Socrates

Oddi ar Wicipedia
Socrates
Ganwyd469 CC Edit this on Wikidata
Alopeke, Athen Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 399 CC Edit this on Wikidata
o yfed o'r cegid Edit this on Wikidata
Athen Edit this on Wikidata
Man preswylAthen yr henfyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAthen yr henfyd Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, athro, ysgrifennwr, moesegydd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAnaxagoras, athroniaeth cyn-Socratig, sophist Edit this on Wikidata
TadSophroniscus Edit this on Wikidata
MamPhaenarete Edit this on Wikidata
PriodXanthippe, Myrto Edit this on Wikidata
PlantLamprocles, Menexenus Edit this on Wikidata

Athronydd cynnar a hynod ddylanwadol o Athen, gwlad Groeg, oedd Socrates (Groeg: Σωκράτης): ef yn ôl llawer a osododd sylfeini athroniaeth Orllewinol. Fe'i ganwyd oddeutu 470 CC, ac fe fu farw yn 399 CC yn Athen.

Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ymchwilio'n frwd i'r syniad o ddoethineb, trwy ddadlau a rhesymu gyda chyfeillion, disgyblion ac athronyddwyr yr oes. Ym mhen amser, daethpwyd i'w adnabod fel y dyn mwyaf doeth yng Ngroeg.

Roedd gan bobl farnau tra-gwahanol am Socrates: rhai yn uchel eu parch ohono, eraill yn ei gollfarnu. Roedd ganddo ddilynwyr brwd (megis Platon), a gelynion ffyrnig yn ogystal.

Yn hen ddyn, fe syrthiodd i warth awdurdodau gwladwriaeth Athen. Fe'i gorchmynwyd i ymatal rhag ymddiddan cyhoeddus, ac i beidio ymwneud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer.

Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fe'i cyhuddwyd o lygru moes pobl ifanc, dyfeisio duwiau newydd, ac anffyddiaeth, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o gegid.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Bettany Hughes. The Hemlock Cup: Socrates, Athens and the Search for the Good Life (Jonathan Cape, 2010).
  • Plato. Amddiffyniad Socrates, cyfieithwyd o'r Roeg gan D. Emrys Evans. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1936)