Owain ab Urien

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o arweinwyr Brythoniaid yr Hen Ogledd a ddaeth yn ffigwr pwysig yn rhamantau'r Oesoedd Canol oedd Owain ab Urien neu Owain fab Urien (yn fyw yn y 6ed ganrif). Roedd yn fab i Urien Rheged, brenin teyrnas Rheged. Fel Owein neu Yvain, ymledodd ei hanes chwedlonol ar draws Ewrop fel un o farchogion y brenin Arthur.

Llinach[golygu]

Yn ôl yr achau, roedd yn frawd i Pasgen ac mae traddodiad llên gwerin yn ei wneud yn efell i Forfudd. Roedd yn un o'r Coelwys, sef disgynyddion y brenin Coel Hen, teulu amlycaf hanes yr Hen Ogledd.

Hanes[golygu]

Cysylltir Owain ab Urien â'r bardd hanesyddol Taliesin. Yn Llyfr Taliesin cedwir testunau dwy gerdd a ganodd Taliesin iddo. Yn 'Gwaith Argoed Llwyfain' ymddengys fod Owain yn arwain byddin ei dad Urien (a oedd erbyn hynny'n rhy hen i ymladd efallai) yn erbyn byddin o Eingl-Sacsoniaid a arweinir gan Fflamddwyn. Mae'r ail gerdd yn farwnad i Owain, yr hynaf yn y Gymraeg. Mewn pennill enwog dywedir fod Owain wedi lladd Fflamddwyn. Roedd mor hawdd iddo a syrthio i gysgu ac rwan mae nifer o'r gelyn yn "cysgu" â'u llygaid yn agored i olau'r dydd:

Pan laddodd Owain Fflamddwyn
Nid oedd fwy nog yd cysgaid;
Cysgid Lloegr, llydan nifer,
 lleufer yn eu llygaid.[1]

Traddodiad[golygu]

Owain yn codi ei ystondardd gyda'i frain yn y cefndir yn ymladd marchogion Arthur (argraffiad yn "Mabinogion" Charlotte Guest (1877).

Crybwyllir Owain sawl gwaith yn y cylch o gerddi cynnar a elwir yn 'Canu Llywarch Hen'. Yno fe'i gelwir yn 'Owain Rheged' gan bwysleisio ei ran yn amddiffyn ac arwain y deyrnas honno. Yn ôl buchedd y sant Cyndeyrn, a gyfansoddwyd yn y 12fed ganrif, mae Owain yn dad i'r sant, ond amheuir hynny gan y mwyafrif o ysgolheigion.

Erbyn yr Oesoedd Canol yr oedd Owain, fel sawl cymeriad hanesyddol arall o'r Hen Ogledd (e.e. Taliesin fel Taliesin Ben Beirdd), wedi troi'n ffigwr chwedlonol. Mae'n arwr y rhamant Iarlles y Ffynnon, un o'r Tair Rhamant Cymraeg, ac yn ymddangos fel Yvain yn y gerdd Le Chevalier au Lion ('Y Marchog a'r Llew') gan y Ffrancwr Chrétien de Troyes. Mae Owain ab Urien yn gymeriad amlwg yn y chwedl ddychanol Breuddwyd Rhonabwy yn ogystal. Yn y gweithiau hyn i gyd cysylltir Owain â chylch y brenin Arthur (yntau wedi troi'n ffigwr chwedlonol). Ceir nifer o gyfeiriadau at Owain yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr yn ogystal, weithiau fel 'Marchog y Ffynnon' neu 'Marchog y Cawg'.

Yn ôl un traddodiad, roedd ganddo chwaer efaill o'r enw Morfudd. Mae Morfudd ac Owain yn ymddangos mewn hen chwedl werin Cymraeg a gysylltir a Llanferres, yn awr yn Sir Ddinbych. Gerllaw Llanferres roedd rhyd a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyydyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.

Nid yw'r ferch yn rhoi ei henw yn y chwedl, ond mae un o Drioedd Ynys Prydain (70) yn cyfeirio at Owain ab Urien a Morfudd ei chwaer fel plant Modron ferch Afallach. Uniaethir Modron a'r fam-dduwies Matrona, oedd yn dduwies Afon Marne yng Ngâl ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf. Gellir dosbarthu'r chwedl am Ryd-y-gyfarthfa (Llanferres) yn y dosbarth o chwedlau Celtaidd am 'olchwraig y rhyd' a duwies sofraniaeth.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, cerdd X 'Marwnad Owain', mewn orgraff ddiweddar.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd 1961; argraffiad newydd 1991)
  • R. L. Thomson (gol.), Owein (Dulyn, 1986)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)