Llyfr Taliesin

Oddi ar Wicipedia
Llyfr Taliesin
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
Deunyddfelwm Edit this on Wikidata
AwdurTaliesin Edit this on Wikidata
Rhan oLlawysgrifau Peniarth Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Canol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddic. 1325 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1300s Edit this on Wikidata
Genrebarddoniaeth, llenyddiaeth epig Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Prif bwncTaliesin Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Llyfr Taliesin (Peniarth 2) ymhlith y cynharaf o lawysgrifau Cymraeg sydd wedi goroesi. Llawysgrif ar femrwn sy'n dyddio o hanner cyntaf y 14g ydyw ond sy'n cynnwys testunau sy'n hŷn o lawer.[1] Mae'r llawysgrif ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o'r casgliad a enwir yn Llawysgrifau Peniarth. Tybir iddi gael ei ysgrifennu yn ne neu ganolbarth Cymru. Math o flodeugerdd o'r cerddi a briodolwyd i Daliesin ydyw.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Ceir testunau Canu Taliesin, cerddi a ystyrir gan rai yn waith y bardd Taliesin (fl. ail hanner y 6g), yn y llawysgrif. Priodolir y cyfan o'r cerddi eraill yno i Daliesin hefyd. Mae nifer o'r rhain yn ymwneud â'r chwedl Hanes Taliesin. Ceir yn ogystal nifer o gerddi darogan, gan gynnwys Armes Prydain, cerddi i arwyr fel Cynan, Gwallog, Alecsander Fawr ac Ercwlff (Hercules), ynghyd â chyfres o gerddi crefyddol a Beiblaidd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J. Gwenogvryn Evans (gol.), Facsimile and Text of the Book of Taliesin (1910). Argraffiad ffacsimile ardderchog.
  • Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960). Gwaith y Taliesin hanesyddol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfr Taliesin Archifwyd 2016-03-10 yn y Peiriant Wayback..