Eliffer Gosgorddfawr
Pennaeth neu frenin o'r Hen Ogledd oedd Eliffer Gosgorddfawr (fl. dechrau'r 6ed ganrif). Cysylltir ei saith mab â Brwydr Arfderydd (537?).
Ymladdwyd Brwydr Arfderydd, yn ôl traddodiad, yn yr Hen Ogledd tua'r flwyddyn 537 rhwng Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud a Gwenddolau fab Ceidio. Gyrrwyd bardd llys Gwenddoleu, Myrddin, yn wallgof gan farwolaeth ei arglwydd ac erchylltra'r frwydr. Ffôdd i Goed Celyddon, lle bu'n byw fel dyn gwyllt gan ennill iddo'i hun yr enw "Myrddin Wyllt".
Ond ceir traddodiadau eraill am y frwydr hefyd. Ceir cyfeiriad ati yn y cofnod am y flwyddyn 537 yn yr Annales Cambriae, ond yma dywedir ei bod yn frwydr rhwng Gwenddolau a meibion Eliffer. Mewn cofnod diweddarach, mae'r Annales yn enwi meibion Eliffer fel Gwrgi a Peredur.
Yn ôl yr achau, roedd Eliffer a'i feibion yn ddisgynyddion i'r brenin Coel Hen ac felly'n perthyn i linach y Coelwys. Yn un o'r cerddi yn Llyfr Du Caerfyrddin, sy'n sôn am Frwydr Arfderydd, cyfeirir at "saith meib Eliffer" a fu'n enwog am eu dewrder.
Ceir dau o Drioedd Ynys Prydain sy'n cyfeirio at Eliffer. Roedd ei wyr, Gwrgawn Gwron fab Peredur fab Eliffer yn un o "Dri Lleddf Unben Ynys Prydain", gyda Llywarch Hen a Manawydan fab Llŷr. Mae triawd arall am y "Tri meirch a ddygant y Tri Marchlwyth":
Yr ail Farchlwyth a ddug Cornan march meibion Eliffer, a ddug Gwrgi a Pheredur arno, a Dunawd Fwr, a Chynfelyn Drwsgl, i edrych ar fygedorth (llu) Gwenddoleu yn Ar(f)derydd.
Cyfeirir at Eliffer fel patrwm o arwr a rhyfelwr mewn cerddi gan dri o'r Gogynfeirdd, sef Cynddelw Brydydd Mawr, Dafydd Benfras a Casnodyn. Fe'i enwir yn 'Englynion y Clyweid' hefyd.
Cyfeiriadau [golygu]
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960; argraffiad newydd 1999).
|
|
|
|---|---|
| Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
| Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Pabo Post Prydain • Pasgen fab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Sawyl Ben Uchel • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
| Lleoedd: |
Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud |
| Gweler hefyd: | |