Gwasg Prifysgol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwasg Prifysgol Cymru yw prif gyhoeddwyr academaidd Cymru ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd Celtaidd. Cafodd 'Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru' ei sefydlu yn 1922 fel un o fyrddau canolog Prifysgol Cymru (gyda'r Bwrdd Academaidd a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd).

Mae'r Wasg yn cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud cyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru dros y blynyddoedd, yn arbennig ym meysydd cyhoeddiadau ar hanes Cymru, yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith ei chyhoeddiadau pwysicaf y mae Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'r wasg yn cyhoeddi tua 60 o lyfrau academaidd bob blwyddyn.

Dolen allanol[golygu]