Aegina

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Aegina neu Egina (Groeg: Αίγινα) yn ynys yng Ngwlff Saronica yng Ngwlad Groeg. Mae'n ynys weddol fechan, tua 13 km o hyd a 15 km o led. gydag arwynebedd o 106 km². "Aegina" yw enw prifddinas yr ynys hefyd.

Gan fod yr ynys yn weddol agos i Athen, mae'n gyrchfan wyliau boblogaidd i drigolion y brifddinas, gyda chryn nifer o Atheniaid yn berchenogion tai hâf yno. Yng Ngroeg yr Henfyd roedd gan Aegina lynges sylweddol, ac roedd gelyniaeth rhwng Athen a'r ynys.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill