David Jenkins (llyfrgellydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llyfrgellydd ac ysgolhaig Cymreig oedd David Jenkins (29 Mai 19126 Mawrth 2002). Fe'i cofir fel awdur bywgraffiad cofiant i'w gyfaill T. Gwynn Jones.[1]

Roedd yn frodor o Flaenclydach yn y Rhondda. Symudodd gyda'r teulu, yn hogyn ysgol, i Geredigion. Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle roedd yn un o fyfyrwyr olaf T. Gwynn Jones, fe'i penodwyd i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu'n Brif Lyfrgellydd yno o 1969 hyd ei ymddeoliad yn 1979.[1] Yn 1971 cafodd ei wneud yn Athro Cymrodorol Anrhydeddus yn ei hen goleg.[2]

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Thomas Gwynn Jones. Cofiant. (Gwasg Gee, 1973)
  • (gol.), Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (1978)
  • (gol.), Bro a Bywyd T. Gwynn Jones (1984)
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
  2. David Jenkins, Thomas Gwynn Jones. Nodyn clawr.