Charlotte Guest

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Arglwyddes Charlotte Guest

Cyfieithydd a dyddiadur-wraig o dde Cymru oedd yr Arglwyddes Charlotte Guest (19 Mai, 1812 - 15 Ionawr, 1895). Mae hi'n enwog am ei chyfieithiad Saesneg o chwedlau'r Mabinogion a ystyrir yn glasur.

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Charlotte yn Uffington, de Lloegr, ym 1812 yn ferch i Albemarle Bertie, Nawfed Iarll Lindsey. Ym 1835, yn 23 oed, priododd Syr Josiah John Guest (1785 - 1852). Roedd John Guest yn un o feistri diwydiannol mwyaf de Cymru ac yn perchen ar weithfeydd haearn Dowlais; roedd y briodas yn achos o "hen arian" yn priodi "arian newydd" yn hytrach na chanlyniad carwriaeth ramantus, ond bwriodd ei hun i'r bywyd Cymraeg dros nos.

Swynwyd Charlotte gan olygfeydd Cymru a gan lenyddiaeth a thraddodiadau'r Cymry eu hunain. Dysgodd y Gymraeg yn ddigon da i'w darllen ac i'w thraddodi i'w deg plentyn (peth anghyffredin iawn i rywun o'i safle cymdeithasol yn yr amser hwnnw).

Gwaith llenyddol[golygu]

The Mabinogion[golygu]

Ym 1838, dechreuodd ar y gwaith o gyfieithu chwedlau'r Mabinogi i Saesneg. Cafodd gymorth gan John Jones (Tegid) a Thomas Price (Carnhuanawc) a defnyddiodd gopi llawysgrif o Lyfr Coch Hergest. Rhoddodd y teitl The Mabinogion i'r casgliad o un chwedl ar ddeg ac mae'r enw wedi aros ers hynny (dim ond Pedair Cainc y Mabinogi sy'n dwyn yr enw mewn gwirionedd). Yn ogystal â'r Pedair Cainc, Y Tair Rhamant a'r "chwedlau brodorol", ychwanegodd gyfieithiad o destun diweddar o Hanes Taliesin, sydd ddim yn y Llyfr Coch. Cyhoeddwyd y gwaith mewn tair cyfrol, a oedd yn cynnwys y testunau Cymraeg Canol hefyd, ym 1846 (cafwyd ail argraffiad poblogaidd â darluniau ym 1877, heb y testunau Cymraeg).

Er bod lle i gredu mai caboli cyfieithiadau llythrennol Tegid a Charnhuanawc a wnaeth yn hytrach na chyfieithu'r cyfan ei hun, ac er gwaethaf y ffaith fod gofynion parchusrwydd yn golygu fod ambell olygfa ddigon diniwed yn cael ei gadael allan (o'r Tair Rhamant yn bennaf), mae fersiwn Charlotte Guest o'r hen chwedlau Cymraeg yn cael eu hystyried yn glasur yn yr iaith Saesneg am ei arddull coeth a rhamantus.

Dyddiaduron[golygu]

Ail-briododd ym 1855 gyda Charles Schreiber, tiwtor ei mab Ivor, gan ddod yn Arglwyddes Charlotte Schreiber. Cyhoeddwyd detholiadau o'i dyddiaduron ar ôl ei marwolaeth. Ynddynt gwelir ei chydymdeimlad diffuant tuag at y gweithwyr diwydiannol yn y de a'i syniadau rhamantus am orffennol Cymru (fel llawer un arall yn ei hoes).

Daeth ei mab Ivor yn Aelod Seneddol dros Poole a Cheltenham cyn priodi Cornelia Spencer Churchill, modryb i Winston.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith Charlotte Guest
  • The Mabinogion (3 cyfrol, 1844; ailargraffiad mewn un gyfrol, 1877; sawl argraffiad ers hynny)
  • Fans and Leaves (1888-90)
  • Playing Cards of various Countries and Ages (1892-95)
  • Lady Charlotte Schreiber's Journal (2 gyfrol. 1911). Gol. gan ei mab.
  • Lady Charlotte Guest, Extracts from her Journal (2 gyfrol, 1950, 1952). Golygwyd gan Iarll Bessborough)
Darllen pellach
  • D. Rhys Phillips, Lady Charlotte Guest and the Mabinogion (1921)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 'Rhywbeth Bob Dydd' gan Hafina Clwyd, 2008