Aneirin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd a flodeuodd yn hanner olaf y 6ed ganrif oedd Aneirin, un o'r Cynfeirdd cynnar. Mae'n debyg mai Neirin oedd ffurf gynharach ei enw, sy'n tarddu o'r gair Brythoneg tybiedig *naer sydd efallai'n gytras â'r gair Gwyddeleg nár (naill ai "nobl" neu "wylaidd""), yn ôl Ifor Williams.[1] Ef yw awdur Y Gododdin, cyfres o englynion arwrol a gedwir yn Llyfr Aneirin. Mae'r enw personol Cymraeg Aneurin yn ffurf ddiweddarach ar yr enw 'Aneirin'.

Historia Brittonum[golygu]

Yn ôl Historia Brittonum (tua 830), testun Lladin a briodolir weithiau i Nennius, roedd Aneirin yn enwog am ei ganu yn yr Hen Ogledd (de'r Alban a gogledd Lloegr heddiw), ynghyd â'i gyfoeswr Taliesin a Chynfeirdd eraill:

Yn yr amser hwnnw ymladdai Eudeyrn yn ddewr yn erbyn cenedl y Saeson. Felly hefyd yr oedd Talhaearn Tad Awen yn enwog ar gân; a hefyd y bu Aneirin a Thaliesin a Blwchfardd a Chian, a elwid "Gwenith Gwawd", i gyd yn enwog am eu canu.[2]

Tystiolaeth Y Gododdin[golygu]

Tudalen ffacsimili o Lyfr Aneirin (tua 1265), argraffwyd yn 1868

Priodolir y gerdd arwrol hir Y Gododdin iddo. Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. aneirin ae cant ("Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd"). Mae'r ffaith fod y gerdd yn coffhau arwyr hen deyrnas Manaw Gododdin, oedd a'i phrifddinas yng Nghaeredin, yn awgrymu bod Aneirin yn perthyn i'r ardal honno. Ceir cyfeiriad at farwolaeth Aneirin mewn pennill o'r Gododdin sy'n amlwg yn ychwanegiad diweddarach i'r testun:

er pan aeth daear ar aneirin. / nu neut ysgaras nat a gododdin.
("Er pan roddwyd daear ar Aneirin / mae Barddoniaeth wedi gadael y Gododdin").[3]

Yn yr un pennill cyfeirir at 'Guarchan mab dwywei' ("Cân mab Dwywei") ac awgryma'r cyd-destun fod hyn yn cyfeirio at Aneirin. Yn yr hen achau Cymreig mae Dwywei yn chwaer i Gwallog mab Llëenog (brenin Elmet, efallai); awgryma Ifor Williams fod Aneirin yn nai Gwallog ac felly'n frawd i Ddeiniol Sant. Mae cyfeiriad arall yn y Gododdin yn cyplysu Aneirin â Thaliesin:

Mi na vi aneirin
ys gwyr talyessin
ovec kywrenhin
neu chein(t) e ododin.[4]

O'r Awen daw y Gododdin yn hytrach nag o Aneirin ei hun ("Fi-nid fi, Aneirin - mae Taliesin nerthol ei ysbrydoliaeth yn gwybod hyn - fe genais i'r Gododdin").

Y Trioedd a gwaith y beirdd[golygu]

Coffheir Aneirin yn Trioedd Ynys Prydain fel Aneirin Gwawdrydd Mechdeyrn Beirdd, sef "Aneirin Rhwydd-ei-farddoni, Brenin y Beirdd" (Triawd 33, 34). Mae testun Triawd 33 yn llwgr, ond yn Triawd 34 dywedir bod Aneirin wedi cael ei ladd gan Heiddyn â bwyall: Bvyallavt Eidyn ym pen Aneiryn yw un o Teir Anvat Vwyallavt Enys Prydein ("Tri Thrawiad Bwyall Anffodus Ynys Prydain"). Yn y gerdd Anrec Uryen (13eg ganrif efallai) ceir fformiwla cyffelyb i'r hwnnw yn y Trioedd: Aneirin gwawdryd awenyd.

Ceir sawl cyfeiriad ato hefyd yng ngwaith Beirdd y Tywysogion, e.e. Dafydd Benfras sy'n dymuno bendith yr Awen

I ganu moliant mal Aneirin gynt,
Dydd y cant Ododin.[5]

Serch hynny mae'r cyfeiradau ato yn gymharol brin mewn cymhariaeth â'r rhai niferus at Daliesin a Myrddin.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Ail arg. diwygiedig, Caerdydd, 1978). ISBN 0-7083-0690-X
  • N.G. Costigan ac eraill (gol.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill (Caerdydd, 1995). ISBN 0-7083-1304-3
  • John Morris (gol.), Nennius[:] British History and Welsh Annals (Llundain, 1980). ISBN 0-85033-297-4
  • A.H. Jarman (gol.), Aneirin: Y Gododdin (Llandysul).
  • Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1961).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Canu Aneirin, rhagymadrodd.
  2. Historia Brittonum, pennod 62.
  3. Canu Aneirin, pennill LV.
  4. Canu Aneirin, llau. 548-51.
  5. Gwaith Dafydd Benfras, 25.5-6

Dolenni allanol[golygu]