Lindisfarne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ynys ger arfordir Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Lindisfarne, hefyd Holy Island (hen enw Cymraeg: Ynys Metcaud). Ar wahân i adegau o lanw uchel, mae modd gyrru car i'r ynys. Roedd y boblogaeth yn 162 yn 2001. Dynodwyd rhan helaeth o'r ynys yn Warchodfa Natur, a cheir amrywiaeth o adar yma.

Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir hanes gwarchae ar yr ynys. Yn y 6ed ganrif gwnaed cynghrair rhwng teyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd i ymladd yn erbyn yr Eingl. Bu Urien Rheged, Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud, Gwallawc Marchawc Trin o Elmet a Morgant Bwlch yn gwarchae Eingl Brynaich ar yr ynys, a oedd wedi'u gyrru o'u prifddinas Din Guardi. Fodd bynnag, roedd Morgant yn genfigennus o lwyddiant Urien, a threfnodd i Llofan Llaf Difo ei lofruddio.

Sefydlwyd abaty Lindisfarne gan Sant Aidan o Iwerddon, a yrrwyd o Iona ar gais Oswald, brenin Northumbria tua 635. Yn ddiweddarch bu nawdd-sant yr ynys, Cuthbert o Lindisfarne yn abad yma.

Rywbryd tua dechrau'r 700au, cynhyrchwyd Efengylau Lindisfarne yma. Yn 793 ymosodwyd ar yr ynys gan y Llychlynwyr; ystyrir mai'r ymosodiad yma oedd dechrau oes yr ymosodiadau Llychlynnaidd ar Loegr. Bu ymosodiadau pellach, gan orfodi'r myneich i adael yr ynys.