Patagonia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Espejo, ym Mhatagonia
Patagonia (mewn oren)

Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Chile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Ar ochr Chile o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o ledred 42°D, gan gynnwys rhan ddeheuol rhanbarth politicaidd Los Lagos a rhanbarthau Aysén a Magallanes (heblaw am y rhan o Antártica a hawlir gan Chile).

Ar ochr yr Ariannin o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o afonydd Neuquén a Río Colorado, gan gynnwys y taleithiau Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del Fuego, a rhan ddeheuol Talaith Buenos Aires. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn yr Ariannin, mae Patagonia wedi ei rhannu yn bedair talaith:

  1. Neuquén: 94,078 km², rhwng yr afonydd Nequen a Limay, yn ymestyn tua'r de hyd at lan gogleddol Llyn Nahuel-Huapi, a thua'r gogledd hyd at y Rio Colorado.
  2. Río Negro: 203,013 km², rhwng Môr yr Iwerydd a'r Andes, rhwng Nequen a lledred 42° De.
  3. Chubut: 224,686 km², rhwng 42° a 46° De.
  4. Santa Cruz: 243,943 km², rhwng Chubut a ffîn Tsili.

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhwng 1865 a 1912, cyrhaeddodd minteioedd o Gymry er mwyn sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yr Ariannin. Y Wladfa oedd enw'r Cymry hynny ar yr ardal honno.

Erys rhai siaradwyr Cymraeg yn nhalaith Chubut hyd heddiw. Er mwyn cynnal y Gymraeg yn Chubut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon athrawon o Gymru at yr ysgolion Cymraeg yno.

Flag of Argentina.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill