Cynfarch fab Meirchion
Brenin o'r Hen Ogledd oedd Cynfarch fab Meirchion (bl. hanner cyntaf y 6ed ganrif) neu Cynfarch Gul. Roedd yn ddisgynydd i'r brenin Coel Hen ac yn dad i Urien Rheged, brenin Rheged. Mae'r ychydig a wyddys amdano yn seiliedig ar dystiolaeth yr achau Cymreig yn bennaf. Yn y traddodiad Cymreig fe'i cymysgir yn aml â'r arwr chwedlonol March ap Meirchion a rhai o seintiau cynnar Cymru (gweler Cynfarch).
Yn ôl Bonedd Gwŷr y Gogledd, roedd Cynfarch yn fab i'r brenin Meirchion (Meirchiawn) fab Gorwst Ledlwm fab Cenau fab Coel. Roedd yn frawd i Elidir Lydanwyn ac felly'n ewythr i Llywarch Hen. Trwy amyfusedd, yn ôl pob tebyg, priodolwyd mab o'r enw Llew fab Cynfarch iddo pan addaswyd Brut y Brenhinedd i'r Gymraeg yn yr Oesoedd Canol.
Nid enillodd Cynfarch fab Meirchion le yn nhraddodiadau cynnar Cymru ac mae ei enw yn digwydd gan amlaf fel tad Urien Rheged yn unig. Mae'n debyg ei fod yn frenin Rheged ar ddiwedd y 5ed ganrif a dechrau'r ganrif olynol ac felly wedi cymryd rhan yn y brwydro cynnar yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid (Deifr, Brynaich) yn yr Hen Ogledd. Ymddengys fod Urien wedi etifeddu teyrnas Rheged ar ei farwolaeth.
Cyfeirir ato weithiau fel Cynfarch Gul, ar ôl ei dad Meirchion Gul. Yn ôl De situ Brecheiniauc, sy'n ymwneud â hanes teyrnas Brycheiniog, priododd Cynfarch (Kenuarch Gul) Nifain (Nyvein), un o ferched niferus Brychan Brycheiniog, ond credir nad oes sail i'r traddodiad diweddarach hwnnw.
Ceir sawl Cynfarch arall yn hanes a thraddodiad Cymru ac yn naturiol ddigon mae Cynfarch fab Meirchion yn cael ei gymysgu â nhw. Yr enghraifft bennaf o hyn yw'r chwedl enwog am Farch ap Meirchion, sy'n rhan o chwedl Trystan ac Esyllt, y ceir chwedl werin amdano wedi'i lleoli yn Llŷn hefyd. Mae'n bosibl fod Meirchion, tad March, yn frenin cynnar ym Morgannwg. Cyfeirir at 'Gynfarch' yn Englynion y Clyweit, ond gan fod Cynfarch yn enw ar sawl sant yng Nghymru does dim modd ei uniaethu â'r Cynfarch o'r Hen Ogledd. Cysylltir sant o'r enw Cynfarch â Llanfair Dyffryn Clwyd hefyd, ond unwaith eto does dim modd profi cysylltiad rhyngddo a brenin Rheged. Yn ôl traddodiad, sefydlodd Cynfarch arall, un o ddisgyblion Dyfrig Sant, gell yn Llangynfarch (Cas-gwent).
[golygu] Ffynhonnell
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991). Atodiad II, a'r nodyn ar dud. 322.
|
|
|
|---|---|
| Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
| Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Pabo Post Prydain • Pasgen fab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Sawyl Ben Uchel • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
| Lleoedd: |
Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud |
| Gweler hefyd: | |