Hanna Jarman

Oddi ar Wicipedia
Hanna Jarman
Ganwyd1989 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, sgriptiwr, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
TadGeraint Jarman Edit this on Wikidata
MamNia Caron Edit this on Wikidata

Actor, cyfarwyddwr ac awdur o Gymraes yw Hanna Jarman (ganwyd 1989). Mae'n adnabyddus am greu a serennu yn y gyfres Merched Parchus.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Hanna Caron Jarman yng Nghaerdydd, yn ferch i Nia Caron a Geraint Jarman. Ei chwaer iau yw'r actores Mared Jarman.

Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2011.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ers graddio mae Hanna wedi cydweithio'n agos â chwmnïau fel Not Too Tame Theatre yn gweithio i ddyfeisio a chreu theatr hygyrch "i bawb”.

Roedd yn gyfranogwr diweddar ar gynllun cyfarwyddo 'Y Labordy' a gefnogir gan Ffilm Cymru Wales, S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru a BFI.NETwork ac ei mentor oedd yr awdur / cyfarwyddwr / actor Desiree Akhavan.

Cyfarwyddodd y ffilm fer Nyrs Smith ar gyfer It's My Shout, sef cynllun hyfforddi ffilm fer BBC Wales / S4C, yn ogystal â sioe theatr Rhybudd: Iaith Anweddus gan yr awdur Llwyd Owen ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.[2]

Mae hi hefyd yn datblygu a ysgrifennu ffilm fer Ffantasmagoria, gyda’i chwaer Mared Jarman, gyda cymorth Cynhyrchiadau ie ie a Ffilm Cymru Wales.

Cyd-greodd ac ysgrifennodd y gyfres ddrama ddwyieithiog Merched Parchus gyda Mari Beard, ar gyfer S4C. Mae Hanna a Mari hefyd yn serennu yn y gyfres.[1]

Yn 2021 ymddangosodd yn Yr Amgueddfa, cyfres ddrama gan Fflur Dafydd.[3]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffilm a theledu[golygu | golygu cod]

Teitl Blwyddyn Rhan Cwmni Cynhyrchu Nodiadau
Pen Talar 2010 Miriam Fiction Factory
Zanzibar 2012 Gwenno Rondo
Reit Tu Ôl I Ti 2013 Ceri S4C
Tinga Tinga 2014 Amrywiol (llais) Cwmni Da
FM 2014 Jen Rondo
Bob & Marianne 2015 Alys S4C
Chwarter Call 2015-2016 Amrywiol Boom Cymru
Pili Pala 2018 DC Lisa Holt Triongl
Merched Parchus 2019 Carys Ie Ie Productions
Baich 2019 Kath Severn Screen
Ffilmiau Ddoe 2020 Gwestai Cwmni Da, Unigryw Pennod 3
Yr Amgueddfa 2021 Sadie Boom Cymru

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Cynhyrchiadau ie ie - Merched Parchus. Cynhyrchiadau ie ie. Adalwyd ar 30 Mai 2021.
  2. Ateb y Galw: Yr actor a chyfarwyddwr Hanna Jarman , BBC Cymru Fyw, 14 Ionawr 2019. Cyrchwyd ar 30 Mai 2021.
  3.  Yr Amgueddfa yn agor y drws ar fyd tywyll a pheryglus. S4C (7 Ionawr 2021). Adalwyd ar 27 Mai 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]