Camber

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y dref yn ne Lloegr gweler Camber, Dwyrain Sussex.

Brenin chwedlonol Cambria yn y ffug hanes Historia Regum Britanniae (c. 1136-38) gan Sieffre o Fynwy oedd Camber.

Roedd Camber yn fab ieuengaf Brutus o Gaerdroia, ac felly'n ddisgynydd i Aeneas, a ffoes i ddinas Rhufain o Gaerdroia. Ar farwolaeth Brutus etifeddodd draean o'r deyrnas, a elwid Cambria ar ei ôl.

Roedd ganddo ddau frawd hŷn, Locrinus (sefydlydd Lloegr) ac Albanactus (sefydlydd Yr Alban). Cynorthwyodd Locrinus i orchfygu Humber, brenin yr Huniaid, i ddial arno am lofruddio Albanactus. Nid oes sail hanesyddol o gwbl i chwedl Camber a'i frodyr Locrinus ac Albanactus, sy'n ffrwyth dychymyg ffrwythlon Sieffre o Fynwy. Bwriad y stori, mae'n ymddangos, oedd hyrwyddo hawl y Normaniaid i reoli Prydain trwy greu'r hanes am un deyrnas a ranwyd yn dair gyda rhan Locrinus, fel y mab hynaf, yn cael y flaenoriaeth.[1]

Ym marddoniaeth Beirdd yr Uchelwyr, dan ddylanwad gwaith Sieffre, ceir sawl cyfeiriad at Gymru fel "gwlad Camber" a'r Cymry fel "llin Gamber", e.e. gan Lewys Glyn Cothi wrth gyfeirio at Gruffudd ap Nicolas:

Brawdwr gwlad Camber ydyw
yn rhoi barn ar y rhai byw.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J. S. P. Tatlock, The Legendary History of Britain (Berkeley a Los Angeles, 1950).
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerdd 16.