Cyngor Llyfrau Cymru

Oddi ar Wicipedia
Logo Cyngor Llyfrau Cymru
Cyngor Llyfrau Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1961 Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wbc.org.uk, http://www.cllc.org.uk Edit this on Wikidata
Castell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru heddiw

Sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru yn 1961 fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg. Erbyn heddiw noddir hi gan Lywodraeth Cymru. Amcanion y Cyngor yw i hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, hybu'r diwydiant cyhoeddi, cynorthwyo a chefnogi awduron drwy gynnig amryw o wasanaethau a dosbarthu grantiau. Maent yn darparu gwasanaethau golygu a dylunio i gyhoeddwyr, darparu grantiau i awduron yn ogystal â grantiau cyhoeddwyr er mwyn hybu cyhoeddi llyfrau, gwasanaethau i lyfrgelloedd a chyfanwerthu llyfrau a deunydd perthnasol.

Mae pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru yng Nghastell Brychan, Aberystwyth ac erbyn hyn, canolfan dosbarthu yn Mharc Busnes Glanyrafon ar gyrion y dref. Mae gan y ganolfan, drosiant o £5.5 miliwn y flwyddyn (net) ac mae 49 o aelodau staff parhaol yn gweithio rhwng y ddau safle.

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio ar y cyd gyda nifer o gyrff a chwmniau eraill megis yr Academi Gymreig, Urdd Gobaith Cymru ac S4C. Mae'nt yn ymwneud â trefnu a hysbysebu gwobrau Llyfr y Flwyddyn, Bardd Plant Cymru a Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi.

Cyhoeddir nifer o daflenni a chatalogau llyfrau yn flynyddol ar gyfer plant ysgol, a chatalogau ffuglen ac yn y blaen, ar gyfer oedolion. Rhai o'r hen gyhoeddiadau oedd Sbondonics a Sbri-di-ri, a ddaeth i ben yn 2009.

Anfonodd y Cyngor dros 1000 o lyfrau Cymraeg i Batagonia yn 2005, gwerth bron i £7,000 er mwyn helpu pobl yno i ddysgu'r Gymraeg.[1]

Prif weithredwyr[golygu | golygu cod]

Dyma restr o gyfarwyddwyr neu brif weithredwyr y Cyngor ers y cychwyn, gyda'r dyddiad wnaethont gychwyn ei swydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cludo llyfrau i Batagonia. BBC Cymru (15 Hydref 2005).
  2.  Sefydlu'r Cyngor Llyfrau. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 6 Hydref 2016.
  3.  Cyfarwyddwr Newydd i'r Cyngor Lyfrau. Cyngor Llyfrau Cymru (26 Mehefin 2009). Adalwyd ar 6 Hydref 2016.
  4. Cyhoeddi enw Prif Weithredwr newydd Cyngor Llyfrau Cymru , Golwg360, 6 Hydref 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.