Urdd Gobaith Cymru
| Urdd Gobaith Cymru | |
| Sefydlwyd | 1922 |
|---|---|
| Sefydlydd | Syr Ifan ab Owen Edwards |
| Gwefan | http://www.urdd.org |
Mudiad ieuenctid Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Mae'r aelodau yn addo bod yn ffyddlon i Gymru, i'w cyd-ddyn ac i Grist.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn. Mae enillwyr eisteddfodau cylch yn mynd ymlaen i'r eisteddfodau sir ac enillwyr yr eisteddfodau sir sydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei hun. Fodd bynnag, weithiau gwahoddir y cystadleuwyr a ddaeth yn ail yn yr Eisteddfod Sir i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ond mae hyn yn dibynnu ar niferoedd.
Mae'r Urdd hefyd yn cynnal gwersylloedd yng Nglanllyn ger Y Bala a Llangrannog, Ceredigion, lle mae Cymry Cymraeg a dysgwyr yn mwynhau gweithgareddau awyr agored. Mae'r Urdd yn rhannu'r cyfleusterau sydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ers 2004.
Aelodau o'r Urdd [golygu]
- Mae 50,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau o’r Urdd.
- Mae un rhan o dair o’r holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8 ac 18 yn aelodau.
- Mae 30% o’r holl aelodau yn dweud eu bod yn ddysgwyr.
- Mae dros 3,000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 mlwydd oed.
- Enwau cyfarwydd a fu gynt yn aelodau o’r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o’r gyfres Big Brother!
- Mae gan y mudiad 10,000 o wirfoddolwyr sy’n weithgar dros ben mewn 900 o ganghennau ledled y wlad.[1]
Beth mae'r Urdd yn cynnig [golygu]
Yn ardaloedd lleol.
- Mae tîm o staff yn bugeilio 300 o adrannau ac aelwydydd cymunedol.
- Cynhelir clybiau wythnosol, cystadlaethau, chwaraeon, teithiau tramor a theithiau i’r gwersylloedd.
Yn y gwersylloedd.
- Gweithgareddau awyr agored megis hwylio, canŵio a dringo yng Nglan-llyn, wibgartio, sgïo a merlota yn Llangrannog, ymweliad â Stadiwm y Mileniwm neu’r theatr yng Nghaerdydd
Ar y maes chwarae.
- Rygbi, nofio, pêl-droed, gymnasteg, athletau.
- Cystadlaethau rhwng plant a phobl ifanc ar hyd ac ar led Cymru.
- Clybiau wythnosol a chyrsiau chwaraeon
Ar lwyfan yr Eisteddfod.
- Cymryd rhan yng ngŵyl ieuenctid cystadleuol fwyaf Ewrop.
- Cystadlaethau canu, dawnsio, actio, perfformio, celf a chrefft, barddoni
Yn y cylchgronau.
- Straeon diddorol a chystadlaethau yn Cip, iaw! a Bore Da?
- Cylchgronau ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg
Trwy waith dyngarol.
- Cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da Plant Cymru. Mae'r Urdd wedi gwneud hyn ers 1925.
- Cyfle i fynd tramor gyda’r Urdd i wneud gwaith gwirfoddol a thrwy hynny darganfod diwylliannau eraill a chyfarfod plant a phobl ifanc o wledydd ar draws y byd.