Barddoniaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Barddoniaeth ydy'r gelfyddyd o fynegi'n brydferth y meddyliau a gynhyrchir gan y teimlad a'r dychymyg, fel arfer ond nid bob amser gyda llinellau o hyd arbennig, rythm arbennig a'r llinellau yn odli. Mae rhai wedi disgrifio barddoniaeth fel ffordd arbennig o drin geiriau. Ymhlith y technegau y gall bardd eu defnyddio mae cymariaethau, trosiadau, odl, cyflythreniad ac ailadrodd.

Ymhlith y mathau o fesurau barddoniaeth y gellir eu cael mae englyn, haiku, telyneg, soned, cywydd, a baled.

Barddoniaeth Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r engreifftiau cynharaf o farddoniaeth Gymraeg o'r chweched ganrif, sef Canu Aneurin a Chanu Taliesin. Tua'r nawfed ganrif cafwyd Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Gelwir y beirdd o'r cyfnod cynnar yn Gynfeirdd a'r beirdd yng nghyfnod y tywysogion yn Ogynfeirdd. Gelwir beirdd yr oes wedi cwymp Llywelyn 1282 yn Feirdd yr Uchelwyr. Ysgrifennau Beirdd yr Uchelwyr megis Dafydd ap Gwilym a Iolo Goch llawer o gywyddau. Bu trai ar ysgrifennu barddoniaeth ar ôl uno Cymru a Lloegr. Rhaid cofio serch hynny bod emynau yr emynwyr yn farddoniaeth aruchel, yn enwedig gwaith William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif caed dadeni gyda beirdd fel T Gwynn Jones. Nes ymlaen yn y ganrif roedd T H Parry-Williams a Gwenallt yn ysgrifennu, a thua chanol y ganrif bardd mawr arall oedd Waldo Williams. Mae llu o feirdd wedi ysgrifennu barddoniaeth o safon uchel o hynny hyd at ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, nifer ohonynt yn ysgrifennu mewn cynghanedd.

Yn y Gymraeg ceir Cynghanedd, rhywbeth sy'n unigryw i'r Gymraeg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am barddoniaeth
yn Wiciadur.