John Morris-Jones
| Syr John Morris-Jones | |
|---|---|
John Morris-Jones tua 1885 |
|
| Ganwyd | 17 Hydref 1864 Trefor, Ynys Môn |
| Bu farw | 16 Ebrill 1929 |
| Man claddu | Llanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn |
| Cenedligrwydd | Cymro |
| Yn enwog am | A Welsh Grammar, Historical and Comparative |
| Addysg | Coleg Yr Iesu, Rhydychen |
| Galwedigaeth | Ysgolhaig, beirniad llenyddol, bardd |
| Gweithgar | 1880au - 1920au |
Bardd, ysgolhaig, gramadegydd a beirniad llenyddol oedd Syr John Morris-Jones (17 Hydref, 1864 - 16 Ebrill, 1929). Gosododd seiliau cadarn i ysgolheictod Cymraeg a safonau'r iaith Gymraeg fel cyfrwng llenyddol yn yr 20fed ganrif. Enwir Neuadd John Morris-Jones, neuadd Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor, ar ei ôl.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Cafodd ei eni ym mhentref bychan Trefor, plwyf Llandrygarn, Sir Fôn. Yn fuan wedi hynny, symudodd y teulu i fyw yn Llanfairpwllgwyngyll. Wedi cael ei addysg gynnar yn Ysgol Friars, Bangor, a Choleg Crist, Aberhonddu, enillodd ysgoloriaeth i Goleg Yr Iesu, Rhydychen i astudio mathemateg. Yno cafodd flas ar astudio'r iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, ac 'roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn 1880. Aeth ymlaen wedyn i astudio'r Gymraeg yn Rhydychen dan yr Athro Syr John Rhŷs.
Penodwyd Morris-Jones yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1888 ac yn 1895 yn athro yn yr Adran Gymraeg newydd; ymhlith ei ddisgyblion oedd Syr Ifor Williams. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1918. Bu farw yn 1929 ac fe'i claddwyd yn Llanfairpwllgwyngyll.
Ysgolheictod [golygu]
Cyn ei amser ef, roedd sillafiad y Gymraeg yn amrywio a'r gramadeg heb ei safoni. Campwaith John Morris-Jones oedd creu safon i orgraff y Gymraeg, yn seiliedig ar ymchwil ieithyddol, ac sydd yn parhau yn yr iaith heddiw.
Gyda'i hen gyfaill John Rhŷs, yntau'n ysgolhaig Celtaidd o fri yn ei ddydd, golygodd John Morris-Jones argraffiad o Llyfr yr Ancr (1894). Ond yn bwysicach na hynny, golygodd argraffiad newydd o glasur Ellis Wynne Gweledigaethau'r Bardd Cwsg sy'n astudiaeth bwysig ond hefyd yn un o'r gweithiau ganddo a ysgogodd lenorion cyfoes i droi yn ôl at arddull coeth rhyddiaith Gymraeg glasurol i godi eu safonau a dadwneud effaith niweidiol dylanwad pobl fel William Owen Pughe ar y Gymraeg fel iaith lenyddol.
Y bardd [golygu]
Dim ond un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd ond roedd y gyfrol honno, Caniadau (1907) yn ddylanwadol yn ei dydd. Y cerddi enwocaf ynddi efallai y 'Cân i Famon', 'Cymru Fu: Cymru Fydd' a'r cyfieithiadau o rai o gerddi Heine ac Omar Khayyam. Er nad yw'r cerddi eu hunain o'r safon uchaf efallai, yn rhannol oherwydd y rhamantiaeth ordeimladol a geir ynddynt, roeddent yn boblogaidd yn eu dydd ac yn hwb arall i safonau llenyddol y cyfnod oherwydd cynildeb a mireinder eu mynegiant.
Llyfryddiaeth [golygu]
Gwaith John Morris-Jones [golygu]
- Welsh Orthography (1893)
- Caniadau (1907). Barddoniaeth.
- A Welsh Grammar, Historical and Comparative (Rhydychen, 1913)
- Taliesin (1918). Cyfrol XXVIII o'r Cymmrodor wedi'i neilltuo yn gyfangwbl i astudiaeth Morris-Jones.
- Cerdd Dafod, sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (1925)
- Orgraff yr Iaith Gymraeg (1928)
- Welsh Syntax (1931)
Ymdriniaethau [golygu]
- Bedwyr Lewis Jones, Syr John Morris-Jones, yn Bedwyr Lewis Jones (golygydd) Gwŷr Môn (1979).
- Thomas Parry, Syr John Morris-Jones (1958)