Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru
Undeb llafur ar gyfer athrawon ysgol a darlithwyr yng Nghymru yw Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC). Mae'n undeb sy'n rhoi pwyslais ar safle'r iaith Gymraeg yn addysg Cymru. Cafodd ei sefydlu ar ddiwedd y 1940au pan dorrodd aelodau o'r NUT Prydeinig yn rhydd o'r undeb hwnnw am nad oedd yn parchu'r Gymraeg. Lleolir y pencadlys yn Aberystwyth, Ceredigion. Mae tua 6,000 o athrawon a darlithwyr yn aelodau o'r undeb, sy'n aelod o TUC Cymru, sef tua 15% o athrawon Cymru.
Yn ôl UCAC, mae amcanion yr undeb yn cynnwys amddiffyn buddiannau athrawon a darlithwyr y wlad, cynnig gwasanaeth cyfreithiol i'w aelodau, gweithredu drwy'r Gymraeg a gweithio dros yr iaith ym mhob adran o addysg Cymru. Mae UCAC yn cefnogi cyfundrefn addysg annibynol i Gymru.
Mae cyn Drefnwyr Cenedlaethol UCAC yn cynnwys y dramodydd Gareth Miles.
