Cerdd Dant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerdd Dant yn y 18fed ganrif: Penillion singing near Conwy, paentiad gan Julius Caesar Ibbetson, 1792.

Math draddodiadol o gerddoriaeth sy'n unigryw i Gymru yw Cerdd Dant (weithiau Cerdd Dannau) neu canu penillion.

Yn yr Oesoedd Canol roedd Cerdd Dant yn sefyll ochr yn ochr â Cherdd Dafod ac yn cynrychioli crefft y cerddor o'i gwahaniaethu oddi wrth crefft y bardd. Roeddynt yn perthyn yn agos i'w gilydd. Credir fod y beirdd - neu'r datgeiniaid - yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant cerddorol, ond mae'r manylion yn ansicr.

Heddiw, gellir diffinio'r grefft Cerdd Dant fel: y canwr (neu grŵp o gantorion) yn canu barddoniaeth mewn gwrthbwynt ag alaw neu gainc a chwaraeir fel arfer ar y delyn. Mae llawer o gystadleuthau cerdd dant mewn eisteddfodau, a chynhelir yr Ŵyl Gerdd Dant yn flynyddol. Mae Cerdd Dant, bellach, yn llawer mwy caeth i reolau nag ydoedd gan mlynedd yn ôl; gellir dweud mai effaith cystadlu yw hyn.

Mae cerdd dant yn cynnwys canu'r delyn a chanwr/chantorion. Cenir y geiriau dros gyfeiliant y delyn. Mae’r delyn yn cychwyn drwy chwarae cainc ac wedyn ymuna'r canwr/cantorion gan ganu barddoniaeth ar alaw hollol wahanol, ac mae'r ddau yn gorffen ar union yr un pryd. o'r ugeinfed ganrif daw’r recordiau cynharaf o ganu cerdd ddant. Dyma enghraifft o ddarn o farddoniaeth sy’n cyd-fynd gyda'r delyn:

Y gŵr a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd cân ac englyn,
A gâf y pethau mwyaf tirion,
Sy’n y nef ymhlith angylion.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Aled Lloyd Davies, Hud a Hanes Cerdd Dannau (1984)

Gweler hefyd[golygu]

Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato