Yr wyddor Gymraeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae gan yr wyddor Gymraeg 28 llythyren:
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

Erbyn heddiw cydnabyddir j hefyd yn llythyren yr wyddor gan lawer o ramadegwyr. Fe'i defnyddir mewn geiriau benthyg.

Mae a, e, i, o, u, w, y yn llafariaid. Gall i ac w fod yn gytseiniaid hefyd megis yn neu galwad.

Ynganiad[golygu]

Llythyren Enw'r Llythyren Seiniau cyfatebol (IPA)
a â /a, ɑː/
b /b/
c èc /k/
ch èch /x/
d /d/
dd èdd /ð/
e ê /ɛ, ɛː/
f èf /v/
ff èff /f/
g èg /g/
ng èng /ŋ/
h âets, /h/
i î /ɪ, iː, j/
l èl /l/
ll ell /ɬ/
m èm /m/
n en /n/
o ô /ɔ, oː/
p /p/
ph ffî /f/
r èr /r/
rh rhî, rhô /r̥/
s ès /s/
t /t/
th èth /θ/
u û /ɨ̞, ɨː/ (Gogledd), /ɪ, iː/ (De)
w ŵ /ʊ, uː, w/
y ŷ /ɨ̞, ɨː, ə/ (Gogledd), /ɪ, iː, ə/ (De)

Mae llawer erbyn hyn yn galw'r cytsieiniaid yn "bỳ," "cỳ," "ch," ac yn y blaen yn hytrach na defnyddio'r enwau traddodiadol.

Llyfryddiaeth[golygu]

Am ragarweiniad i hanes yr wyddor Gymraeg yn y cyfnod modern, o oes y Dadeni ymlaen, ynghyd â'r rheolau sillafu safonol a dderbynir heddiw, gweler,

  • John Morris-Jones et al., Orgraff yr Iaith Gymraeg (Adroddiad Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru) (Caerdydd, 1928)