Nant Gwrtheyrn
Oddi ar Wicipedia
Cwm ar arfordir gogleddol penrhyn Llŷn yw Nant Gwrtheyrn, a leolir i'r gogledd-orllewin o bentref Llithfaen, Gwynedd, wrth droed Yr Eifl. Yn hen bentref chwarelyddol Porth y Nant yma, sefydlwyd Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn; fel rheol cyfeirir at y Ganolfan fel "Nant Gwrtheyrn".