Pobol y Cwm
| Pobol y Cwm | |
|---|---|
| Genre | Opera sebon |
| Serennu | Gweler Cast |
| Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 19 munud 45 eiliad (tua) heb hysbysebion |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | BBC Cymru (1974-1982) S4C (ers 1982) |
| Rhediad cyntaf yn | 16 Hydref 1974 |
| Cysylltiadau allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
| Proffil IMDb | |
Un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd Cymru yw Pobol y Cwm.
Wedi'i lleoli ym mhentref dychmygol Cwmderi yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, mae'r gyfres yn canolbwyntio ar fywyd, gwaith, cariad a materion teuluol.
Fe ddechreuodd y gyfres ar 16 Hydref 1974; felly dim ond Coronation Street ac Emmerdale sydd wedi parhau yn hirach na Pobol y Cwm ar y teledu ym Mhrydain. Wedi i S4C gael ei sefydlu, trosglwyddodd y gyfres i'r sianel honno a bellach fe'i darlledir bum noson yr wythnos trwy gydol y flwyddyn.
Ar y dechrau, pentref tawel iawn oedd Cwmderi er gwaethaf perthnasau personol anodd. Tueddai'r straeon ganolbwyntio o gwmpas cartre'r henoed Bryn Awelon a'r dafarn leol, Y Deri Arms. Mae'r dafarn yn dal i fod yn ymgynullan pwysig yn yr opera sebon, yn ogystal â siopau a chartrefi'r sawl sy'n byw yng Nghwmderi. Ddiwedd y 90au, codwyd set barhaol i'r gyfres y tu ôl i faes parcio BBC Cymru yn Llandaf, Caerdydd, gan hwyluso'r ffilmio a rhoi cartref parhaol i'r rhaglen. Yn ddiweddar, mae'r straeon wedi newid i ganolbwyntio ar faterion mwy dadleuol fel llofruddiaeth, trais, cyffuriau a dyfodol cymunedau gwledig. Un o themâu rheolaidd y gyfres ers 1974 yw dyfodol yr iaith Gymraeg. Rhai o'r straeon a gydiodd fwyaf yn nychymyg y gwylwyr dros y blynyddoedd diweddar oedd marwolaeth y cymeriad Reg Harries, cymeriad selog yn y gyfres ers yr ail bennod, a'r damwain gar pan gollodd Anita'r babi yr oedd hi'n ei gario.
Mae S4C yn dangos Pobol y Cwm o nos Lun i nos Wener am 8:00 pm, ond maent yn ail-ddarlledu holl benodau'r wythnos ag isdeitlau yn Saesneg ar y sgrin ar nos Sul am 5:35yh.
Saethir y rhan fwyaf o olygfeydd awyr agored Pobol y Cwm yn ardal pentref Llanbedr-y-fro, i'r gorllewin o Gaerdydd.
Cynnwys |
[golygu] Aelodau cast cyfredol
- Llinor ap Gwynedd : Gwyneth Jones
- Rhys Bidder : Macs White
- Nia Caron : Anita Pierce
- Jeremi Cockram : Siôn White
- Sera Cracroft : Eileen Markham
- Aled Davies : Rhys Llywelyn
- Arwel Davies : Eifion Rowlands
- Arwyn Davies : Mark Jones
- Donna Edwards : Britt Monk
- Bethan Ellis Owen : Ffion Llywelyn
- Gwyn Elfyn : Denzil Rees
- Marged Esli : Nansi Furlong
- Mark Flanagan : Huw "Jinx" Jenkins
- Alex Harries : Scott Lewis
- Elin Harries : Dani Thomas
- Rhys Hartley : Huw White
- Justin Jones : Ieuan Griffiths
- Mirain Alaw Jones : Lois Evans
- Gareth Lewis : Meic Pierce
- Richard Lynch : Garry Monk
- Nicholas McGaughey : Brandon Monk
- Caryl Morgan : Izzy Evans
- Jonathan Nefydd : Colin Evans
- Victoria Plucknett : Diane Ashurst
- Catrin Powell : Cathryn "Cadno" Richards
- Maria Pride : Debbie Collins
- Dyfan Rees : Iolo White
- Iwan Roberts : Kevin Powell
- Sharon Roberts : Gaynor Evans
- Tonya Smith : Yvonne Evans
- Andrew Teilo : Hywel Llywelyn
- Emily Tucker : Sioned Rees
- Lisa Victoria : Sheryl Hughes
- Simon Watts : Gethin Thomas
- Tomos West : Ricky Jones
- Buddug Williams : Marian Rees ("Anti Marian")
- Siôn Ifan Williams : Liam Collins
- Emyr Wyn : Dai Ashurst
- Darren Borst : "Dafyd Ap Bleddyn"
[golygu] Cyn aelodau cast ac aelodau achlysurol
- Rhys ap Hywel : Jason Francis
- Rhys ap William : Cai Rossiter
- Heledd Baskerville : Lucy Steadman
- Emyr Bell : D.I. Gwyn Lewis
- Geraint Benney : Geraint
- Eirlys Britton : Beth James
- Ieuan Rhys : Sgt Glyn James
- Huw Ceredig : Reg Harris
- Glan Davies : Clem
- Huw Euron : Darren Howarth
- Gillian Elisa : Sabrina Ashurst
- Hywel Emrys : Derek Jones
- Huw Garmon - Steffan Humphries
- Ioan Gruffudd : Gareth Wyn Harries
- John Harries : Jon y Post
- Phylip Harries : Ken Coslett
- Brian Hibbard : Johnny Mac
- Siw Hughes : Kathleen Pearl Jones
- Kate Jarman : Erin Medi Hughes
- Harriet Lewis : Maggie Mathias
- Marc Llewellyn : Rhodri Lewis
- Catrin Mara : Nesta Roberts
- Grug Maria : Julie Hughes
- Elen Morgan : Lydia Lewis
- Paul Morgans : Dwayne Richards
- Dewi Pws Morris : Wayne Harris
- Lisa Palfrey : Rhiannedd Frost
- Lauren Phillips : Kelly Evans
- Shelley Rees : Stacey Jones
- Iwan Rheon : Macs White
- Rosalind Richards : Kim
- Gwynfor Roberts : Gwynfor
- Helen Rosser Davies : Sara Francis
- Cadfan Roberts : Glan Morris
- Mared Swain : Carys Jenkins
- Ed Thomas : Dr Gareth
- Rachel Thomas : Bella Davies
- Charles Williams : Harri Parri
- Gari Williams : Edgar Sutton
- Owen Williams : Mathew Price