Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell adnau cyfreithiol Cymru yw'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae ganddi gyfrifoldeb dros gasglu deunydd print, ffotograffau, mapiau, lluniau, llawysgrifau, CD-ROMau ac archifau gyda phwyslais arbennig ar ddeunydd Cymreig a Cheltaidd.
Sefydlwyd y Llyfrgell yn 1907 wedi ymgyrch hir a phoblogaidd a gychwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1873.
Cedwir rhai o'r llawysgrifau Cymreig pwysicaf yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau'r llyfrgell, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch, Y Llyfr Du o'r Waun a Llawysgrif Hendregadredd. Yr oedd nifer o'r llawysgrifau hyn yn rhodd i'r llyfrgell newydd gan Syr John Williams yn 1909. Defnyddiwyd yr adeilad am y tro cyntaf ym 1916.
Yn ogystal â'r casgliadau uchod, lleolir yr Archif Wleidyddol Cymreig[1] ac Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru yno hefyd.[2]
Mae'r Llyfrgell ar agor chwe diwrnod yr wythnos ac mae mynediad i'r holl arddangosfeydd am ddim. Gellir gweld nifer o gasgliadau diddorol y Llyfrgell ar eu gwefan o dan y pennawd 'Trysorau'.[3]
Cyhoeddwyd llawer o ddeunyddiau ar y we. Ar hyn o bryd mae prosiect Cylchgronau Cymru[4] yn digideiddio 50 o gyfnodolion am Gymru, ar gael am ddim i bawb, sy'n cynnwys Y Cofiadur, Y Fflam a'r cylchgrawn Heddiw. Felly hefyd gyfraniad hen ffotograffau o'r Llyfrgell ar Wicipedia.
Ar 26 Ebrill 2013, cafwyd tân yn atic estyniad y Llyfrgell newydd.[5] Gwacawyd yr holl staff o'r adeilad a bu'r frigad dân wrthi'n ddyfal yn diffodd y tân.
Prif lyfrgellwyr [golygu]
- John Ballinger (1909–1930)
- William Llewelyn Davies (1930–1952)
- Thomas Parry (1953–1958)
- E. D. Jones (1958–1969)
- David Jenkins (1969–1979)
- R. Geraint Gruffydd (1980–1985)
- Brynley F. Roberts (1985–1998)
- Andrew Green (1998–)