Platon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Platon (Groeg: Πλάτων) (427 CC - 347 CC) sydd yn cynnig y dadansoddiad cyntaf systematig o wleidyddiaeth. Mae dadansoddiad Platon o'r wladwriaeth yn fan cychwyn ym myd athroniaeth fodern. Mae syniadau Plato yn sylfeini i syniadau'r byd diwylliedig a hefyd yn gonglfaen yn hanes a datblygiad y Gorllewin.

Tua 385 CC, sefydlodd ysgol athroniaeth yr Academi ychydig i'r gogledd o Athen, sefydliad a gafodd ddylanwad mawr.

Cefndir[golygu]

Daw Plato o gefndir breintiedig yn Athen, roedd yn byw yn Athen yn ystod ei anterth. Arwr Plato oedd Socrates, effeithiodd ei farwolaeth yn fawr ar Plato. Dedfrydwyd Socrates i farwolaeth gan y demos oherwyd iddo danseilio moesau ieuenctid Athen. Prif syniad Socrates oedd nad oedd yn gwybod dim ac y dylid cwestiynu popeth. Wedi i'r demos yn Athen ddedfrydu Socrates i farwolaeth fe gollodd Plato ffydd yn y gymdeithas ac o ganlyniad fe drodd ei gefn ar yrfa posib yn y llywodraeth ac fe drodd at athroniaeth. Mae Plato yn ddelfrydwr, y peth pwysicaf yw syniadau.

Y Wladwriaeth[golygu]

Prif waith Plato ydy'r Wladwriaeth mae ar ffurf deialog. Fe welir dull dadlau dilechdidol sef i gwestiynu pob safbwynt a gwrthwynebu safbwyntiau fydd yn y yn arwain i d a chasgliadau fydd yn well.

Dameg 'yr ogof' yn Y Wladwriaeth[golygu]

Dameg yw ‘myth yr ogof’, un o rannau os nad y rhan enwocaf o’r Wladwriaeth. Mae’n amlygu’r gwahaniaeth rhwng y bobl sydd yn athronwyr ar rhai sydd ddim, ac yn tanlinellu dyletswydd yr athronydd.

Crynodeb o ‘fyth yr ogof’

Yn yr ogof mae’r carcharorion, does dim golau dydd yn dod i mewn atynt, dydyn nhw ddim yn cofio adeg pan nad oeddent yn garcharorion felly dydyn nhw ddim yn sylwi eu bod nhw yn garcharorion. Cyn belled ac maen nhw’n gwybod dyna ydy’r norm, dydyn nhw ddim yn gwybod yn well. Bydd siapiau yn ymddangos a diflannu o flaen y carcharorion, ac mi fydd y carcharorion yn eu trin ai trafod. Mae’r carcharorion yn hapus eu byd oherwydd nad ydynt yn medru dychmygu unrhyw beth gwahanol a gwell.

Mae yna ffordd wedi ei godi yn croesi ar hyd yr ogof ac mae siapiau 2D yn cael eu cario ar eu traws yn adlewyrchu'r pethau mae’r carcharorion yn eu gweld, mae’r carcharorion yn tybio mai pethau go-iawn ydyn nhw. Maen nhw trafod y delweddau ac yn eu henwi tra mewn gwirionedd y realiti ydy mai dim ond cysgodion o siapiau maen nhw yn eu gweld. Mae yna dan tu draw i’r ffordd, ac er nad ydy’r carcharorion yn gwybod ei fod e yna dyna yw ffynhonnell eu gwybodaeth yn yr ogof, y tan sy’n adlewyrchu’r siapiau. Mae un o’r carcharorion yn llwyddo i dorri'r cadwyni a dechrau cerdded fyny’r ffordd tuag at olau dydd, mae’n gweld beth oedd yn tybio oedd yn wirionedd cynt sef y tan yn taflu cysgodion.

Ar ôl iddo ddod allan o’r ogof mae golau dydd yn ei ddallu ond wedi iddo ymgyfarwyddo a gweld y prydferthwch real mae’n ysu i fynd nôl i mewn at y carcharorion eraill i’w haddysgu. Ar ôl i’r un a ddihangodd fynd nôl i mewn mae’n esbonio yr hyn mae wedi canfod i’r gweddill ond mae’r gweddill yn ei wfftio oherwydd bod ei syniadau yn hollol wrthun i’r hyn maen nhw wedi ei gymryd fel y norm erioed. Yn y mae gweddill y carcharorion yn ei ladd oherwydd eu bod nhw’n fwy cyfforddus gyda’r byd maen nhw’n ei adnabod ac yn ei ddeall er bod yna fyd gwell i’w ddarganfod pe wyddant. Beth yw ei goblygiadau i ymresymu Plato yn y wladwriaeth... I ddechrau gwerth fyddai ein hatgoffa mae i raddau rhyw fath o deyrnged i Socrates ydy gweithiau Plato yn enwedig y Wladwriaeth. Felly gellid gweld mae'r carcharor sy’n torri i ffwrdd ac yna yn dod yn ôl i oleuo pawb arall ac yna yn cael ei ladd oherwydd ei syniadau ydy Socrates. Un o brif ddadleuon Plato ydy fod yna wahanol fathau o bobl, yn eneidiau efydd, arian ac aur. Yn nameg yr ogof mae’n dod yn amlwg fod yna oleuaf 2 math o enaid yn y stori. Yn gyntaf y carcharorion, ag eneidiau efydd ac yn ail yr un sy’n torri ffwrdd sef yr enaid aur sef yr athronydd. Mae’r stori hefyd yn bwysig i ddangos i ni neges Plato fod angen ac yn ddyletswydd i’r athronwyr addysgu ac arwain y ffordd. Dyna sydd i’w weld yn ‘myth yr ogof’.

Cyfiawnder yn Y Wladwriaeth[golygu]

Prif bwnc Y Wladwriaeth ydy 'cyfiawnder'. Mae Plato yn cyflwyno 'cyfiawnder' fel deialog ddychmygol rhwng Socrates yn gwrthwynebu syniadau Cephalus, Polemarchus a Thrasymachus.

  • Cephalus – Cyfiawnder = gonestrwydd :Plato ddim yn cytuno oherwydd dyweder fod gwallgofddyn yn gofyn 'Ble mae'r fwyell?', yn ôl mesur Cephalus o gyfiawnder mi fyddai'r person cyfiawn yn bod yn onest ac yn dweud ble mae'r fwyell ac mi fyddai'r canlyniadau'n flêr.
  • Polemarchus – Cyfiawnder = Cymorth i gyfeillion ond niweidio'r gelynion : Plato yn ansicr y medr bod yn sicr pwy yw'n cyfoedion a pwy yw'n gelynion
  • Thrasymarchus - Cyfiawnder = Buddiannau’r sawl sydd gryfaf: Methu bod yn sicr drwy'r amser beth sy'n fuddiol ac o ganlyniad i'r penderfyniad anghywir gallasai'r buddiol droi'n anfuddiol a chanlyniad hynny fyddai i'r cyfiawn droi'n anghyfiawn.

Plato yn gwrthod derbyn y tri syniad creiddiol yna o gyfiawnder felly Plato am fynd yn ôl i'r dechrau. Y dechrau i Plato ydy trafod y pethau syml, sef anghenion goroesi, bwyd ayyb... Mewn cymdeithas rhaid cael cydweithio i oroesi, gwahanol bobl a gwahanol arbenigaethau e.e. un yn arbenigo mewn cynhyrchu dillad, un mewn bwyd, un mewn adeiladu ayyb... Dyma sut mae cymdeithas yn datblygu a thyfu yn ôl Plato.

Mae'r syniad yma o fod gan bawb ei arbenigaeth yn greiddiol i syniad Plato o gyfiawnder, fe'u gelwir hefyd yn rhaniad llafur. Yn ôl Plato gellir crynhoi adeiladwaith cymeriad dyn i mewn i dri chategori:

1. Meddwl – tynnu casgliadau

2. Cymhellion naturiol, ein hanghenion ein chwantau

3. Ochr angerddol (passionate) hanner ffordd rhwng 1+2

Dywed Plato fod dawn dyn i resymu yn gadael iddo ddewis y balans priodol rhwng y tri ffactor uchod o'i gymeriad. Cred Plato fod y balans rhwng y tri ffactor mynd i fod yn wahanol mewn gwahanol bobl am resymau megis addysg, hyfforddiant ayyb... mi fydd y gwahaniaethau yma yn arwain i raniad llafur neu'r gwahanol arbenigaethau. Mae'r balans gwahanol yma o fewn gwahanol bobl yn ôl Plato yn medru torri dynion i lawr i fod yn un o dri enaid:

1. Enaid Aur – Yr athronydd

2. Enaid Arian – Y Milwr

3. Enaid Efydd – Y Masnachwyr a'r cyffredin

Pwy oedd Socrates a pham bod iddo le mor amlwg yn Y Wladwriaeth?[golygu]

Prif erthygl: Socrates.

Ganwyd Socrates yn 470 CC ac fe’u ddienyddiwyd yn 399 CC am ei syniadau. Ei ddatguddiad mawr oedd - ‘nad oedd yn gwybod dim byd’. Elenchus – ffordd unigryw o athronyddu’n wleidyddol. Cyfres o gwestiynu ac ateb rhwng Socrates a’i wrthbwynt fyddai yn y yn dod i gydnabyddiaeth o anwybodaeth. Fe aeth o flaen ei well am ddau reswm:

(i) cyhuddiad nad oedd yn credu yn y Duw ond yn hytrach yn credu mewn pwerau goruwchnaturiol eraill
(ii) Fod ei syniadau (o gwestiynu popeth) yn ddylanwad gwael ar yr ifanc ac y byddai’n arwain at ddirywiad moesol.

Mae'r rhan fwyaf o sylw i Socrates yn dod trwy weithiau'r bobl a ddylanwadodd yn hytrach nai weithiau ef ei hun, yr enghraifft amlycaf ydy Plato. Fe ddefnyddiodd Plato ddull Socrates o athronyddu, defnyddio deialog. Socrates oedd tad athronyddol Plato, ei brif ddylanwad, daeth marwolaeth Socrates a phwrpas i Plato. Gwnaeth Plato ‘fawrygu gwaith a syniadau Socrates’ fel ei uchelgais mewn bywyd. Syniadau Socrates o ‘gyfiawnder’ mae Plato yn eu gwthio yn Y Wladwriaeth.

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith Plato[golygu]

Cyfieithwyd y rhan fwyaf o waith Plato i'r Gymraeg gan yr ysgolhaig D. Emrys Evans. Fe'u cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru. Maent yn cynnwys:

Cysylltiad allanol[golygu]