Afon Marne

Oddi ar Wicipedia
Afon Marne
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSeine-et-Marne Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr423 metr, 29 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.8183°N 5.35°E, 48.8164°N 2.4108°E Edit this on Wikidata
TarddiadMarne River spring Edit this on Wikidata
AberAfon Seine Edit this on Wikidata
LlednentyddQ51278493, Thérouanne, Suize, Grand Morin, Beuvronne, Blaise, Coole, Ourcq, Petit Morin, Guenelle, Rognon, Fion, Saulx, Somme-Soude, Surmelin, Traire, Cubry, Gondoire, Isson, Les Tarnauds, Livre, Morbras, Rongeant, Semoigne, La Gravelotte Edit this on Wikidata
Dalgylch12,800 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd514 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad100 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am yr afon yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd Afon Marne (Awstralia).

Afon weddol fawr yn Ffrainc sy'n un o ledneintiau Afon Seine yw Afon Marne. Mae'n llifo trwy'r ardal i'r dwyrain a'i de-ddwyrain o ddinas Paris. Ei hyd yw 514 km (319 milltir). Rhydd yr afon ei henw i départements Haute-Marne, Marne, Seine-et-Marne, a Val-de-Marne.

Ymladdwyd dwy frwydr fawr ar lan Afon Marne River yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1914 a 1918.

Mae Afon Marne yn tarddu ar lwyfandir Langres, ac yn llifo i gyfeiriad y gogledd cyn troi i'r gorllewin rhwng Saint-Dizier a Châlons-en-Champagne, i ymuno ag Afon Seine yn Charenton fymryn i fyny'r afon o Baris.

Celf[golygu | golygu cod]

Mae'r afon wedi ysbrydoli sawl arlunwr enwog yn y ddwy ganrif diwethaf, yn cynnwys:

Paul Cézanne, Le Pont sur la Marne à Créteil

Y Cysylltiad Celtaidd[golygu | golygu cod]

Uniaethir Modron, mam Mabon fab Modron ym mytholeg Cymru, a'r fam-dduwies Matrona, oedd yn dduwies Afon Marne yng Ngâl yn amser y Celtiaid ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf.

Départements a phrif drefi ar ei glannau[golygu | golygu cod]