Aristoffanes

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Llun dychmygol o Aristoffanes

Dramodydd comig Groegaidd oedd Aristoffanes, fab Philippus (Groeg: Ἀριστοφάνης, ca. 456 CC – ca. 386 CC).

Nid oes sicrwydd ymhle na phryd y cafodd ei eni, ond roedd tua 30 oed yn y 420au pan gafodd lwyddiant mawr yn Theatr Dionysus yn Athen gyda'i ddrama Y Gwleddwyr. Cyfansoddodd 40 a ddramâu; mae unarddeg ohonynt wedi goroesi. Roedd llawer ohonynt yn ddramâu gwleidyddol, yn dychanu gwleidyddion Athen. Yn ddiweddarach, roedd ei feibion Araros, Philippus a Nicostratus hefyd yn lenorion.

[golygu] Dramâu wedi goroesi'n gyflawn

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Edwards, Huw Lloyd, Y llyffantod: drama mewn pedair golygfa (Dinbych: Gwasg Gee, 1973)

ISBN 0707400635 (Addasiad Cymraeg)