Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd,
y Bala 1954
Eisteddfod Genedlaethol yr Uurdd, Caerfyrddin, 1967.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.[1] Fe'i threfnir gan Urdd Gobaith Cymru a hynny yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau gyda Gŵyl y Banc ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin, a hynny yn y Gogledd ac yn y De am yn ail. Mae'n ŵyl uniaith Gymraeg.
Cystadlaethau ym maes canu, llefaru, dawnsio a chanu offerynnau yw canolbwynt yr Eisteddfod, ond mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cystadlu yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn hefyd. Rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu. Rhennir Cymru i nifer o ardaloedd. Goreuon eisteddfodau yr ardaloedd hynny sef eisteddfodau cylch sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn yr eisteddfodau sir, ac enillwyr y rheini yn eu tro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynir nifer o ddefodau ar brif lwyfan yr Eisteddfod i anrhydeddu enillwyr gan gynnwys enillwyr Y Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Gelf a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Hyd 2007, fe gyflwynwyd Y Fedal Lenyddiaeth yn ogystal, ond dilëwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.
Rhestr Eisteddfodau diweddar [golygu]
Lleoliadau Eisteddfodau'r Gorffennol [golygu]
Cynhelir yr Eisteddfod yn y Gogledd a'r De bob yn ail, ond ym Mae Caerdydd bob pedair mlynedd ers agor Canolfan y Mileniwm.
Cyfeiriadau [golygu]
Gweler hefyd [golygu]
Dolenni allanol [golygu]