S4C
Oddi ar Wicipedia
Darlledwr sy'n darparu gwasanaethau teledu yn y Gymraeg yw Sianel Pedwar Cymru neu S4C. Dechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd 1982.
Ei gyfrifoldeb yw darparu gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg yn bennaf yn yr oriau brig. Cyn sefydlu S4C roedd Cymry Cymraeg yn ddibynnol ar raglenni achlysurol ar BBC Cymru ac HTV Cymru, yn aml yn hwyr yn y nos neu adegau amhoblogaidd eraill. Roedd hyn yn annerbyniol i'r Cymry Cymraeg ac i'r di-Gymraeg hefyd am fod rhaglenni Saesneg o weddill Prydain yn cael eu darlledu ar amseroedd gwahanol neu ddim o gwbwl.
Dros y 1970au bu ymgyrchwyr iaith yn brwydro dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg. Gwrthodwyd talu'r drwydded deledu gan Gymry amlwg, torrwyd i mewn i stiwdios teledu a bu protestwyr hyd yn oed yn dringo mastiau a distrywio cyfarpar darlledu. Yn 1980 gwnaeth Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd at farwolaeth ar ôl i Lywodraeth Margaret Thatcher fynd yn ol ar addewid a wnaethant i roi sianel Gymraeg i Gymru. Ar ôl i Gymry amlwg megis Archesgob Cymru ar y pryd, Cledwyn Hughes a Goronwy Daniel fynd i gyfarfod ag aelod o'r cabinet fe newidiodd Margaret Thatcher ei meddwl ac fe gytunwyd i sefydlu'r sianel.
'Dyw S4C ddim yn cynhyrchu rhaglenni ei hun, ond yn eu comisynu oddi wrth gwmniau annibynnol, ac yn y gorffennol bu gan y sianel enw da am gynhyrchu cartwnau megis SuperTed, Sam Tân, Shakespeare - The Animated Tales ac ati.
Cyllidir y gwasanaethau yn bennaf gan gymorthdal drwy Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Llywodraeth yn San Steffan. Mae S4C hefyd yn derbyn arian am werthu hysbysebion ond bu gostyngiad yn lefel yr incwm o hysbysebu wrth i wylwyr droi at ddulliau digidol o dderbyn eu gwasanaethau teledu, gan mai dim ond ar analog y mae S4C yn gallu gwerthu hysbysebion o gwmpas rhaglenni Saesneg Channel 4.
Mae'r BBC yn cyflawni ei ddyletswydd cyhoeddus trwy gynhyrchu deg awr o raglenni bob wythnos, gan gynnwys rhaglenni poblogaidd megis Pobol y Cwm a Newyddion. Fel gweddill gwasanaethau cyhoeddus y BBC, mae'r rhain yn cael eu hariannu drwy'r drwydded deledu.
Ar yr adegau pan nad yw S4C yn darlledu yn Gymraeg dangosir rhaglenni Channel 4 a gynhyrchir i weddill y Deyrnas Unedig, ond bydd hyn yn dod i ben pan fydd teledu analog yn cael ei ddiffodd yng Nghymru yn 2009 a 2010 fel rhan o'r Newid i Ddigidol yng ngwledydd Prydain.
[golygu] Sianeli Digidol
Yn ogystal â'r signal analog a ddarlledir drwy Gymru, mae S4C yn darlledu'n ddigidol ar S4C Digidol, ac S4C2 sy'n darlledu cyfarfodydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae S4C Digidol ac S4C2 ar gael drwy wledydd Prydain drwy loeren, yn ogystal a thrwy Gymru ar Freeview (Teledu Digidol Daearol) ac ar wasanaeth cebl Virgin Media mewn rhannau o Dde Cymru.


