Prifysgol Aberystwyth
| Aberystwyth | |
|---|---|
| Prif fynedfa'r Hen Goleg | |
| Arwyddair | Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth |
| Sefydlwyd | 1872 |
| Math | Cyhoeddus |
| Canghellor | Siarl, Tywysog Cymru |
| Llywydd | Syr Emyr Jones Parry |
| Is-ganghellor | Yr Athro April McMahon |
| Staff | 5,230 |
| Myfyrwyr | 12,245[1] |
| Israddedigion | 8,260[1] |
| Ôlraddedigion | 2,500[1] |
| Lleoliad | Aberystwyth, |
| Tadogaethau | Prifysgol Cymru AMBA ACU University Alliance Universities UK HiPACT SEDA HEA |
| Gwefan | http://www.aber.ac.uk/cy/ |
Prifysgol yn Aberystwyth, Ceredigion yw Prifysgol Aberystwyth. Hyd fis Medi 2007 ei henw swyddogol oedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1872 yr agorwyd sefydliad prifysgol cyntaf Cymru — 'y Coleg ger y Lli'. Y prifathro cyntaf oedd Thomas Charles Edwards, ac ar y cychwyn 26 o fyfyrwyr oedd yn astudio yno. Bellach, mae yno dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau.
Un o adrannau enwocaf y brifysgol yw Adran y Gymraeg. Yn Asesiad Ymchwil 2001 llwyddodd yr Adran i wella ar ei chanlyniad yn 1996 (pan ddyfarnwyd gradd 5A iddi). Y tro hwn dyfarnwyd gradd 5*A iddi, y radd uchaf un. Golyga hyn fod y Panel Asesu o'r farn bod dros hanner y gweithiau a gyflwynwyd gan yr Adran o safon rhagoriaeth ryngwladol, a'r cyfan o'r gweddill o safon rhagoriaeth genedlaethol. Mae yno amrywiaeth o staff academaidd gyda nifer ohonynt yn arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd.[angen ffynhonnell]
Gellir astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ar gyfer nifer o fodiwlau yn yr Adran Hanes ac Adran y Gyfraith a Throseddeg, ynghyd ag ychydig o bynciau eraill.
Gweler hefyd[golygu]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Aberystwyth University Profile. Universities Profile. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2008.