Ffynonellau[golygu]

Armstrong, David (2008). "The evolution of international society", gol. Baylis, John; Smith, Steve; ac Owens, Patricia: The Globalization of World Politics. Gwasg Prifysgol Rhydychen

Brown, Chris (2002). Sovereignty, Rights and Justice: International Political Theory Today. Polity Press

Brown, Chris ac Ainley, Kirsten (2009). Understanding International Relations. Palgrave Macmillan

Burchill, Scott a Linklater, Andrew (2009). "Introduction", Theories of International Relations. Palgrave Macmillan

Dunne, Tim a Schmidt, Brian C. (2008). "Realism", gol. Baylis, John; Smith, Steve; ac Owens, Patricia: The Globalization of World Politics. Gwasg Prifysgol Rhydychen

Evans, Graham a Newnham, Jeffrey (1998). The Penguin Dictionary of International Relations. Penguin

Guzzini, Stefano (2005). "Power", gol. Griffiths, Martin: Encyclopedia of International Relations and Global Politics. Routledge

Hurd, Ian (2005). "Anarchy", gol. Griffiths, Martin: Encyclopedia of International Relations and Global Politics. Routledge

Nicholson, Michael (2002). International Relations: A Concise Introduction. Palgrave Macmillan

White, Brian; Little, Richard; a Smith, Michael (2005). "Issues in World Politics", gol. White, Brian; Little, Richard; Smith, Michael: Issues in World Politics. Palgrave Macmillan

Zinnes, Dina A. (1976). Contemporary Research in International Relations. The Free Press

Darllen pellach[golygu]

Hanes

Best, Antony; Hanhimäki, Jussi M.; Maiolo, Joseph A.; Schulze, Kirsten E. (2008). International History of the Twentieth Century and Beyond. Routledge

Kennedy, Paul (1988). The Rise and Fall of the Great Powers: Economic Change and Military Conflict from 1500 to 2000. Fontana

Keylor, William R. (2006). The Twentieth-Century World and Beyond: An International History Since 1900. Gwasg Prifysgol Rhydychen

Marks, Sally (2002). The Ebbing of European Ascendancy: An International History of the World 1914–1945. Hodder Arnold

Damcaniaeth

Clark, Ian (1999). Globalization and International Relations Theory. Gwasg Prifysgol Rhydychen

Steans, Jill; Pettiford, Lloyd; a Diez, Thomas (2005). Introduction to International Relations: Perspectives and Themes. Pearson

Astudiaeth

(1980) gol. Kent, R.C. a Nielsson, G. P.: The Study and Teaching of International Relations. Frances Pinter

Cyfraith ryngwladol

Armstrong, David (2007). International Law and International Relations. Gwasg Prifysgol Caergrawnt

(2000) gol. Byers, Michael: The Role of Law in International Politics: Essays in International Relations and International Law. Gwasg Prifysgol Rhydychen

(2004) gol. Reus-Smit, Christian: The Politics of International Law. Gwasg Prifysgol Caergrawnt