Ymddiddan Myrddin a Thaliesin

Oddi ar Wicipedia
Ymddiddan Myrddin a Thaliesin
Tudalen gyntaf Llyfr Du Caerfyrddin. Llun wedi'i sganio o argraffiad diplomataidd J. Gwenogvryn Evans (Pwllheli, 1907).
Enghraifft o'r canlynolcerdd Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi11 g Edit this on Wikidata
TudalennauEdit this on Wikidata
Genredialog Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithYr Hen Ogledd, Teyrnas Dyfed Edit this on Wikidata

Cerdd o naws chwedlonol am hanes cynnar Cymru yw Ymddiddan Myrddin a Thaliesin. Hon yw'r gân gyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin.

Mae ar ffurf deialog rhwng Taliesin a Myrddin, dau fardd cynnar a drowyd yn ffigurau mytholegol yn nhraddodiad yr Oesoedd Canol ac yn awduron nifer o gerddi darogan. Mae hi'n gerdd 38 llinell sy'n llenwi chwe thudalen cyntaf y llawysgrif. Credir fod Llyfr Du Caerfyrddin wedi'i ysgrifennu tua chanol y 12g a bod y gerdd yn perthyn i'r 11g.

Cyfres o sylwadau am arwyr a brwydrau a wneir bob yn ail gan Myrddin a Thaliesin ydyw. Ceir disgrifiadau byrion o'r brwydrau ac yna alaru am yr arwyr a gollwyd. Yr arwyr a enwir yw Cedfyw, Cadfan, Cyndur, Cynfelyn, Dywel ab Erbin, Elgan, Eliffer, Errith, Gwrrith, Maelgwn (Maelgwn Gwynedd), Rhys Undant, a'r ffigwr chwedlonol Gofannon. Cyfeirir at ddau le, sef Arfderydd a Choed Celyddon.

Mae'n destun llawn o gyfeiriadau tywyll sy'n anodd eu dehongli, ond serch hynny mae'n ffynhonnell bwysig am hanes cynnar Cymru a'r Hen Ogledd. Ymddengys fod y gerdd i'w hymrannu'n ddwy ran, neu'n gyfuniad o ddau destun annibynnol (er bod hynny'n annhebygol). Yn y rhan gyntaf ceir hanes ymosodiad ar Ddyfed gan Faelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd, gyda Myrddin yn cymryd safbwynt rhyfelwyr Dyfed (fe'i cysylltir â Chaerfyrddin) a Thaliesin yn cynrychioli'r Gogledd (fe'i cysylltir fel ffigwr chwedlonol â llys Maelgwn Gwynedd yn Negannwy). Yn yr ail ran ceir darogan am frwydr Arfderydd.

Mae lle i gredu fod Sieffre o Fynwy wedi tynnu ar y gerdd neu destun tebyg i lunio'r Vita Merlini.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Fersiwn 1967; Gwasg Prifysgol Cymru

Ceir testun golygedig gyda rhagymadrodd a nodiadau yn,

  • A. O. H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)