Llenyddiaeth Gymraeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cymraeg
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Mae'r erthygl hon yn gyflwyniad i lenyddiaeth yn yr iaith Gymraeg. Am lenyddiaeth yn yr iaith Ladin yng Nghymru, gweler Llenyddiaeth Ladin Cymru. Am lenyddiaeth yn yr iaith Saesneg yng Nghymru, gweler Llenyddiaeth Saesneg Cymru.

Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r chweched ganrif hyd heddiw.

Barddoniaeth gynnar[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Y Cynfeirdd

Tan yn ddiweddar defnyddiwyd yr enw Cynfeirdd i ddisgrifio beirdd y chweched ganrif yn unig, ond bellach derbynnir yr enw fwy fwy i ddisgrifio'r beirdd o'r chweched ganrif tan gyfnod y Gogynfeirdd (Beirdd y Tywysogion). Mae'r cyfnod hir hwn yn cynnwys gwaith y beirdd cynharaf, a elwir yr Hengerdd, ynghyd â gwaith y beirdd diweddaraf a elwir yn gyffredinol Canu'r Bwlch (am ei fod yn gorwedd rhwng yr Hengerdd a chyfnod Beirdd y Tywysogion).

Ymhlith gwaith y cynfeirdd sydd wedi goroesi mae gwaith Aneirin a Thaliesin, ac Armes Prydain, cerdd wladgarol a gyfansoddwyd tua 930. Yn aml cysylltir gwaith y Cynfeirdd â chwedlau a oedd yn cael eu hadrodd gan y cyfarwydd. Y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw'r cyfresi o englynion a adnabyddir fel Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Mae nifer o'r cerddi sydd yn Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest yn perthyn i oes y Cynfeirdd hefyd ac yn cynnwys rhai o gerddi natur hyfrytaf yr iaith a sawl cerdd grefyddol a chwedlonol.

Yr Hengerdd[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Yr Hengerdd

Barddoniaeth gan y beirdd Taliesin ac Aneirin, a ganai yng ngogledd Lloegr a de'r Alban, yw'r llenyddiaeth hynaf yn y Gymraeg. Fe'i cyfansoddwyd yn hwyr yn y chweched ganrif, tua'r cyfnod trodd y Frythoneg yn Gymraeg Cynnar. Cerddi arwrol ydynt, sy'n sôn am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid yn yr Hen Ogledd a'r goresgwynwyr Eingl-Sacsonaidd yn y dwyrain. Dyma'r unig waith dilys i oroesi o'r Oes Arwrol, ond mae'r hanesydd Nennius (9fed ganrif) yn enwi tri bardd arall, sef Talhaearn (Talhaiarn Catag), Blwchfardd (Bluchbard), a Cian.

Cyfres o gerddi a briodolir i Aneirin yw Y Gododdin, hanes ymgais drychinebus llwyth y Gododdin i gipio Catraeth tua 595 O.C. Hwn yw'r darn cyntaf o lenyddiaeth i gyfeirio at Arthur.[1] Wrth i Frythoniaid yr Hen Ogledd geisio lloches yng Nghymru, daethant a'u diwylliant gydan nhw, a daeth Y Gododdin yn adnabyddus i frodorion y fro. Bardd a gafodd le yn chwedloniaeth ddiweddarach Cymru fel Taliesin Ben Beirdd, y credir ei fod yn frodor o Bowys, oedd Taliesin, bardd Urien Rheged, a ystyrid yn dad y Traddodiad Barddol gan feirdd yr Oesoedd Canol.

Canu'r Bwlch[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Canu'r Bwlch

Canu'r Bwlch yw enw ar roddir ar y canu Cymraeg yn y cyfnod rhwng diwedd cyfnod yr Hengerdd a dechrau cyfnod Beirdd y Tywysogion, sef yn fras o'r seithfed ganrif i'r 11eg.

Mae enwau'r rhan fwyaf o'r beirdd a ganai yn y cyfnod a elwir Canu'r Bwlch yn anhysbys bellach. O blith yr ychydig o enwau sydd wedi dod i lawr i ni mae gwaith Afan Ferddig, Arofan, Meigan a Dygynnelw ar goll ac mae union awduraeth y cerddi a briodolir i Lywarch Hen a Heledd yn ansicr. Ceir cerddi mytholegol a briodolir i Daliesin yn Llyfr Taliesin, ond cerddi diweddarach ydyn nhw (ac eithrio rhyw ddwsin o destunau dilys gan y Taliesin go iawn) a gyfansoddwyd tua'r 9fed ganrif. Perthyn i draddodiad yn hytrach na bardd hanesyddol y mae'r cerddi a briodolir i Fyrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin yn ogystal.

Ceir hefyd nifer o gerddi eraill, gan gynnwys y darogan cynnar Armes Prydain, canu natur, cerddi crefyddol, englynion am arwyr (Englynion y Beddau) a cherddi sy'n ymwneud â gwirioneddau amlwg (gwirebau). Er yn ddiweddarach yn eu ffurf presennol, mae'r cyfresi o gerddi byr a adnabyddir fel Trioedd Ynys Prydain, yn amlwg â'u gwreiddiau yn y cyfnod hwn hefyd.

Rhyddiaith Cymraeg Canol[golygu]

Prif erthygl: Rhyddiaith Cymraeg Canol.
Llinellau agoriadol testun Geraint ac Enid (Geraint fab Erbin) yn Llyfr Coch Hergest

Pedair Cainc y Mabinogi[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Pedair Cainc y Mabinogi

Mae Pedair Cainc y Mabinogi yn enw ar gasgliad enwog o bedair chwedl fytholegol Gymraeg a roddwyd ar femrwn yn ystod yr Oesoedd Canol ond sy'n deillio o'r traddodiad llafar. Y golygiad safonol yw cyfrol Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi.

Y pedair chwedl yw: Pwyll, Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llŷr, Manawydan fab Llŷr, a Math fab Mathonwy. Cyfeirir atynt hefyd fel "Y Gainc Gyntaf", ac ati. Mae'r awdur yn anhysbys ond cytunir yn gyffredinol fod y Pedair Cainc yn un o emau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ac yn un o uchafbwyntiau hanes llenyddiaeth Ewrop.

Y Chwedlau Brodorol[golygu]

Mae'r chwedlau brodorol eraill yn cynnwys y chwedl Arthuraidd Culhwch ac Olwen, Breuddwyd Macsen sy'n ymwneud â'r ymerodr Rhufeinig Macsen Wledig, Cyfranc Lludd a Llefelys sy'n dangos dylanwad gwaith Sieffre o Fynwy, a'r chwedl fwrlesg ddychanol Breuddwyd Rhonabwy. Yn perthyn i'r un dosbarth ond o darddiad diweddarach y mae Chwedl Taliesin, sy'n adrodd hanes y Taliesin chwedlonol, yr Areithiau Pros a sawl darn arall o ryddiaith o naws chwedlonol neu ddychanol (mae'r testunau cynharaf sydd wedi goroesi o'r testunau hyn yn dyddio i'r 16eg ganrif).

Y Tair Rhamant[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Tair Rhamant

Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd Cymraeg Canol o'r Oesau Canol. Maent i'w cael yn rhannol neu yn gyfan yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Ceir chwedlau sy'n cyfateb iddynt yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes o ail hanner y 12fed ganrif yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Mae iaith ac arddull y rhamantau hyn yn bur debyg i iaith ac arddull Pedair Cainc y Mabinogi. Y Tair Rhamant yw: Iarlles y Ffynnon (neu Owain), Peredur fab Efrawg a Geraint ac Enid (neu Geraint fab Erbin).

Bucheddau, cyfieithiadau, a thestunau rhyddiaith eraill[golygu]

Ni chyfyngwyd rhyddiaith y cyfnod i chwedlau yn unig. Cafwyd sawl testun hanes a chronicl, e.e. Brut y Tywysogion. Cyfieithwyd neu addaswyd gwaith dylanwadol Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae i'r Gymraeg fel Brut y Brenhinoedd neu Ystoria Brenhinedd y Brytaniaid (testun Brut Dingestow yw'r fersiwn mwyaf adnabyddus).

Cyfiethwyd neu addaswyd nifer o destunau Lladin a Ffrangeg poblogaidd i'r Gymraeg yn yr Oesoedd Canol diweddar. Cafwyd addasiad Cymraeg Canol o ran o gylch chwedlau'r Greal dan y teitl Ystoryaeu Seint Greal. Cafwyd yn ogystal fersiynau o'r chwedlau Ffrangeg am y brenin Siarlymaen a'i farchogion, dan y teitl Ystorya de Carolo Magno, sef Cronicl Turpin, Cân Roland, Pererindod Siarlymaen a Rhamant Otfel; cerddi hir Ffrangeg o'r 12fed ganrif oedd y testunau gwreiddiol ond fe'u troswyd mewn rhyddiaith Gymraeg. Mae cyfieithiadau eraill yn cynnwys Cydymdeithas Amlyn ac Amig, Chwedlau Odo, a Chwedlau Saith Doethion Rhufain. Llyfr taith cynnar yw Ffordd y Brawd Odrig ac mae Delw y Byd yn llyfr daearyddiaeth. O'r Saesneg y cafwyd Ystoria Bown o Hamtwn.

Ceir tua 30 o fucheddau'r saint a gyfieithwyd o'r Lladin yn yr Oesoedd Canol hefyd, er enghraifft Buchedd Dewi sy'n adrodd hanes bywyd Dewi Sant. Ceir un fuchedd lëyg yn ogystal, sef Hanes Gruffudd ap Cynan. Mae cyfieithiadau ac addasiadau o weithiau Lladin yn y cyfnod hwn yn cynnwys cyfieithiadau o ddarnau o'r Beibl, er enghraifft Llyfr Genesis, a llyfrau Beiblaidd apocryffaidd fel Mabinogi Iesu Grist. Ceir yn ogystal nifer o destunau mwy poblogaidd eu naws, fel Hystoria Gwlad Ieuan Fendigaid a thestunau dysgedig ar bynciau Beiblaidd fel yr Elucidarium yn Llyfr yr Ancr.

Yn olaf rhaid crybwyll y testunau Cymraeg niferus o Gyfraith Hywel Dda - rhai dwsinau ohonynt - sy'n ffynhonnell hanesyddol a chymdeithasol bwysig ac yn enghraifft ragorol o goethder y Gymraeg fel cyfrwng lenyddol yn ogystal.

Beirdd y Twysogion (Y Gogynfeirdd)[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Beirdd y Tywysogion

Arferid cyfeirio at y beirdd llys a ganai yn Oes y Tywysogion fel y Gogynfeirdd ond erbyn heddiw defnyddir yr enw Beirdd y Tywysogion. Mae'r term Gogynfeirdd yn cynnwys rhai o'r beirdd a flodeuai ar ddechrau'r 14eg ganrif yn null traddodiadol Beirdd y Tywysogion; ond serch hynny maen nhw'n perthyn i gyfnod Beirdd yr Uchelwyr pan gollasid nawdd y llysoedd brenhinol mawr.

Fe'u gelwir yn Feirdd y Tywysogion am eu bod, bron yn ddieithriad, yn feirdd uchel eu parch a statws a ganai i dywysogion Cymru yn ystod y cyfnod rhwng dyfodiad y Normaniaid i'r wlad a chwymp Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd yn ei frwydr dros annibyniaeth Cymru yn erbyn coron Lloegr.

Y cynharaf o'r beirdd hyn oedd Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ymhlith y beirdd mwyaf yn eu mysg yw Cynddelw Brydydd Mawr, Llywarch ap Llywelyn, Dafydd Benfras, Bleddyn Fardd a Gruffudd ab Yr Ynad Coch a ganodd farwnad rymus i Lywelyn Ein Llyw Olaf. Eithriad i'r drefn oedd Hywel ab Owain Gwynedd, a oedd yn fardd ac yn dywysog ac felly'n rhydd i ddilyn ei drwydded ei hun, a Madog ap Gwallter a oedd yn frawd crefyddol.

Nodweddir gwaith y beirdd hyn oll gan ei fydryddiaeth gymhleth, ei gystrawen arbennig a'i eirfa hynafol

Beirdd yr Uchelwyr[golygu]

Prif erthygl: Beirdd yr Uchelwyr.

Beirdd yr Uchelwyr yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at y dosbarth o feirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru am gyfnod o dair canrif ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern. Daethant i'r amlwg ar ôl i'r beirdd proffesiynol golli nawdd y tywysogion Cymreig yn sgîl cwymp Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1282 a'r goresgyniad Seisnig.

Roedd Beirdd y Tywysogion wedi canu i'r tywysog a'i lys (yn bennaf) ond canai'r to newydd i'r uchelwyr a etifeddasant gyfran o rym gweinyddol y tywysogion ar lefel lleol dan y gyfundrefn newydd. Am fod y cywydd yn gyfrwng mor nodweddiadol o'u gwaith cyfeirir atynt weithiau fel y Cywyddwyr, olynwyr y Gogynfeirdd, ond mae hyn yn gamarweiniol braidd am eu bod yn canu ar sawl mesur arall heblaw'r cywydd, gan gynnwys rhai o hoff fesurau Beirdd y Tywysogion. Dyma gyfnod beirdd mawr fel Dafydd ap Gwilym, Guto'r Glyn, Iolo Goch, Lewys Glyn Cothi a Siôn Cent.

Cedwir gwaith dros 150 o'r beirdd hyn yn y llawysgrifau ac erys canran sylweddol o'u gwaith heb ei gyhoeddi.

Dadeni, Diwygiad a Gwrth-Ddiwygiad[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg

Fel yn achos y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, roedd yr 16eg ganrif yn gyfnod a welodd ddiwedd yr Oesoedd Canol yng Nghymru, a dechrau'r Cyfnod Modern. Dyma'r ganrif pan ledaenodd y Dadeni Dysg o'r Eidal. Roedd y ffaith fod papur yn rhatach ac argraffu llyfrau'n ymledu yn trawsffurfio byd dysg hefyd. Cyrhaeddasai y newidiadau hyn Gymru erbyn canol y ganrif a newidiwyd diwylliant y wlad o ganlyniad. Codwyd to o ddyneiddwyr a oedd yn awyddus i weld Cymru a'r Gymraeg yn rhan o'r datblygiadau hyn. Bu newidiadau mawr yng ngwleidyddiaeth a chrefydd y wlad yn ogystal. Cafwyd Deddfau Uno yn 1536 a 1543. Diddymwyd y mynachlogydd (1536-39) a sefydlwyd Eglwys Loegr a'r ffydd Brotestannaidd yn grefydd swyddogol Cymru a Lloegr, ac yna cafwyd deddf yn 1563 yn gorchymyn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Ond glynodd rhai Cymry wrth yr Eglwys Gatholig a chyfranodd Cymru i'r Gwrth-Ddiwygiad yn ogystal. Cafodd y newidiadau hyn i gyd effaith fawr ar lenyddiaeth Gymraeg.

Parhad[golygu]

Ond cymerodd amser i ddiwylliant Cymru newid. Parhaodd y traddodiad barddol trwy gydol y ganrif, er ei wanychu'n raddol wrth i'r beirdd golli nawdd. Cynhyrchodd y ganrif rhai o feirdd mwyaf dosbarth Beirdd yr Uchelwyr, e.e. Lewis Môn (c.1480-1520), Tudur Aled (c.1480-1525), Lewys Morgannwg (c.1520-50), Gruffudd Hiraethog (m. 1564), Wiliam Llŷn (m. 1580) a Wiliam Cynwal (m. 1587). Ceir nifer o destunau rhyddiaith sy'n perthyn i draddodiad yr Oesoedd Canol hefyd, e.e. Cronicl anferth Elis Gruffydd o Chwech Oes y Byd a nifer o gyfieithiadau ac addasiadau o weithiau Lladin, Ffrangeg a Saesneg, i gyd yn destunau llawysgrif.

Canu rhydd newydd a'r ddrama[golygu]

Mae'n ddiamau fod canu rhydd, cerddi digynghanedd, wedi bod yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ers yr Oesoedd Canol cynnar, ond yn y 16eg ganrif ceir toreth o gerddi ar fesurau a thonnau newydd, nifer fawr ohonynt yn dangos dylanwad canu poblogaidd tebyg yn Lloegr. Ond daeth hen ffurfiau cynhenid Gymraeg i'r amlwg yn ogystal a cheir carolau cynghanedig, cwndidau a mesurau eraill.

Ceir nifer fychan o destunau dramâu mydryddol poblogaidd hefyd, yn cynnwys hanes y Croeshoelio ac Ymddiddan yr Enaid a'r Corff. Perthyn i lenyddiaeth uwch yw'r ddrama Troelus a Chresyd, a gyfansoddwyd ar ddiwedd y ganrif.

Rhyddiaith newydd[golygu]

Gellir dosbarthu'r rhyddiaith newydd, ffrwyth y Dadeni Dysg, yn ddwy ffrwd, un gan awduron dyneiddiol Protestannaidd a'r llall gan y Gwrth-ddiwygwyr Cymreig.

Cyhoeddwyd Yn y lhyvyr hwnn gan Syr John Price yn 1546, y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu. Dilynwyd hynny yn 1567 gan Oll Synnwyr Pen Kembero ygyd William Salesbury. Yn 1567 cyhoeddoedd William Salebury y Testament Newydd yn Gymraeg a chyfieithiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Ond Y Drych Cristianogawl, gwaith y Gwrth-Ddiwygwyr, oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, a hynny yn y dirgel. Gruffydd Robert oedd yr awdwr, ac ef hefyd a ysgrifenodd y Dosbarth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg yn 1567.

Yr ail ganrif ar bymtheg[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llenyddiaeth Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg

Yr argraff gyffredinol a geir wrth edrych ar lenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif yw un o gyfnod o ddirywiad cyson ac unffurfiaeth lethol. Mae hyn yn adlewyrchu cyflwr gwleidyddol Cymru yn y ganrif honno a'r ffaith fod nifer o'r uchelwyr, noddwyr llên uchel a dysg, yn ymbellhau o'u gwreiddiau. Mae'n ganrif a ddominyddir gan grefydd ac nid yw'n syndod i gael fod y mwyafrif helaeth o'i llyfrau yn llyfrau crefyddol, gan gynnwys gwaith y ffigyrau llenyddol pwysicaf.

Barddoniaeth[golygu]

Er gwaethaf y colli nawdd roedd y traddodiad barddol yn araf i edwino ond edwino a wnaeth. Mae'r llond llaw o feirdd da fel Siôn Philyp a'i frawd Rhisiart (Philypiaid Ardudwy), a Siôn Tudur, yn eithriad i'r rheol. Ymhlith yr olaf o'r beirdd proffesiynol oedd Owen Gruffudd a Rhys Cadwaladr, ar ddiwedd y ganrif a dechrau'r ganrif nesaf, ond digon dinod ac ystrydebol yw eu canu mewn cymhariaeth â beirdd mawr yr 16eg ganrif.

Mae'n ddarlun tipyn mwy iach yn y canu rhydd, gyda beirdd fel Edward Morris o'r Perthillwydion a Huw Morris yn canu'n rhwydd ar y mesurau carolaidd yn ogystal ag ar y mesurau caeth. Canu i fân uchewlyr lleol ac er mwyn diddanu'r werin a wnai'r beirdd hyn, heb lawer o uchelgais llenyddol nac awydd newid. Yn is o lawer eu crefft ceid ugeiniau o feirdd llai yn canu ar donau poblogaidd. Roedd llawer o'r canu hwn yn gysylltiedig â gwyliau'r flwyddyn ac yn rhan o draddodiad gwerinol sy'n parhau i'r 18fed ganrif. O'r un cyfnod daw llawer o'r Hen Benillion hefyd, cynnyrch barddonol gorau'r ganrif efallai, er iddynt gael eu diystyru'n llwyr ar y pryd.

Un o lenorion mwyaf dylanwadol y ganrif oedd Rhys Prichard ('Y Ficer Pritchard' neu'r 'Hen Ficer'). Cyfansodd yr Hen Ficer nifer o bennillion syml, gwerinol, ar bynciau crefyddol. Fe'u cyhoeddwyd fel Canwyll y Cymry yn 1681, ddeugain mlynedd ar ôl marwolaeth yr Hen Ficer, a daethant mor bwysig â'r Beibl a'r cyfieithiadau o Daith y Pererin ym mywyd crefyddol y werin.

Rhyddiaith[golygu]

Cyfieithiadau ac addasiadau o weithiau crefyddol Saesneg yw trwch rhyddiaith y ganrif. Ar ei dechrau roedd y Gwrthddiwygwyr Cymreig yn weithgar o hyd (gweler uchod). Mae gweddill rhyddiaith y ganrif bron i gyd yn gynnyrch clerigwyr Eglwys Loegr a'r Piwritaniaid. O blith y cannoedd o awduron mae enwau Rowland Vaughan o Gaer Gai, John Davies (Mallwyd), Oliver Thomas, a Charles Edwards yn sefyll allan.

Perthyn i ddosbarth neilltuol yw Morgan Llwyd o Wynedd, awdur sawl cyfrol o ryddiaith gyfriniol gan gynnwys Llyfr y Tri Aderyn, sy'n un o gampweithiau mawr llenyddiaeth Gymraeg.

Rhaid crybwyll yn ogystal gwaith ysgolheigion fel John Davies o Fallwyd a Thomas Jones, awdur Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb (1688). Dyma ganrif fawr y copïwyr llawysgrifau Cymreig yn ogystal, gwŷr a weithiai'n ddistaw yn y cefndir i ddiogelu etifeddiaeth lenyddol Cymru a gosod un o'r sylfeini ar gyfer adfywiad y 18fed ganrif.

Y ddeunawfed ganrif[golygu]

Searchtool.svg

Prif erthygl: Llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif

Barddoniaeth ac Anterliwtiau[golygu]

Ceir dwy brif ffrwd ym marddoniaeth Gymraeg y 18fed ganrif, sef y canu gwerinol ei naws ar y naill law a'r farddoniaeth ddiwylliedig a ysgrifenwyd gan nifer gymharol fychan o lenorion ymwybodol ar y llall.

Erbyn dechrau'r ganrif yr oedd yr hen draddodiad barddol wedi darfod, ond roedd canu gan feirdd gwlad yn parhau ac yn dod fwyfwy i'r amlwg wrth i'r ganrif fynd heibio. Y 18fed ganrif oedd canrif fawr baledwyr Cymru. Cenid nifer o garolau (cerddi poblogaidd pur wahanol i'r garol fodern) a rhigymau ac roedd yr hen benillion mor boblogaidd ag erioed. Roedd llyfrau'n dod yn rhad i'w argraffu a cheir sawl casgliad o gerddi gan feirdd fel Elis y Cowper a Dafydd Jones, yr argraffydd o Drefriw. Cymerodd barddoniaeth Gymraeg agwedd wleidyddol yng ngwaith Jac Glan-y-gors ac Iolo Morganwg.

Cafwyd adfywiad yn nhraddodiad cerdd dafod yn ystod y ganrif, diolch yn bennaf i waith yr hynafiaethwyr. Tyfodd cylch llenyddol arbennig ym Môn a adnabyddir heddiw fel Cylch y Morrisiaid, oedd yn cynnwys Lewis Morris a'i frodyr, Goronwy Owen ac Ieuan Fardd (Ieuan Brydydd Hir). Beirdd eraill sy'n perthyn i'r un ysgol o feirdd clasurol a rhamantaidd yw Edward Richard a John Morgan.

Un o nodweddion hynotaf y ganrif yw'r anterliwtiau. Math o ddramâu mydryddol yw'r anterliwtiau a berfformid yn y ffeiriau a'r gwyliau mabsant ac achlysuron eraill. Prif feistr yr anterliwt oedd Twm o'r Nant, a oedd yn fardd da yn ogystal. Cyfyngid yr anterliwt i'r gogledd.

Dyma un o ganrifoedd mawr yr emyn yn Gymraeg yn ogystal, canrif William Williams Pantycelyn, Morgan Rhys ac Ann Griffiths.

Rhyddiaith[golygu]

Fel yn achos yr 17eg ganrif, mae'r mwyafrif helaeth o ryddiaith y 18fed ganrif yn waith crefyddol, yn gyfieithiadau, traethodau ac esboniadau a thractau duwiol amrywiol. Ond cynhyrchiodd y ganrif rhai o awduron rhyddiaith gorau'r iaith Gymraeg, yn cynnwys Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau'r Bardd Cwsc, Theophilus Evans a ysgrifennodd y gyfrol ddylanwadol Drych y Prif Oesoedd, Edward Samuel a Thomas Roberts, Llwynrhudol. Yn sefyll allan ar ben ei hun y mae'r gyfres o lythyrau a ysgrifenwyd gan y Morrisiaid a'r enghreifftiau prin ond gwerthfawr o ryddiaith fwrlesg gan Lewis Morris.

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg gan John Rowlands 1998

Cynrychiola llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg "y cyfnod mwyaf cynhyrchiol" yn holl hanes llenyddiaeth Gymraeg, yn ôl Thomas Parry yn ei lyfr Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (1944), "a'r cyfnod a welodd gyfnewidiadau mawr iawn ym mhob agwedd ar fywyd y genedl—yn grefyddol, yn addysgol, yn gymdeithasol, yn wleidyddol. Ni bu mewn unrhyw ganrif arall gynifer o wŷr ymroddgar ac o arweinyddion tanbaid, ac y mae gweithgarwch llawer un ohonynt... bron yn syfrdanol."[2] Dyma gyfnod Daniel Owen, Ceiriog, Islwyn, Gwilym Hiraethog a llenorion cyfarwydd eraill. Dechreuodd gyda Twm o'r Nant, Iolo Morganwg a mudiad y Gwyneddigion ac aeth allan gyda tho newydd a gynrychiolir gan Owen Morgan Edwards, Emrys ap Iwan ac eraill, a gyda Syr John Morris-Jones yn gosod sylfeini ysgolheictod modern. Cyhoeddwyd nifer fawr o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a gweithiau cyfeiriadol fel Y Gwyddoniadur Cymreig, ac roedd amlder darllenwyr Cymraeg yn golygu bod y wasg Gymraeg yn ffynnu fel na fu erioed o'r blaen ac yn llawer mwy felly nag yn yr 20fed ganrif neu'r ganrif bresennol. Ac eto, er gwaethaf y toreithrwydd hynny mae'r rhan fwyaf o haneswyr llên yn barnu o hyd, fel Thomas Parry, mai "cyfartaledd bychan iawn o gynnyrch y ganrif"[3] sydd o safon boddhaol. Ond gan fod cynnyrch y ganrif mor helaeth ac amrywiol ceir llawer o weithiau sydd o werth parhaol er hynny ac mae diddordeb hanesyddol llenyddiaeth y ganrif yn uchel, fel drych i'r gymdeithas Gymraeg a Chymreig a'i meddylfryd.

Yr ugeinfed ganrif a heddiw[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif

Barddoniaeth a drama[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Rhyddiaith[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. BBC Cymru'r Byd — Taith yr Iaith: Yr Oes Arwrol
  2. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944), tud. 228.
  3. Thomas Parry, op. cit., tud. 228.

Ffynonellau a darllen pellach[golygu]

Ffynonellau argraffedig[golygu]

  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith, 2 gyfrol (Gwasg Gomer, 1970, 1971). Traethodau ar ryddiaith Gymraeg o'r Oesoedd Canol hyd y 19eg ganrif.
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944; sawl argraffiad ers hynny). Llawlyfr hanfodol.
  • Thomas Parry a Merfyn Morgan, Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1976)
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1992). Gyda nifer fawr o erthyglau cryno ar bob cyfnod, gwaith llenorion unigol a phynciau arbennig.