Brwydr Arfderydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ymladdwyd Brwydr Arfderydd, yn ôl traddodiad, yn yr Hen Ogledd tua'r flwyddyn 537 rhwng Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud a Gwenddolau fab Ceidio.

Ceir yr hanes yn y farddoniaeth a gysylltir a Myrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin. Gyrrwyd bardd llys Gwenddoleu, Myrddin, yn wallgof gan farwolaeth ei arglwydd ac erchylltra'r frwydr. Ffôdd i Goed Celyddon, lle bu'n byw fel dyn gwyllt gan ennill iddo'i hun yr enw "Myrddin Wyllt".

Yn y gerdd gynnar 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin', cysylltir Gofannon fab Dôn â brwydr Arfderydd. Dywedir iddo ymladd yn y frwydr honno â saith gwaywffon.

Ceir cyfeiriad at y frwydr yn y cofnod am y flwyddyn 537 yn yr Annales Cambriae, ond yma dywedir ei bod yn frwydr rhwng Gwenddolau a meibion Eliffer. Mewn cofnod diweddarach, mae'r Annales yn enwi meibion Eliffer fel Gwrgi a Peredur.

Yn ôl Trioedd Ynys Prydain roedd Brwydr Arfderydd yn un o 'Dri Ofergad Ynys Prydain'. Mae'r triawd yn dweud mai "o achaws nyth yr ychedydd" (o achos nyth yr ehedydd) yr ymladdwyd y frwydr. Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod hyn yn gyfeiriad at ymrafael yn llys Caerlaverock (tref yn Swydd Dumfries yn yr Alban heddiw), sef "Caer yr Ehedydd" ar lannau'r Solway Firth.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Kenneth Jackson, 'O achaws nyth yr ychedydd', yn Ysgrifau Beirniadol, cyfrol X (Gwasg Gee, 1977),


Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill