Afon Ystwyth
Yr afon sy'n llifo trwy dref Aberystwyth yw Afon Ystwyth. Mae'n llifo tua'r gorllwein o'i darddiad ger Gronfa Ddŵr Craig Goch yng Nghwm Elan. Mae'n cyrraedd Bae Ceredigion yn Aberystwyth, lle mae'n rhannu aber ag Afon Rheidol.
Mae Dyffryn Ystwyth wedi ei boblogi'n wasgarog erbyn hyn, gyda ond ychydig o bentrefi megis Ysbyty Ystwyth, Cwmystwyth, Pontrhydygroes, Llanilar a Llanfarian. Canrifoedd ynghynt, roedd Dyffryn Ystwyth yn gymharol boblog oherwydd ei gyfoeth mwynol. Cloddwyd arian, plwm a sinc yn y dyffryn ers y cyfnod Rhufeinig, cyrrhaeddodd y gweithgarwch hyn ei uchafbwynt yn y 18fed ganrif. Lleolwyd y gloddfa fwyaf yng Nghwmystwyth. Dywedir mai 32 oedd yr oedran marw ar gyfartaledd yng Nghwmystwyth, yn bennaf oherwydd gwenwyno plwm.
Mae dŵr yr afon yn dal i gario lefelau uchel o sinc ac arian. Ar wahân i'r olion diwydiannol hyn, mae'r dyffryn yn un o'r prydferthaf yng Nghymru, gyda glannau serth coediog yn cario'r dŵr clir disglair. Yn yr hydref mae'n arbennig o brydferth; daw nifer o ymwelwyr i ran ucha'r dyffryn yn yr hydref ble mae madarch hud yn tyfu yn ôl pob son.