Tregaron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°13′11″N 3°56′07″W / 52.21962°N 3.93517°W / 52.21962; -3.93517

Tregaron
Tregaron - geograph.org.uk - 210555.jpg
Tregaron is located in Ceredigion
Tregaron

 Tregaron yn: Ceredigion
Cyfeirnod grid yr AO SN679597
Prif ardal Ceredigion
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost TREGARON
Rhanbarth cod post SY25
Cod deialu 01974 298/299
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin

Tref fechan yng nghanolbarth Ceredigion yw Tregaron. Mae ganddi 1185 o drigolion, a 68% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Gerllaw y dref ceir Cors Caron.

Hanes [golygu]

Daeth Tregaron yn dref ym 1292. Mae twf y dref wedi dibynnu ar leoliad yr ardal yn Nyffryn Teifi. Daeth yn dref farchnad i’r cymunedau amaethyddol a oedd wedi eu gwasgaru ar hyd y wlad tua’r De, a’r tirfeddiannwyr cyfoethog oedd a ffermydd mawr yn yr ucheldir tua’r dwyrain, cartref i lawer o ddefaid a phrin bobl. Tua’r Gogledd roedd Cors Caron, tir ffrwythlon pan fyddai wedi ei ddraenio, tua’r Gorllewin mae ardal fryniog a ffermwyr yn piau ffermydd bach o ond rhai erwau. Daw’r bobl yma i Dregaron i’r farchnad wythnosol a’r ffair flynyddol, Ffair Garon, lle gwerthwyd ieir, moch, gwartheg a cheffylau. Cynhelir ffeiriau defaid ym Mai a Mehefin, a dwy ffair arall yn Nhachwedd. Roedd nifer fawr o dafarndai yn y dref a fyddai’n darparu ar gyfer yr holl bobl a ddaw o’r wlad yn ystod y digwyddiadau hyn.

Dadorchuddio cofeb Henry Richard yn 1885. Ffotograff gan John Thomas (ffotograffydd).

Yng nghanol y 18fed ganrif, cadwai Matthew Evans dafarn yn y dref. Roedd ganddo ddau fab ac un merch, lladron adnabyddus a adnabyddwyd fel Plant Mat. Buont yn byw mewn ogof yn ymyl Pontarfynach am sawl mlynedd. Roedd yn anodd dal y tri am i fynediad i’r ogof fod yn rhy gul. Wedi sawl mlynedd o lwyddiant, fe gyflawnodd y tri lofruddiad ac felly fe’u dedfrydwyd i farwolaeth ac fe’u lladdwyd.

Roedd Tregaron yn brif fan cwrdd i borthmyn a fyddai, cyn sefydliad cludiant trennau, yn cymryd niferoedd mawr o wartheg, defaid ac hyd yn oed gwyddau cannoedd o filltiroedd i farchnadoedd yn Ne-Ddwyrain Lloegr. Roedd llawer o ddynion Tregaron yn gwneud hyn ac yn gwneud llawer o arian wrth wneud. Roeddent yn actio fel dynion post answyddogol neu negeswyr, ac roedd llawer yn medru osgoi y tollbyrth.

Roedd sawl melin wlan a redwyd gan ddwr i'w cael yn Nhregaron, ac roedd yn ganolbwynt i wneuthuriad sannau. Roedd dynion, menywod a phlant yn gweu sannau yn eu cartrefi ac yn eu gwerthu yn y farchnad, i ddelwyr a fyddai'n eu gwerthu ymlaen yn yng Nghymoedd De Cymru.

Enwogion [golygu]

  • Y Parch. Henry Richard AS (1812 – 1888), a adwaenid fel "Yr Apostl Heddwch."
  • Bu farw'r awdur Dic Tryfan yn ysbyty Tregaron yn 1919.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato