Nia Caron

Oddi ar Wicipedia
Nia Caron
GanwydHydref 1959 Edit this on Wikidata
Tregaron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
TadOgwyn Davies Edit this on Wikidata
PriodGeraint Jarman Edit this on Wikidata
PlantMared Jarman, Hanna Jarman Edit this on Wikidata

Actores deledu Gymreig yw Nia Caron (ganwyd Hydref 1959) sy'n adnabyddus am chwarae rhan y cymeriadau Anita Pierce yn y gyfres sebon Pobol y Cwm a Dilys Parry yn y ffilm Porc Pei a chyfres deledu Porc Peis Bach.

Yn yr 1980au, roedd yn un o actorion craidd y gyfres gomedi poblogaidd Torri Gwynt, ar S4C.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Magwyd Caron yn Nhregaron, Ceredigion, yn ferch i'r artist Ogwyn Davies. Mae'n briod gyda'r cerddor Geraint Jarman ac mae ganddi ddwy ferch, Hanna [2] a Mared.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Nadolig 'Pawen' wrth i 'Pws' Dorri Gwynt eto!, S4C; Adalwyd 2015-12-18
  2. "Asiantaeth Dalent Sainou - Hanna Jarman". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-29. Cyrchwyd 2015-12-18.
  3. "Double pain at losing Dwayne". Liverpool Daily Post. 31 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 2013-07-07.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]