Argoed Llwyfain
- Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Argoed.
Safle brwydr dyngedfennol yn yr Hen Ogledd oedd Argoed Llwyfain (hefyd Argoed Llwyfein). Ceir hanes y frwydr mewn awdl o waith Taliesin a gedwir yn Llyfr Taliesin. Mae ei union leoliad yn ansicr, ond cynigir safle yn nyffryn afon Eden, Cumbria. Ymddengys fod yr enw Llwyfain yn gysylltiedig ag enw yr ardal Llwyfenydd, yn nhiriogaeth Rheged.[1]
Yn ôl yr awdl 'Gweith Argoet Llwyfein' ("Brwydr Argoed Llwyfain") gan Daliesin, ymladdwyd y frwydr enwog ryw 'bore dydd Sadwrn' rhwng lluoedd gwŷr Rheged, dan arweiniad Urien Rheged a'i fab Owain, a llu o elynion (Eingl-Sacsoniaid o Frynaich efallai) dan arweiniad Fflamddwyn. Roedd byddin Fflamddwyn wedi'i threfnu yn bedair adran. Parodd am ddiwrnod cyfan ac enillodd y Brythoniaid fuddugoliaeth ysgubol. Gadawyd nifer o gyrff yr ymosodwyr ar faes y gad yn fwyd i'r brain:
- A rhag gwaith Argoed Llwyfain
- Bu llawer celain;
- Rhuddai frain rhag rhyfel gwŷr.[2]
Mae'n debyg i'r frwydr gael ei hymladd tua chanol y 6ed ganrif, ond ni ellir ei dyddio'n fanylach.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960), rhagymadrodd.
- ↑ Canu Taliesin, 6.20-22. Diweddarwyd yr orgraff.
|
|
|
|---|---|
| Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
| Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Pabo Post Prydain • Pasgen fab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Sawyl Ben Uchel • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
| Lleoedd: |
Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud |
| Gweler hefyd: | |