Y Ddraig Goch

Oddi ar Wicipedia


Mae Y Ddraig Goch yn symbol herodrol sy'n cynrychioli Cymru ac yn ymddangos ar faner genedlaethol Cymru.

Defnyddiwyd y sarff neu'r ddraig fel symbol gan y Brythoniaid brodorol ar gleddyfau, bathodynnau a cheiniogau ac mae tystiolaeth archaeolegol o hyn. Roedd y sarff neu'r ddraig n bwysig i'r Celtiaid fel symbol, ac mae hyd yn oed awgrymiad fod y meini hynafol yn demlau addoli'r haul a'r sarff. Mae'n bosib fod y Rhufeiniaid wedi dylanwadu ar ddefnydd y Brythoniaid o'r symbol a'u hysgogi i'w ddefnyddio ar faner. Mae tystiolaeth i ddweud y gwnaeth filwyr Celtiadd ddefnyddio'r faner tra'n ymladd fel carfan dan arweiniad y Rhufeiniad.

Ymhlith arweinwyr hynafol y Brythoniaid Celtaidd sy'n cael eu personoli fel dreigiau mae Maelgwn Gwynedd, Mynyddog Mwynfawr ac Urien Rheged. Mae hefyd yn bosib y defnyddiwyd draig ar faner yn y cyfnod hwn yn ôl dehongliad o'r gerdd Gwarchan Maelderw yn Llyfr Aneirin.

Mae’r ddraig goch i’w gweld yn stori hynafol y Mabinogion am Lludd a Llefelys lle mae wedi’i charcharu, yn brwydro â draig wen oresgynnol, yn Ninas Emrys. Mae'r stori yn parhau yn Historia Brittonum, a ysgrifennwyd tua 829 OC, lle mae Gwrtheyrn, Brenin y Brythoniaid yn rhwystredig yn ei ymdrechion i adeiladu caer yn Ninas Emrys. Mae bachgen, Emrys, yn dweud wrtho am gloddio am ddwy ddraig sy'n ymladd o dan y castell. Mae'n darganfod y ddraig wen s'yn cynrychioli'r Eingl-Sacsoniaid, a fydd yn cael ei threchu'n fuan gan ddraig goch Cymru.

Ymhlith y "dreigiau" Cymreig yn Oes y Tywysogion mae Owain Gwynedd, Llywelyn ap Gruffydd ac Owain Glyndŵr. Defnyddiwyd y ddraig ar faner gan Owain Glyndŵr wrth ymladd yn erbyn y Saeson dros annibyniaeth i Gymru yn y 15g.

Ar ôl concwest Cymru, ychwanegodd Harri Tudur y tir gwyrdd i'r faner wrth geisio argyhoeddi ei gysylltiad Cymreig at Cadwaladr Fendigaid wrth frwydro dros goron Lloegr.

Daeth y ddraig goch yn symbol poblogaidd yng Nghymru tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g mewn Eisteddfodau er enghraifft. Mae’r ddraig goch bellach yn cael ei hystyried yn symbol o Gymru ac mae'n ymddangos ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Sarff neu ddraig y Celtiaid[golygu | golygu cod]

Mae motiff y ddraig yn hysbys mewn celf Geltaidd mewn arddulliau amrywiol a thybir ei fod yn deillio o lên gwerin hynafol y Dwyrain Canol a Groeg sy'n debyg i neidr neu sarff. Roedd y Groegiaid a'r Rhufeiniaid yn ystyried y sarff yn ysbryd gwarchod, wedi'i gynrychioli ar eu hallorau.[1] Mae’n bosib bod y ddraig Geltaidd wedi datblygu o'r neidr corniog a gwenwynig sy'n anadlu tân. Mae'n bennaf yn neidr sy'n trawsnewid i fod yn anghenfil.[2] Yn ôl un geiriadur, roedd y sarff yn symbol am yr haul o'r un deilliad a "draig", "adon", "addon", "bel", "bal" ymysg y Cymry.[3]

Mae rhai yn awgrymu efallai fod Brythoniaid brodorol Ewrop wedi dod â’r ddraig gyda nhw pan ymfudodd nhw i Brydain cyn yr Oes Rufeinig.[4] Dywed yr hanesydd B. Deane bod y Brythoniaid dan addysg y Derwyddon yn addoli duw haul a gynrychiolwyd gan symbol y sarff. Dywed yr hanesydd y byddai derwyddon a ddilynai y Duw "Hu rheolydd-ddraig y byd" yn cael eu hadnabod fel gwiberod.[5] Roedd y derwyddon Cymreig yn addoli duw'r ddraig, y duw gleidio. Roedd y Glain neidr, neu Wŷ'r neidr yn ddirgelwch mawr y derwyddon ac roedd hefyd cysylltiad rhwng Ceridwen a'r neidr.[6]

Tystiolaeth archaeolegol[golygu | golygu cod]

Mae tystiolaeth cynhanesyddol mor gynnar a 500 CC o'r Celtiaid fel diwylliant neu gwlt sarff yn ymddangos mewn lluniau ar dorciau rhan fwyaf ond nid yw hi bob amser yn glir os mai sarff neu ddraig sydd arnynt. Mae nadroedd corniog yn aml yn ymddangos gyda'r duw Cerunnos o amgylch ei wddf nei ei ganol. Gwisgwyd fathodynnau a phinnau gyda nadroedd yn y cyfnod La Tene (500CC i 0) Ymddengys gleddyfau gyda nadroedd neu ddreigiau o'r 3g CC a cheiniogau o'r 2g CC a gwisgwyd fibulae (bathodynnau enamel) yn ystod rheolaeth y Rhufeiniaid o Brydain.[7]:39

Bathodyn sarff/draig Celtaidd 50 - 150 OC
Cerunnos yn dal nadroedd corniog yn wynebu eu gilydd, Cirencester

Roedd pobloedd Celtaidd y Gorllewin yn gyfarwydd â dreigiau yn yr oes cyn-Gristnogol a bod pobl frodorol Prydain yn gwisgo addurniadau Celtaidd gyda motiffau o ddreigiau arnynt yn ystod goresgyniad y Rhufeiniaid. Mae tystiolaeth archeolegol hefyd fod y Celtiaid cyfandirol wedi defnyddio tlysau a phinnau ar ffurf draig yn ystod cyfnod La Téne o c.500CC hyd 1 OC.[8][9][10]

Mae cysylltiad rhwng Duwiau Celtaidd yr awyr a'r haul a nadroedd gan gynnwys rhai corniog. Mae enghraifft o gerfiad Celtaidd yng Nghaerloyw sy'n addoli Duw haul. Mae'n cynnwys cerfiad o olwyn haul a neidr gyda cyrn hwrdd.[11] Defnyddiwyd symbol o sarff gorniog gan y Celtiaid cyfandirol yn Gâl gan y Gâliaid, yng ngogledd-orllewin Ewrop cyn ac ar ôl y cyfnod rhufeinig. Mae'n ymddangos tair gwaith ar y pair Gundestrup a cysylltir y neidr corniog gyda Cerunnos mor gynnar a'r 4g CC yng ngogledd yr Eidal mewn cerfiadau carreg yn Val Camonica.[12] Roedd temlau y Derwydd yn gylch gerrig gyda craig fawr yn y canol i gyrochioli duwdod a thragywyddoldeb; y sarff fel y cylch, a'r wy. Mae cylchoedd cerrig fel hyn cerrig fel hyn yn yr Alban; Avebury, Stanton Drew, a Côr y Cewri yn Lloegr â llawer yn Llydaw. Temlau y sarff yw rhain ac maent yn gysylltiedig gyda ffynhonnell popeth neu bywyd popeth yn ôl yr athro W.G. Moorehead.[13]

Dargafuwyd hefyd freichledi "glain neidr" yng Nghymru, Cernyw ac Uchedldiroedd yr Alban a gynrychiolodd wyau sarff ac yn oes y Rhufeiniaid defnyddwyd "wyau" tua maint afal fel amulet.[14]

Darn o gleddyf Celtaidd 50 OC

Mae'r defnydd cynharaf y gwyddys amdano o'r ddraig gan y Celtiaid yn ymddangos mewn cleddyfau a gwain yn y 4edd ganrif CC.[15] Un enghraifft a ddarganfuwyd ym Mhrydain yw cleddyf Celtaidd o'r oes haearn gynnar sy'n cynnwys dwy ddraig yn wynebu eu gilydd ar gleddyf o bosib o'r diwylliant Hallstatt.[16][17] Darganfuwyd dau gleddyf ddiwylliant La Tène neu ddiwylliant Hallstatt a thrydydd cleddyf o ddiwylliant La Tene hefyd yn afon Tafwys.[18][19][20] Mae darganfyddiad y gwain dreigiau celtaidd yn y Tafwys yn awgrymu yr oedd cysylltiadau rhwng Prydain a gweddill y byd Celtaidd yn y degawdau o gwmpas tua 300 CC.[21] Yn ogystal a hyn, mae tystiolaeth o ddreigiau Celtaidd hefyd ar ddarnau arian Prydeinig o'r cyfnod 50-45 CC .[22]

Corn y Celtiaid[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Corn Celtaidd

Mae tystiolaeth i awgrymu y byddai'r Corn yn cael ei ddal gan bennaeth, fel y dangosir gan ffigwr Bituitos a oedd o bosib yn Frenin Galaidd.[23] Roedd darnau arian a fathwyd gan y Rhufeiniaid yn dangos trympedi rhyfel y Celtiaid. Mae'r trympedi Celtaidd hyn yn annhebyg i utgyrn Rhufeinig, gan fod ganddynt "bennau angenfilod".[24] Roedd y Corn Celtaidd neu Galaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Celtiaid mewn ffordd debyg i'r ffordd roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio baneri a bu enghreifftiau o'r Cyrn yn Rhufain mewn cofiant o frwydrau'n erbyn y Galiaid. Ceir enghraifft o gorn â phen y Ddraig ar waelod Colofn (Rhufeinig) Trajan.[25] Disgrifiwyd y Corn gan rai yr un fath â thrwmped Dacia. Mae tebygrwydd amlwg rhwng corn Celtaidd y Galiaid a baner draig Dacia La Tene a gemwaith gyda dreigiau a seirff.[26] Mae dynes sy'n dal corn Celtaidd hefyd yn ymddangos ar fronblat yr ymerawdwr Awgwstws.[27] Darganfuwyd corn Celtaidd efydd gyda phen baedd yn dyddio o'r Oes Haearn yn Suffolk, Lloegr yn 2021.[28]

Draco a safon Rufeinig[golygu | golygu cod]

Mae'r defnydd milwrol o'r term "ddraig" (yn Lladin, "draco") yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Rhufeinig ac mae hyn yn ei dro yn debygol o gael ei ysbrydoli gan symbolau'r Scythiaid, Indiaid, Persiaid, Dacianiaid neu Parthiaid.[7] Ystyriwyd y ddraig gan y Persiaid a'r Indiaid fel arwyddlun brenin.[29] Er ei bod yn gytun mai Brythoniaid Rhufeinig a amddiffynodd Prydain i ddechrau rhag y Sacsoniaid, megis Ambrosius Aurelianus a Artorius; mae'n bosib nad oes gan ddraig y Cymry unrhyw gyswllt o gwbl gyda draig filwrol y Rhufeiniaid. Fodd bynnag, fe wnaeth draig y Rhufeiniaid gryfhau'r cysylltiad rhwng y ddraig a'r rhyfelwr ym Mhrydain.[7]:43

Gall y term draco gyfeirio at ddraig, sarff neu neidr ac mae'r term draconarius (Lladin) yn dynodi "cludwr y safon sarff".[30] Mae Franz Altheim yn awgrymu bod ymddangosiad cyntaf y draco a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid yn cyd-daro â recriwtio milwyr nomadaidd o dde a chanolbarth Asia yn ystod cyfnod Marcus Aurelius gan y Rhufeiniaid.[31] Mae tystiolaeth archiolegol i ddangos bod Sarmatiaid wedi'i lleoli yn Ribchester yn ystod y 3g ac mae delwedd o farchog a dargafuwyd yno yn debyg i ddelwedd o farchog yn dal baner gyda draig, a ddarganfuwyd yng Nghaer.[32] Cynrychiolwyd carfannau o filwyr gan y safon filwrol draco o'r drydedd ganrif yn yr un modd ag yr oedd safon yr eryr Aquila yn cynrychioli'r llengoedd. Yr enw ar gludwr safonol y fintai oedd draconarius ac roedd yn cario ffon euraid gyda draco ar y brig.[7] Er enghraifft, tystir bod Gâl wedi gorymdeithio o dan y ddraig i wahaniaethu rhwng y fintai Galaidd a'r llengoedd Rhufeinig.[33]

Yn ôl Wade-Evans, mae'n bosib olrhain y ddraig goch yn ôl i Macsen Wledig (Magnus Maximus). Mi fyddai ymerawdwr Rhufeinig yn chwifio'r ddraig borffor wrth orymdeithio i ryfel ac mi wnaeth Macsen orymdeithio i ryfel o Gymru.[34]

Draig y Brythoniaid a'r Cymry[golygu | golygu cod]

Personoliad Brenhinoedd y Brythoniaid[golygu | golygu cod]

Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael Cymru, awgrymwyd mae'r Brythoniaid Rhufeinig a wrthwynebodd oresgyniad y Sacsonaidd. Mae hyn i'w weld yn yr enwau a briodolir yn y chwedl i'r rhai a arweiniodd yr wrthblaid, gan gynnwys Emrys Wledig (Ambrosius Aurelianus) ac efallai Artorius. Gallai hyn roi cyfrif am sut y daeth y derminoleg Rufeinig i gael ei mabwysiadu gan Brydeinwyr.[7]

O gofnodion ysgrifenedig cyntaf y Brythoniaid, daeth yn amlwg bod dreigiau eisoes yn gysylltiedig ag arweinwyr milwrol. Wrth ysgrifennu tua 540, soniodd Gildas am y pennaeth Brythonig Maelgwn Gwynedd ("Maglocunus") yr "insularis draco".[35]

Mae'r beirdd Cymraeg neu Frythonig cynnar, Taliesin ac Aneirin yn defnyddio dreigiau yn helaeth fel delwedd ar gyfer arweinwyr milwrol,[7][36] ac i'r Brythoniaid, dechreuodd y gair draig olygu arweinydd rhyfel, tywysog neu reolwr.[37] Er na chawsant eu llunio tan yn ddiweddarach, mae prif ran Y Gododdin a’r cerddi arwrol ar Urien Rheged gan Taliesin bron yn sicr yn dyddio o’u tarddiad i’r chweched ganrif.[38][39] Yn Y Gododdin, disgrifia Aneirin ei noddwr, Mynyddog Mwynfawr fel "y ddraig" pan sonia am "wledd y ddraig". Disgrifia hefyd yr arweinydd rhyfel, Gwernabwy mab Gwen, fel draig brwydr Catraeth.[40][39] Disgrifiodd Taliesin, Urien Rheged, arweinwyr dibrofiad a medrus fel "dreic dylaw" (draig dibrofiad) a "dreic hylaw" (draig medrus) yn y drefn honno.[41] Gelwir Aeddon o Fôn yn Ben Ddraig hefyd gan Taliesin. Disgrifir Lludd fab Beli ac Uthr Bendragon hefyd fel dreigiau mewn cerddi di-awdur.[42] Yn ogystal, galwyd Owain ap Urien yn "Owain ben draic", y brif ddraig.[7] Galwyd Selyf ap Cynan yn Selyf Sarffgadau ("Selyf neidr y brwydrau") a bu farw yn 616 yng Nghaer.[43] Mae cerddi Taliesin yn diweddarach yn cyfeirio at ddychweliad Cadwaladr (tua 655 i 682) a dyfodiad rhyddid o'r Sacsonaid. Serch hynny efallai fod y rhain cyn hyned â diwedd y 7fed ganrif, ac yn sôn am y "draig ffaw ffyst gychwyned".[41]

Baner cyntaf o'r Ddraig Goch?[golygu | golygu cod]

Yn ôl Nennius, roedd y ddraig goch yn symbol o wrthwynebiad milwrol ym Mhrydain cyn 800AD. Mae'r gerdd "Gorchan Maelderw" gan Aneirin yn dyddio o tua 600 OC ac yn cyfeirio at "rud dhreic" a all ei chyfieithu fel "draig goch" a "pharaon" yn cyfeirio at yr hen enw Dinas Emrys sydd i'w weld yn Nhrioedd Ynys Prydain a Lludd a Llefelys. Mae'r gerdd yn profi bod draig goch genedlaethol y Brythoniaid yn gyfredol mor gynnar â 600AD (dwy ganrif cyn cael ei hysgrifennu yn Lladin gan Nennius).[7] Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru yn y 6g. Mae'r gair "pharaon" yn enw hynafol ar Ddinas Emrys, ac mae'r cyfeiriad hon dwy ganrif cyn cofnod Nennius yn Historia Brittonum o stori Lludd a Llefelys; arwydd posib o darddiad hyd yn oed hŷn na hyn.[10]

Yn y gerdd, fe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn ystod Brwydr Catraeth yn ogystal a'r haul a'r Duw "Hu". Ysgrifenwyd y gerdd gan Taliesin ond mae'n ymddangos yn y Llyfr Aneirin. Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, arweinydd y lluoedd brodorol er mwyn amddiffyn y Brythoniaid.[44][45] Mae'r faner hon yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine" gyda'r haul arno.[46]

Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldrw ac ymdrech i'w gyfieithu (o gyfieithiad Saesneg:[47][44]

Molawt rin rymidhin rymenon.

(Moliant yw rhaniad y rhai a ryfeddant.)

Dyssyllei trech tra manon.

(Syllai'r buddugol tra teg.)

Disgleiryawr ac archawr tal achon

(Disgleiro ac amlwg tal flaen.)

ar rud dhreic fud pharaon.

(a'r rhudd-ddraig fydd pharaon.)

Kyueillyawr en awel adawaon.

(Cyfeilir ar awel ei bobl.)

Mabinogion[golygu | golygu cod]

Yn stori'r Mabinogion mae Lludd a Llefelys, mae'r ddraig goch yn ymladd â'r Ddraig Wen sy'n goresgyn. Mae pla yn cael ei achosi gan frwydr rhwng draig goch a draig wen estron. Rhaid i Lludd osod trap iddynt yn union ganol yr ynys a elwir Rhydychen, eu rhoi i gysgu gyda medd, ac yna eu claddu dan ddaear mewn cist garreg. Mae'r trydydd pla yn cael ei achosi gan ddewin nerthol, sy'n taflu swyn i wneud i'r holl lys syrthio i gysgu tra ei fod yn ysbeilio eu hystordai. Rhaid i Lludd ei wynebu, gan gadw ei hun yn effro gyda llond dwrn o ddŵr oer.[48] Mae Lludd yn dychwelyd adref i Brydain. Mae'n dinistrio'r Coraniaid gyda'r cymysgedd pryfed ac yn cyfyngu'r dreigiau yn Ninas Emrys. Yn olaf mae'n ymladd yn erbyn y dewin, sy'n ymostwng i Lludd ac yn ddod yn was ffyddlon iddo.[48]

Historia Brittonum[golygu | golygu cod]

Mae Gwrtheyrn ac Ambros yn gwylio'r frwydr rhwng y dreigiau coch a gwyn: darluniad o lawysgrif o'r 15fed ganrif o Historia Regum Britannaiae gan Sieffre Mynwy.

Mae'r chwedl yn parhau yn yr Historia Brittonum, a ysgrifennwyd gan Nennius. Ysgrifennwyd Historia Brittonum tua 828, ac erbyn hynny nid oedd y ddraig bellach yn symbol milwrol yn unig ond yn gysylltiedig â gwaredwr y Brythoniaid/Cymry oddi wrth y Sacsoniaid. Dyma'r tro cyntaf hefyd i liw'r ddraig fod yn goch. Serch hynny, mae'n ddigon posib bod yna briodoliad hŷn o goch i liw'r ddraig yn Y Gododdin.[7] Mae stori Lludd a Llefelys yn y Mabinogion yn setlo'r mater, gan sefydlu'n gadarn bod draig goch y Brythoniaid Celtaidd yn gwrthwynebu draig wen y Sacsoniaid. [49]

Ym mhenodau 40–42 ceir naratif lle mae'r teyrn Gwrtheyrn yn ffoi i Gymru i ddianc rhag y goresgynwyr Eingl-Sacsonaidd. Yno mae'n dewis bryngaer fel safle ei encil brenhinol, ac yn ceisio adeiladu cadarnle, ond mae'r castell yn cwympo dro ar ôl tro. Dywed ei ddoethion wrtho fod yn rhaid iddo aberthu bachgen ifanc a aned heb dad yn y fan a'r lle i leddfu'r felltith. Anfonodd y Brenin ei filwyr allan ar draws y wlad i ddod o hyd i fachgen o'r fath ac mae'n darganfod bachgen o'r fath, Emrys, ond datguddia Emrys y gwir reswm dros y dymchwel: mae pwll cudd yn cynnwys dwy ddraig, un goch ac un wen, yn cynrychioli'r Brythoniaid a'r Sacsoniaid, wedi'u claddu o dan y sylfaen.[50] Eglura sut y byddai Draig Wen y Sacsoniaid, er ei bod yn ennill y frwydr ar hyn o bryd, yn cael ei threchu gan y Ddraig Goch Gymreig yn fuan. Wedi cwymp Gwrtheyrn, rhoddwyd y gaer i'r Uchel Frenin Ambrosius Aurelianus, a elwid yn Gymraeg fel Emrys Wledig, a dyna pam ei henw. [50]

Uthyr ac Arthur[golygu | golygu cod]

Mae'r gerdd o'r 10 neu 11g "Pa Gwr?" yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cyfeirio at Uthyr Penddraig "Mabon am mydron / Guas uthir pen dragon."[51][52] Mae hefyd cyfeiriad at Uthyr, "hut Uthyr Pendragon" yn Tair Hud Fawr Ynys Prydain (Trioedd Ynys Prydain, 28) sydd yn profi fod y wybir am y stori yn y traddodiad Gymreig cyn cyfnod Sieffre o Fynwy.[52] Er hyn, awgrymir yr awdur Carl Lofmark ei bod yn bosib nad oedd Uthr yn berson go iawn ac mewn gwirionedd ystr Uthr yw "ofnadwy" yn hytrach nag enw tad Arthur, "Arthur mab uthr pen dragon".[7]:52

"Ythr Ben Dragwn" yn "Dare Phrygius & Brut Tysilio" sydd wedi'i chadw yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen [a]

Ailadroddir yr un stori am y dreigiau coch a gwyn yn Hanes Brenhinoedd Prydain gan Sieffre o Fynwy, lle mae'r ddraig goch hefyd yn broffwydoliaeth am ddyfodiad y Brenin Arthur.[54] Pan gyrhaeddodd y chwedlau Arthuraidd diweddarach eu ffurf fodern, ysgrifennodd Sieffre o Fynwy, yn y 12fed ganrif ar gyfer cynulleidfa Ffrengig a Llydaweg, fod y Brenin Arthur yn defnyddio baner draig aur.[55] Roedd ei safon hefyd wedi'i addurno â draig aur.[56][57] Sonnir mewn o leiaf pedair llawysgrif fod Arthur yn gysylltiedig â'r ddraig aur, ac fod safon y ddraig aur yn cael ei defnyddio i hysbysu milwyr clwyfedig am hafan iddynt wrth gefn byddin Arthur.[58] Ymddengys Uthyr hefyd yn Brut y Brenhinoedd, "yn sef yv hynny yn yavn Gymraec Vthyr Bendreic . . . canys Myrdin a’e daroganassei yn urenhin trvy y dreic a welat yn y seren".[52]

Personoliad y Tywysogion[golygu | golygu cod]

Sefnyddwyd y term "draig" i gyfeirio at arweinwyr Cymreig gan gynnwys Owain Gwynedd.[59] Cyfeiria Cynddelw Brydydd Mawr, bardd llys i Owain Gwynedd, ato mewn un farwnad, gan ei bersonoli fel "Draig aur Eryri o eryrod".[59][60] Disgrifia Cynddelw "dderwyddon a beirdd yn uno i ddathlu y ddraig" mewn cerdd i Owain Cyfeiliog.[61]

Disgrifir Owain Cyfeiliog fel draig gan Cynddelw Brydydd Mawr. Disgrifir Owain ap Gruffudd (Owain Goch) fel draig gan Hywel Foell rhwng 1240 a 1280 hefyd.[62] Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf).[63]

Owain Glyndŵr[golygu | golygu cod]

c. 1400- 1416, Y Ddraig Aur, safon frenhinol Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, a godwyd yn ystod Brwydr Twthil, Caernarfon, 1401.

Personolwyd Owain Glyndŵr hefyd fel "y ddraig".[64] Ym mis Tachwedd 1401, fe gododd Owain Glyndŵr faner y ddraig yng Nghaernarfon fel symbol o fuddugoliaeth y Brythoniaid. Awgrymir yr hanesydd John Davies fod syniadaeth Owain yn dilyn traddodiad mwy apoclyptaidd Nennius a Siefre o Fynwy ac ei fod ddim eto wedi mabwysiadu syniadaeth mwy pragmatig Llywelyn I a Llywelyn II.[65] Adroddir Adda Brynbuga (Adam of Usk) mai draig aur Glyndwr oedd y defnydd cyntaf o safon draig a ddefnyddiwyd mewn rhyfel gan filwyr Cymru ar y 1af o Dachwedd, 1401.[66][67] Yn draddodiadol, cysylltir y ddraig aur ar gefndir gwyn hwn gyda'r un ddefnyddiodd Uthyr Penddraig yn ôl Historia Regum Brittaniae Siefre o Fynwy. Yn ogystal, cysylltodd ei hun â "Camber" a Cadwaladr mewn llythyron at Frenin yr Alban ac arglwyddi Iwerddon; ac drwy amlygu'r cysylltiadau hyn drwy farddoniaeth a delweddau ei nôd oedd cynyddu ei statws a'i gyfreithlondeb fel Tywysog Cymru.[68] Ar ei sêl mae Glyndwr hefyd yn ymddangos gyda ddraig Gymreig ar ei helmed, pen ei geffyl a'i goron.[69] Roedd Sêl Fawr Glyndŵr fel Tywysog Cymru hefyd yn cynnwys draig ar ei frig. [70]

Tuduriaid[golygu | golygu cod]

Safon Harri Tudur, Brwydr Maes Bosworth

Ar feddrod Edmwnd Tudur, mae ei ddelw yn gwisgo coron wedi'i gosod gyda "draig Cadwaladr".[71][72] Yn dilyn buddugoliaeth ei fab ym Mrwydr Maes Bosworth, defnyddiodd Harri VII ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd wrth fynd i mewn i Eglwys Gadeiriol Sant Pawl.[69] Defnyddiodd Harri’r VII fotiff y ddraig fel rhan o herodraeth tŷ Tuduraidd yn hytrach na Chymru.[73] Defnyddiwyd "draig Cadwaladr" fel cefnogwr ar arfbeisiau brenhinol holl sofraniaid Tuduraidd Lloegr ac ymddangosodd hefyd ar safonau Harri VII a Harri VIII.[74]

Defnydd fodern cynnar[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol 1910. Sylwer ar y faner o'r ddraig goch yn y cefndir.

Yn Eisteddfod Lerpwl yn 1840, defnyddiwyd "safon sidan a osodwyd dros gadair y llywydd, ar yr hon a banetiwyd ddraig goch, ar ddaear werdd, gyda ffîn wen - hon, y dywedodd, oedd wedi'i hanfon ato gan Mr Davies o Cheltenham, a oedd o hyd yn barod i gynnal cofiant a dewrder ei ac ein gwlad." Roedd y safon sidan hefyd yn cynnwys yr arwyddair "y ddraig goch ddyle gychwyn".[75] Yn wreiddol awgrymwyd draig aur ac "urdd marchog i Gymru".[76] Dwy flynydd yn ddiweddarach, defnyddiwyd baneri gyda'r ddraig goch yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni,1842.[77]

Bathodyn a ddaeth ar y Mimosa yn 1865

Yn 1865, hwyliodd long y Mimosa i Batagonia gan hedfan baner y ddraig goch.[78] Yna, yna 1893, ymddangosodd lythyr gan 'Arlunydd Penygarn' (TH Thomas) yn y Daily Graphic yn galw am gynrychiolaeth o Gymru ar arian newydd. Ar ôl iddo ef ei hun dderbyn ysgogiad mewn llythyr gan IT Jacob, fe dechreuodd Penygarn ymgyrchu dros gael y ddraig goch ar arian, y safon frenhinol, arfbais Caerdydd a'r faner genedlaethol. Fe ddaeth yn awdurod answyddogol ar y mater erbyn troad y ganrif gan ymgynghori gyda Eisteddfod Llanelli 1902 ar y ddraig goch "cywir" a baner yr Eisteddfod genedlaethol gyda'r ddraig. Mewn cyfarfod Pan-Geltaidd yn Nulyn yn 1901, "Draig Goch Cymru oedd ar y blaen"; o bosib y tro cyntaf i'r ddraig gael ei weld tu hwnt i Gymru (neu Batagonia).[79]

Ym phasiant cenedlaethol Cymru 1909, ymddangosodd y ddraig goch yn sefyll ar gefndir gwyn. Roedd draig goch oedd ar long Terra Nova Capten Scott hefyd yn ddraig yn sefyll ar gefndir gwyn a gwyrdd. Hyd at y pwynt hwn, nid oedd fersiwn safonol o'r ddraig Gymreig.[80]

Baner Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch, 1908

Defnyddiwyd y ddraig ar faneri yn ystod digwyddiadau'r bleidlais i fenywod yng Nghymru yn y 1900au a'r 1910au. Roedd dogfennau derbyn y faner yn sywddogol yn cynnwys un nodyn gan un o gyn-aelodau “Gweithiwyd y faner gan Mrs Henry Lewis… [hi] hefyd oedd Llywydd Ffederasiwn Cymdeithasau Pleidlais Merched De Cymru + bu’n arwain adran De Cymru o’r Bleidlais Fawr Gorymdaith yn Llundain ar 17 Mehefin 1911, yn cerdded o flaen ei baner hardd ei hun… Bu’n achlysur gwych, rhyw 40,000 i 50,000 o ddynion + merched yn cymryd rhan yn y daith gerdded o Whitehall drwy Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly i’r Albert Hall. Denodd y ddraig lawer o sylw – “Dyma’r Diafol” oedd cyfarchiad un grŵp o wylwyr.” [81]

Dydd Gwyl Dewi 1910-33[golygu | golygu cod]

Tŵr yr Eryr, Castell Caernrafon, bellach yn hedfan dwy faner y Ddraig Goch

Rhwng 1910 ac 1916 bu sawl apêl gan gyngor trêf Caernarfon i godi baner y ddraig goch ar ben tŵr Eryr castell Caernarfon i gymryd lle baner yr undeb. Dywedodd y maer a dirprwy gwnstabl y castell, Charles A Jones, fod "yr awdurdodau wedi'u cynghori fod dim fath beth â baner Gymreig... dim ond bathodyn".[82][83][84]

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1932, wedi gwisgo mewn dillad beic modur, dringodd John Edward Jones (JE Jones) i ben Tŵr yr Eryr, Castell Caernarfon gyda thri arall, gan gynnwys nai David Lloyd George, William RP George. Yno fe wnaethon nhw ostwng Jac yr Undeb, a chodi’r Ddraig Goch a hoelio'r rhaffau i’r poly gyda styfflau a morthwyl. Arweiniodd hyn at ganu Hen Wlad Fy Nhadau gan dyrfa islaw. Wedi hyn, daeth y gwnstabliaeth leol gan roi baner yr undeb yn ôl i fyny. Yn hwyrach, daeth criw o fyfyrwyr Plaid Cymru o Fangor i’r amlwg ar gefn lori, gan dynnu baner yr undeb i lawr unwaith eto, a'i rwygo i ddarnau ar y maes.[85] [86][87]

Ar ddydd Gwyl Dewi 1933, codwyd baner y Ddraig Goch yngyd a baner yr undeb a pherfformiwyd y seremoni gan David Lloyd-George. Yn fuan wedyn, chwifiwyd baner Cymru ar holl adeiladau'r llywodraeth ar Fawrth y 1af. Sicrhaodd JE Jones fod canghennau Plaid Cymru ar draws y wlad yn pwyso ar yr awdurdodau lleol i wneud yr un peth. Yna trefnodd gynhyrchu mwy o faneri, a'u gwerthu gan wneud elw.[85]

Lwmen Eisteddfod yr Urdd, 1930au

Bathodyn frenhinol[golygu | golygu cod]

Erbyn 1748, roedd y ddraig goch (yn ogystal a'r haul yn codi) yn un o symbolau'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.[88] Ni ddaeth y ddraig goch yn fathodyn herodrol brenhinol swyddogol tan 1800, pan gyhoeddodd Siôr III warant brenhinol yn cadarnhau'r bathodyn.[89]


Yn 1897, 1901, 1910, 1935 ac 1945 mewn ymdrech i gael cydnabyddiaeth genedlaethol bu ceisiadau i gynnwys Y Ddraig Goch yn yr arfbais brenhinol ond gwrthod bob tro a wnaeth y Coleg Arfbais, "There is no such thing as a Welsh national flag", dywedant. Dywedodd y garter marchog arfau wrth y syddfa cartref "There is no more reason to add Wales to the King's style than there would be to add Mercia, Wessex or Northumbria or any other parts of England".[90]

Baner amhoblogaidd 1953-1959

Yn 1901, ychwanegwyd y ddraig goch i arfbais Tywysog Cymru Brenhiniaeth Prydain gan y brenin.[91] Yn y pen draw, cynigiodd y palas Brydeinig fathodyn brenhinol newydd fel cyfaddawd yn ystod blwyddyn coroni 1953. Ailgynlluniwyd y ddraig draddodiadol ac ychwanegwyd coron gyda'r arwyddair 'Y DDRAIG GOCH DDYRY CYCHWYN'.[90] Dirmygodd Winston Churchill, y prif weinidog ar y pryd, gynllun y bathodyn, fel y datgelir yng nghofnod canlynol y Cabinet o 1953:

Winston Churchill:

"Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.
Words (Red Dragon takes the lead) are untrue and unduly flattering to Bevan."

Gwilym Lloyd George:

"Wd. rather be on R[oyal] Arms. This (dating from Henry VII) will be something.
We get no recognition in Union – badge or flags.[92]"

Baner bresennol[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Aberteifi, gyda thariannau draig goch,1959

Gwrthwynebodd Orsedd y Beirdd y faner â'r bathodyn brenhinol hwn yn 1958 a oedd yn "rhy druenus i arwyddo dim".[90] Dan arweiniad cofrestrydd yr Orsedd, Cynan (Albert Evans-Jones), penderfynwyd mai dim ond baner y ddrai goch boblogaidd a fyddai'r orsedd yn ei hadnabod a galwodd ar bob sefydliad a chorff cyhoeddus i ddilyn eu harweiniad. Derbyniodd yr alwad gefnogaeth unfrydol gan gynnwys bron pob cyngor lleol. Danfonodd hyn neges clir i lywodraeth Prydain.[93]

Cyhoeddodd gweinidog materion Cymreig yn San Steffan yn Chwefror 1959 mai dim ond y faner o'r ddraig (nid y fathodyn) fyddai'n cael ei chwifio ar adeiladau llywodraeth yng Nghymru ac yn Llundain lle'n berthnasol. Daeth baner y ddraig goch yn swyddogol ar 1 Ionawr 1960.[90][94]

[90]Y Ddraig Goch, wedi'i safonni

Parhaodd ddefnydd yr hen fathodyn gan Swyddfa Cymru[95] a chafodd ei argraffu ar Offerynnau Statudol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[96] Disodlwyd yr hen fathodyn brenhinol gan fathodyn Brenhinol swyddogol newydd yn 2008, a ddileodd y ddraig goch yn gyfan gwbl.[97] Defnyddiwyd yr hen fathodyn hefyd yn logo corfforaethol y Cynulliad nes i'r logo "draig ddeinamig" gael ei fabwysiadu.[98]

Arwyddlun neu logo Llywodraeth Cymru yw'r ddraig Gymreig. Yn ôl nhw, mae'r logo "yn cynnwys draig ac enw Llywodraeth Cymru wedi'u gwahanu gan linell lorweddol, wedi'u gosod gyda'i gilydd mewn perthynas sefydlog na ddylid ei newid. Mae'r elfennau hyn wedi'u halinio'n ganolog â'i gilydd. Mae'r logo bob amser yn ddwyieithog waeth beth fo iaith y deunydd mae'n ymddangos arni [99] gyda "Cymraeg yn gyntaf, ac yna Saesneg os oes angen".[100] Maent hefyd yn sôn, "Rhaid i'r ddraig wynebu i'r chwith bob amser"; mae hyn yn dilyn yr un rheol a ddefnyddir ar y ddraig pan gaiff ei hedfan ar bolyn.[101]

Defnyddiau eraill[golygu | golygu cod]

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg[golygu | golygu cod]

Symbol sy'n cynrychioli Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw Tafod y Ddraig.[102]

Pel droed Cymru[golygu | golygu cod]

Mae'r ddraig Gymreig, "y mwyaf eiconig o arwyddluniau Cymreig", hefyd yn cael ei defnyddio fel arwyddlun neu logo swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a gafodd ei hailgynllunio yn 2019.[103]

Arwyddeiriau[golygu | golygu cod]

Mae'r arwyddair "Anorchfygol Ddraig Cymru" yn gysylltiedig â'r ddraig goch.[104][105]

Defnyddir yr arwyddair "Y ddraig goch ddyry cychwyn".[106] Y mae'r arwyddair hwn ym mesurau barddonol caeth y gynghanedd.[107] Ma'r arwyddair yn deillio o gerdd gan Deio ab leuan Du yn diolch i Siôn ap Rhys o Glyn-nedd am iddo roi tarw yn anrheg iddo.[108]

Oriel[golygu | golygu cod]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Gweler y testun hyn yn Brut Tysilio, testun Cymreig sy'n fwy na thebyg yn ail-weithiad hwyr o waith Sieffre o Fynwy, Historia regum Britanniae. Mae'r delwedd yn dod o 1695 ffolio, Coleg yr Iesu MS. 28, ond cafodd ei thrawsgrifio o ysgrif 15g, Coleg yr Iesu MS. 61, gan Hugh Jones, tangeidwad Amgueddfa Ashmolean, yn 1695. [53]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gosden, Christopher; Crawford, Sally; Ulmschneider, Katharina (2014-08-29). Celtic Art in Europe: Making Connections (yn Saesneg). Oxbow Books. t. 27. ISBN 978-1-78297-658-5.
  2. Heinz, Sabine (2008). Celtic Symbols (yn Saesneg). Sterling Publishing Company, Inc. t. 31. ISBN 978-1-4027-4624-6.
  3. Pughe, William Owen (1832). A dictionary of the Welsh language. [Preceded by] A grammar of the Welsh language. 2 vols. [in 3 pt.]. [Followed by] An outline of the characteristics of the Welsh. 2 vols. [in 4 pt.] (yn Saesneg). t. 477.
  4. "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
  5. Pictet, Adolphe (2000). Celtic Linguistics, 1700-1850: pt. 3. The history of the Celtic language (yn Saesneg). Taylor & Francis. ISBN 978-0-415-20485-9.
  6. Bonwick, James (1894). Irish Druids and Old Irish Religions (yn Saesneg). Griffith, Farran. t. 184. ISBN 978-0-524-00695-5.
  7. 7.00 7.01 7.02 7.03 7.04 7.05 7.06 7.07 7.08 7.09 Lofmark, Carl (1995). A History of the Red Dragon. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-317-8.
  8. Haverfield, F (1924). The Roman Occupation of Britain. t. 24.
  9. Jones, Frances (1969). The Princes and Principalities of Wales. tt. 167–189.
  10. 10.0 10.1 "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
  11. Green, Miranda (2002-01-04). Animals in Celtic Life and Myth (yn Saesneg). Routledge. t. 228. ISBN 978-1-134-66531-0.
  12. Green, Miranda (2002-01-04). Animals in Celtic Life and Myth (yn Saesneg). Routledge. tt. 227–8. ISBN 978-1-134-66531-0.
  13. Moorehead, W. G. (1885). "Universality of Serpent-Worship". The Old Testament Student 4 (5): 207. ISSN 0190-5945. https://www.jstor.org/stable/3156392.
  14. MacCulloch, J. A.; Rolleston, T. W.; Evans-Wentz, W. Y. (2023-11-16). CELTIC MYTHOLOGY (Illustrated Edition): The Legacy of Celts: History, Religion, Archeological Finds, Legends & Myths (yn Saesneg). DigiCat.
  15. Heinz, Sabine (2008). Celtic Symbols (yn Saesneg). Sterling Publishing Company, Inc. t. 31. ISBN 978-1-4027-4624-6.
  16. "sword; sword-sheath | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-30.
  17. Stead, Ian. Antiquaries Journal (Vol.64). tt. 269–279.
  18. "sword; sheath | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-31.
  19. "sword; sword-sheath | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-31.
  20. Stead, Ian Mathieson (2006). British Iron Age swords and scabbards. British Museum.
  21. Stead, I. M. (September 1984). "Celtic Dragons from the River Thames" (yn en). The Antiquaries Journal 64 (2): 269–279. doi:10.1017/S0003581500080410. ISSN 1758-5309. https://www.cambridge.org/core/journals/antiquaries-journal/article/abs/celtic-dragons-from-the-river-thames/6F18B4BE95E43C6B19BCB2E592CA27DF.
  22. Arsdell, Robert D. Van (1989). Celtic Coinage of Britain (yn Saesneg). Spink. t. 126. ISBN 978-0-907605-24-9.
  23. Megaw, J. V. S. (1970). Art of the European Iron Age: A Study of the Elusive Image (yn Saesneg). Adams & Dart. t. 177. ISBN 978-0-239-00019-4.
  24. The Numismatic Chronicle, and Journal of the Numismatic Society (yn Saesneg). Tayor & Walton. 1865. t. 11.
  25. Kinnee, Lauren (2018-03-12). The Greek and Roman Trophy: From Battlefield Marker to Icon of Power (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-351-84657-8.
  26. Pârvan, Vasile (1928). Dacia: An Outline of the Early Civilizations of the Carpatho-Danubian Countries (yn Saesneg). CUP Archive.
  27. Penner, Todd C.; Stichele, Caroline Vander (2007). Mapping Gender in Ancient Religious Discourses (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-90-04-15447-6.
  28. "Rare Bardwell Iron Age trumpet sells for more than £4k". BBC News (yn Saesneg). 2021-12-03. Cyrchwyd 2023-02-07.
  29. The Millennial Harbinger ... (yn Saesneg). A. Campbell. 1832. t. 214.
  30. Charlesworth, James H. (2010-01-01). The Good And Evil Serpent: How a Universal Symbol Became Christianized (yn Saesneg). Yale University Press. t. 454. ISBN 978-0-300-14273-0.
  31. Tudor, D. (2015-08-24). Corpus monumentorum religionis equitum danuvinorum (CMRED), Volume 2 Analysis and Interpretation of the Monuments (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-90-04-29475-2.
  32. Littleton, C. Scott; Thomas, Ann C. (1978). "The Sarmatian Connection: New Light on the Origin of the Arthurian and Holy Grail Legends". The Journal of American Folklore 91 (359): 513–527. doi:10.2307/539571. ISSN 0021-8715. https://www.jstor.org/stable/539571.
  33. Murray, J (1892). Report of the Meeting of the British Association for the Advancement of Science (yn Saesneg). J. Murray. Cyrchwyd 6 October 2022.
  34. Evans, Gwynfor (1983). "MACSEN WLEDIG a Geni'r Genedl Gymreig" (PDF). John Penry. t. 22.
  35. The Ruin of Britain, and Other Works (yn Saesneg). Phillimore. 1978. ISBN 978-0-85033-295-7.
  36. Llywelyn, Mared (2017). Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500. Aberystwyth University. https://pure.aber.ac.uk/portal/files/26607451/Llywelyn_Mared.pdf. Adalwyd 25 September 2022.
  37. Rees, David (1997). The Son of Prophecy: Henry Tudor's Road to Bosworth (yn Saesneg). J. Jones. t. 21. ISBN 978-1-871083-01-9.
  38. Williams, Ifor (1938). Canu Aneurin. Cardiff: University of Wales Press.
  39. 39.0 39.1 Chadwick, Nora K. (1991). The Celts. London: Penguin Books. ISBN 978-0140136074.
  40. Canu Aneirin. Cyfieithwyd gan Winterbottom, M (arg. 2. argraffiad). Caerdydd [Wales]: Gwasg Prifysgol Cymru. 1961. ISBN 9780708302293.
  41. 41.0 41.1 Williams, Sir Ifor (1960). Canu Taliesin. Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 September 2022.
  42. Davies, Edward (1809). The Mythology and Rites of the British Druids, Ascertained by National Documents; and Compared with the General Traditions and Customs of Heathenism, as Illustrated by the Most Eminent Antiquaries of Our Age. With an Appendix, Containing Ancient Poems and Extracts, with Some Remarks on Ancient British Coins... (yn Saesneg). J. Booth. tt. 557, 568.
  43. Craven, Maxwell (2023-03-15). Magnus Maximus: The Neglected Roman Emperor and his British Legacy (yn Saesneg). Amberley Publishing Limited. ISBN 978-1-3981-1137-0.
  44. 44.0 44.1 Davies, Edward (1809). “The” Mythology And Rites Of The British Druids, Ascertained By National Documents; And Compared With The General Traditions And Customs Of Heathenism, As Illustrated By The Most Eminent Antiquaries Of Our Age ; With An Appendix, Containing Ancient Poems And Extracts, With Some Remarks On Ancient British Coins (yn Saesneg). J. Booth. tt. 582–588.
  45. "Gwarchan of Maelderw". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-14.
  46. Cambrian Quarterly Magazine and Celtic Repertory (yn Saesneg). proprietors. 1832. t. 322.
  47. Maclagan, Robert Craig (1882). Scottish Myths: Notes on Scottish History and Tradition (yn Saesneg). Maclachlan and Stewart. t. 70. ISBN 978-0-598-73846-2.
  48. 48.0 48.1 The Mabinogion. Cyfieithwyd gan Gantz, Jeffrey. Harmondsworth: Penguin. 1976. ISBN 0-14-044322-3.
  49. Historia Brittonum, pen. 40–42.
  50. 50.0 50.1 Historia Brittonum by Nennius (translated by J.A.Giles)
  51. "Pa Gwr?". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-23.
  52. 52.0 52.1 52.2 Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 513. ISBN 978-1-78316-146-1.
  53. "Jesus College MS. 28". digital.bodleian.ox.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Hydref 2022.
  54. Barber, Richard W.; Barber, Richard William (1999). Myths and Legends of the British Isles (yn Saesneg). Boydell & Brewer. ISBN 978-0-85115-748-1.
  55. "Enter the Dragon: Revealing the history of the Welsh flag". The National Wales (yn Saesneg). 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-02. Cyrchwyd 2022-09-03.
  56. Hart, Imogen; Jones, Claire (2020-10-29). Sculpture and the Decorative in Britain and Europe: Seventeenth Century to Contemporary (yn Saesneg). Bloomsbury Publishing USA. ISBN 978-1-5013-4126-7.
  57. The Historia Regum Britanniae of Geoffrey of Monmouth (yn Saesneg). Slatkine. t. 672.
  58. Ferris, William N. (1959). "Arthur's Golden Dragon". Romance Notes 1 (1): 69–71. ISSN 0035-7995. JSTOR 43800958. https://www.jstor.org/stable/43800958.
  59. 59.0 59.1 Jones, Elin M (1991). Gwaith Llywarch ap Llywelyn 'Prydydd y moch', Cyfres beirdd y tywysogion 5. Cardiff: University of Wales Press.
  60. Owen, Robert (1891). The Kymry: Their Origin, History, and International Relations (yn Saesneg). W. Spurrell and Son.
  61. Massey, Gerald (1883). The natural genesis: or second part of A book of the beginnings (yn Saesneg). t. 357.
  62. Davies, Edward (1809). The Mythology and Rites of the British Druids, Ascertained by National Documents; and Compared with the General Traditions and Customs of Heathenism, as Illustrated by the Most Eminent Antiquaries of Our Age. With an Appendix, Containing Ancient Poems and Extracts, with Some Remarks on Ancient British Coins... (yn Saesneg). J. Booth. tt. 16, 23.
  63. Stephens, Thomas II (1849). The Literature of the Kymry Beeing a Critical Essay on the History of the Language and Literature of Wales During the 12. and Two Succeeding Centuries (etc.) (yn Saesneg). William Rees and Longman. t. 381.
  64. Hemans, Mrs (1881). The Poetical Works of Felicia Hemans: With Memoir, Explanatory Notes, Etc (yn Saesneg). J. Wurtele Lovell. t. 246.
  65. Davies, John (25 Ionawr 2007). A History of Wales. Penguin. ISBN 9780140284751 – drwy Google Books.
  66. Jones, Francis (1969). The Princes and Principality of Wales (yn Saesneg). University of Wales P. t. 177. ISBN 978-0-900768-20-0.
  67. Ramsay, Sir James Henry (1892). Lancaster and York: A Century of English History (A.D. 1399-1485) (yn Saesneg). Clarendon Press.
  68. Marchant, Alicia (2014). The Revolt of Owain Glyndwr in Medieval English Chronicles (yn Saesneg). Boydell & Brewer Ltd. t. 127. ISBN 978-1-903153-55-0.
  69. 69.0 69.1 Archaeologia Cambrensis (yn Saesneg). W. Pickering. 1853. t. 193.
  70. Kay, Hether (1979). The Land of the Red Dragon (yn Saesneg). Published jointly by the Girl Guides Association of Wales and the University of Wales Press Board. ISBN 978-0-7083-0716-8.
  71. Combe, William (1812). The history of the Abbey Church of St. Peter's Westminster : its antiquities and monuments : in two volumes. London : Printed for R. Ackermann ... by L. Harrison and J.C. Leigh ... Cyrchwyd 17 October 2022.
  72. Meara, David (1983). Victorian memorial brasses. London ; Boston : Routledge & K. Paul. ISBN 978-0-7100-9312-7. https://archive.org/details/victorianmemoria0000mear/page/131/mode/2up. Adalwyd 17 October 2022.
  73. Davies, John (2007-01-25). A History of Wales (yn Saesneg). Penguin Publishing Group. ISBN 978-0-14-028475-1.
  74. Woodward, John (1896). A Treatise on Heraldry, British and Foreign: With English and French Glossaries (yn Saesneg). W. & A.K. Johnston. t. 305.
  75. "Register | British Newspaper Archive". www.britishnewspaperarchive.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
  76. "Register | British Newspaper Archive". www.britishnewspaperarchive.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
  77. "The illustrated London news v.1 1842". HathiTrust (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-23.
  78. Jobbins, Siôn T. (2016). The Red Dragon: The Story of the Welsh Flag (yn Saesneg). Y Lolfa. t. 40. ISBN 978-1-78461-135-4.
  79. Jobbins, Siôn T. (2016). The Red Dragon: The Story of the Welsh Flag (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 51–57. ISBN 978-1-78461-135-4.
  80. Phillips, Elen (1 March 2012). "Captain Scott's Welsh Flag". Amgueddfa Cymru: Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  81. ""Here comes the Devil": Welsh Suffrage and the Suffragettes". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  82. Caernarvon & Denbigh Herald, Friday 20 October 1916 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002967/19161020/096/0006
  83. Western Mail, Friday 07 April 1916 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000104/19160407/130/0004
  84. Liverpool Echo, Thursday 09 April 1914 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000271/19140409/144/0008
  85. 85.0 85.1 "JE – Architect of Plaid Cymru Address by Dafydd Williams – Hanes Plaid Cymru" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-24.
  86. "Carnarvon Castle (National Flag)".
  87. Western Morning News, Wednesday 02 March 1932 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000329/19320302/071/0007
  88. Army, Great Britain (1761). Extract of orders and regulations for garrison and camp duties, from the year 1743. To the conclusion of the peace at Aix La Chapelle, in the year 1748, &c. &c. &c (yn Saesneg). Robert & Andrew Foulis. t. 22.
  89. Maxwell Fyfe, David (9 February 1953). "Arms for Wales; Memorandum by the Secretary of State for the Home Department and Minister for Welsh Affairs" (PDF). nationalarchives.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-08-04. Cyrchwyd 2020-04-15.
  90. 90.0 90.1 90.2 90.3 90.4 Eriksen, Thomas Hylland; Jenkins, Richard (2007-10-18). Flag, Nation and Symbolism in Europe and America (yn Saesneg). Routledge. t. 80. ISBN 978-1-134-06696-4.
  91. "Page 8714 | Issue 27385, 10 December 1901 | London Gazette | The Gazette". www.thegazette.co.uk. Cyrchwyd 2023-09-10.
  92. "Highlights of new Freedom of Information releases in August 2007 > The Cabinet Secretaries' Notebooks (CAB 195/11) > Arms for Wales". The National Archives (United Kingdom). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2007.
  93. Jobbins, Siôn T. (2016). The Red Dragon: The Story of the Welsh Flag (yn Saesneg). Y Lolfa. t. 78. ISBN 978-1-78461-135-4.
  94. "WELSH FLAG (Hansard, 23 February 1959)". web.archive.org. 2021-05-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-06. Cyrchwyd 2024-01-25.
  95. "Office of the Secretary of State for Wales – GOV.UK". www.walesoffice.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-13. Cyrchwyd 2023-02-15.
  96. "Welsh Statutory Instruments – Town and Country Planning, Wales" (PDF). opsi.gov.uk.
  97. "First Welsh law's royal approval" (yn Saesneg). 2008-07-09. Cyrchwyd 2022-09-22.
  98. "BBC NI – Learning – A State Apart – Intergovernmental Relations – Overview". BBC. 2014.
  99. "Welsh Government logo guidelines 2020" (PDF). GOV.WALES. Welsh Government. 2020. Cyrchwyd 23 September 2022.
  100. "Welsh Language Standards: communication and marketing guidelines [HTML]". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-22.
  101. "Welsh Government logo" (PDF). GOV.WALES. Welsh Government. 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-08-17. Cyrchwyd 23 September 2022.
  102. Hill, Sarah (2017-07-05). 'Blerwytirhwng?' The Place of Welsh Pop Music (yn Saesneg). Routledge. t. 137. ISBN 978-1-351-57346-7.
  103. "FAW / A New Identity for Football in Wales". www.faw.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-22.
  104. The Cambrian Journal (yn Saesneg). 1864. t. 148.
  105. Rhys, Ernest (1911). The South Wales Coast from Chepstow to Aberystwyth (yn Saesneg). T. Fisher Unwin. t. 257.
  106. Thomas, M. Wynn (2016-05-20). The Nations of Wales: 1890-1914 (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 978-1-78316-839-2.
  107. Ball, Martin J.; Muller, Nicole (2012-11-12). The Celtic Languages (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-136-85472-9.
  108. Stephens, Meic (1986). The Oxford Companion to the Literature of Wales (yn Saesneg). Oxford University Press. tt. 507. ISBN 978-0-19-211586-7.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]