Bonedd Gwŷr y Gogledd
|
Allwedd:
|
Testun achyddol Cymraeg Canol sy'n nodi llinach rhai o frenhinoedd ac arwyr yr Hen Ogledd yw Bonedd Gwŷr y Gogledd. Dim ond un copi o'r testun sydd ar glawr, yn llawysgrif Peniarth 45 (diwedd y 13eg ganrif).
Ymrennir y testun yn ddwy brif ran. Yn y rhan gyntaf ceir llinachau'r Coeling, disgynyddion Coel Hen. Mae'n cynnwys Urien Rheged, Clydno Eiddin, Cynfelyn, Nudd, Llywarch Hen a Gwenddoleu. Yn yr ail ran ceir disgynyddion Dyfnwal Hen. Yno ceir rhestr o frenhinoedd o'r 5ed ganrif. Mae'r enwau yn cynnwys Rhydderch Hael, Tudwal Tudclud, Elffin ap Gwyddno, Cawrdaf, Mordaf Hael, Elidir Mwynfawr a Macsen Wledig. Rhwng y ddwy ran hyn ceir triawd am y Coeling sy'n coffau gwroldeb arwyr o'r llwyth hwnnw.
Er bod y llinachau hyn yn gorffen gyda brenhinoedd y 6ed ganrif, nid yw'n debygol fod y testun yn deillio o ddogfen o'r cyfnod hwnnw. Mae Kenneth Jackson wedi dadlau dros ddyddiad yn y 9fed ganrif am gyfansoddi'r testun gwreiddiol. Wrth gwrs fe allai ffynonellau'r testun tybiedig hwnnw fod yn hŷn.
Llyfryddiaeth [golygu]
Ceir testun hwylus gyda nodiadau yn,
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991). Atodiad II.
Gweler hefyd [golygu]
|
|
|
|---|---|
| Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
| Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Pabo Post Prydain • Pasgen fab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Sawyl Ben Uchel • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
| Lleoedd: |
Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud |
| Gweler hefyd: |
Bonedd Gwŷr y Gogledd • Brynaich • Brythoniaid • Canu Llywarch Hen • Deifr • Y Gododdin • Yr Hengerdd • Llyfr Aneirin • Pictiaid • Trioedd Ynys Prydain • Ymddiddan Myrddin a Thaliesin • |