Aberystwyth
Cyfesurynnau: 52°24′50″N 4°04′52″W / 52.414°N 4.081°W
| Aberystwyth | |
Tref Aberystwyth |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 15,935 (2001) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans | SN585815 |
| - Caerdydd | 90 mi (140 km) De Ddwyrain |
| Prif ardal | Ceredigion |
| Sir seremonïol | Dyfed |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | ABERYSTWYTH |
| Rhanbarth cod post | SY23 |
| Cod deialu | 01970 |
| Yr Heddlu | Dyfed-Powys |
| Tân | Canolbarth a Gorllewin Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Ceredigion |
| Cynulliad Cymru | Ceredigion |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin | |
Tref fwyaf Ceredigion, ar arfordir gorllewin Cymru yw Aberystwyth. Mae'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion lle llifai'r afonydd Rheidol a'r Ystwyth i'r môr. Cododd Edmwnt, brawd y brenin Edward I o Loegr y castell presennol yn 1277 a thyfodd y dref o gwmpas y castell. Daeth yr harbwr yn bwysig yn y bedwaredd ganrif ar ddeg o ganlyniad i'r cloddfeydd plwm a oedd yn yr ardal.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Mesolithig
Mae tystiolaeth y defnyddwyd ardal Tan-y-Bwlch ger troed Pen Dinas (Penparcau) yn ystod y cyfnod Mesolithig, ar gyfer creu arfau ar gyfer helwyr-gasglwyr allan o'r callestr a adawyd yno wedi i'r iâ encilio.[1]
[golygu] Yr Oesoedd Efydd a Haearn
Mae olion caer Celtaidd ar ben bryn Pen Dinas (neu 'Dinas Maelor'), Penparcau yn edrych dros Aberystwyth o'r de, yn dynodi yr anheddwyd y safle o tua 700 CC.[2][3] Ar ben bryn i'r de o'r Afon Ystwyth, mae olion cylch gaer. Credir mai olion y castell o ble herwgipwyd y Dywysoges Nest yw rhain. Mae'r olion bellach ar dir preifat a gellir ei gyrchu drwy gael caniatád a threfnu gyda'r perchennog yn unig.[4]
[golygu] Yr Oesoedd Canol
Mae'n debyg mai'r cofnod hanesyddol cyntaf o Aberystwyth oedd adeiladu caer yn 1109, gan Gilbert Fitz Richard (taid Richard de Clare, sy'n adnabyddus am ei rôl arweiniodd yn Ngoresgyniad Normanaidd Iwerddon). Rhoddwyd tiroedd ac arglwyddiaeth Aberteifi i Gilbert Fitz Richard, gan Harri I, brenin Lloegr, gan gynnwys Castell Aberteifi. Lleolwyd y caer yn Aberystwyth tua milltir a hanner i'r de o safle'r dref heddiw, ar fryn uwchben glannau deheuol yr Afon Ystwyth.[5] Adeiladodd Edmwnt, brawd y brenin Edward I gastell newydd yn 1277, wedi iddo gael ei ddinistrio gan y Cymry.[6] Ond, adeiladwyd ei gastell ef mewn safle gwahanol, ar bwynt uchel y dref, sef Bryn Catsell. Rhwng 1404 a 1408 roedd Castell Aberystwyth yn nwylo Owain Glyndŵr, ond ildiodd i'r Tywysog Harri, a ddaeth yn Harri V, brenin Lloegr yn ddiweddarach. Yn fuan wedi hyn cyfunwyd y dref gyda Ville de Lampadarn (enw hynafol Llanbadarn Gaerog, er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth Llanbadarn Fawr, y pentref (1.6 km) i'r gorllewin). Dyma sut y cyfeirir ato yn y Siarter Brenhinol a roddwyd gan Harri VIII, ond fel Aberystwyth y cyfeirwyd ato yn nogfennau o oes Elizabeth I.[7]
Agorwyd un o fanciau annibynnol cynharaf Cymru, Banc y Llong yn y dref yn 1762.
[golygu] Economi
Mae Aberystwyth yn dref gwyliau glan môr poblogaidd, yn ogystal a dwy sinema a cwrs golff, mae ei atyniadau yn cynnwys:
- Camera obscura Fictoraidd ar gopa Craig-glais
- Rheilffordd Dyffryn Rheidol
- Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.
- Gwarchodfa natur Parc Penglais
- Llwybr seiclo Ystwyth a Rheidol
- Amgueddfa Ceredigion
Mae hufenfa organig cwmni Rachel's Organic wedi ei leoli ar ystad ddiwydiannol Glan yr afon, a dyma'r cyflogwr mwyaf yn y sector breifat yn Aberystwyth.[8][9] Mae rhai yn honni fod y dref wedi datblygu economi fach ei hun gan ei fod wedi ei ynysu oddi wrth gweddill y wlad: mae Rachel yn cyflogi 130, a 1,000 wedi eu cyflogi yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y dref; cyflenwir y rhan helaeth o weithwyr y sector cyflog isel gan fyfyrwyr.[9]
Daeth papur newydd y Cambrian News i Aberystwyth o'r Bala ym 1870, wedi iddo gael ei brynu gan Syr John Gibson. Argraffwyd yn Nghroes-oswallt, ac ym mis Mai 1880 cyfunodd y papur gyda'r cyn-Malthouse Dan Dre. Y teulu Read oedd yn berchen arni o 1926, ac ym 1993, contractwyd yr argraffu allan, gan alluogi i'r cwmni symyd eu staff golygyddol i swyddfa ar Barc Gwyddoniaeth ar Gefnllan, ger Llanbadarn Fawr. Ar farwolaeth Henry Read, prynwyd y papur gan Syr Ray Tindle ym 1999, gan ddod yn un o dros 200 o bapurau wythnosol ym Mrhydain sydd yn eiddo iddo. Mae gan y Cambrian News yr ail gylchrediad wythnosol fwyaf yng Nghymru erbyn hyn, gyda 24,000 copi mewn chwe fersiwn olygyddol, a ddarllenir gan 60,000ar draws 3000 milltir sgwar.[10]
[golygu] Diwylliant
Mae Aberystwyth yn gartref i sawl sefydliad a mudiad:
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Prifysgol Aberystwyth
- Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig
- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
- Undeb Amaethwyr Cymru
- Urdd Gobaith Cymru
Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn glwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Principality Cymru.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ym 1916, 1952 a 1992. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1992
[golygu] Enwogion
Aberystwyth yw tref enedigol:
- David John de Lloyd (1883-1948), cyfansoddwr
- Goronwy Rees (1909-1970)
- Steve Jones (biolegydd) (g. 1944)
- Roger Rees, actor (g. 1944)
- Dafydd Ifans (g. 1949), awdur
- Malcolm Pryce (g. 1960), awdur a aned yn Amwythig sy'n awdur cyfres o nofelau noir digrif a leolir yn Aberystwyth
[golygu] Dyfyniadau am Aberystwyth
San Francisco Cymru, Aberystwyth
"Rauschgiftsuchtige?", Datblygu.
Doomed yn Aber
Eifion Eurig Davies.
[golygu] Addysg
Mae Aberystwyth yn gartref i ysgol Gymraeg ddynodedig cyntaf Cymru, sef Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd fel Ysgol Gymraeg yr Urdd ym 1939.
Mae dwy ysgol uwchradd, ysgol gyfun Gymraeg Penweddig ac ysgol ddwyieithog Penglais, ac ysgolion cynradd Plascrug, Cwmpadarn a Llwyn yr Eos.
Mae addysg uwch ac addysg bellach yn cael ei ddarparu yn y dref gan Brifysgol Aberystwyth a Choleg Ceredigion.
[golygu] Gefeilldrefi
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Houlder, C.H., The Stone Age, in J L Davies and D P Kirkby, Cardiganshire County History, I, (1994), pp. 107-123
- ↑ Briggs, C.S., The Bronze Age, in J L Davies and D P Kirkby, Cardiganshire County History, I, (1994), p. 216, : appendix V, : no. 15
- ↑ Browne, D and Driver, T., Bryngaer Pendinas Hill Fort, A Prehistoric Fortress at Aberystwyth, (2001)
- ↑ Houlder, C.H., (1957), Recent Excavations in Old Aberystwyth, Ceredigion, III, no. 2, pp. 114-117
- ↑ Griffiths, Ralph A., "The Three Castles at Aberystwyth", Archaeologia Cambrensis, V.126, 1977, pp. 74-87
- ↑ Spurgeon, C.J., The Castle and Borough of Aberystwyth, 1973, p. 5
- ↑ Griffiths, R.A., (1978), 'Aberystwyth' in Griffiths, R.A., Boroughs of Mediaeval Wales, 19, 25-7
- ↑ Jobs - About Us. Rachel's Organics. Adalwyd ar 2010-05-31.
- ↑ 9.0 9.1 Nick Servini (2009-09-10). Tour to test claims of recovery. BBC. Adalwyd ar 2010-05-31.
- ↑ 150 year celebration. Cambrian News (2010-01-08). Adalwyd ar 2010-05-31.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Aber Info
- (Saesneg) AberWiki, Wici am Aberystwyth
- (Saesneg) Aberystwyth a'r Cylch
Aberaeron · Aberarth · Aber-banc · Aberffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aberporth · Aberteifi · Aberystwyth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaenporth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Ceinewydd · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llanbedr Pont Steffan · Llandre · Llandyfriog · Llandysul · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-Garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pontrhydygroes · Pont-Siân · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Synod Inn · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Tregaron · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troedyraur · Ysbyty Ystwyth · Ystrad Aeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen