Dave Brailsford
| Manylion Personol | |
|---|---|
| Enw Llawn | David John Brailsford |
| Dyddiad geni |
Chwefror 29, 1964 |
| Gwlad | |
| Gwybodaeth Tîm | |
| Disgyblaeth | Ffordd |
| Rôl | Reidiwr proffesiynol Cyfarwyddwr Rhaglen BC Cyfarwyddwr Perfformiad BC Rheolwr Cyffredinol Team Sky |
| Golygwyd ddiwethaf ar: | |
| 17 Awst 2009 | |
Hyfforddwr seiclo Cymreig ydy David John Brailsford CBE (ganwyd 29 Chwefror 1964).[1] Mae'n gyfarwyddwr perfformiad ar gyfer British Cycling, a rheolwr cyffredinol Team Sky.
Bywgraffiad [golygu]
Yn Gymro Cymraeg,[2] magwyd Brailsford yn Neiniolen yng Ngogledd Cymru.[3] Ond ganwyd ef yn Derby[4] yn fab i John M Brailsford,[5] Tywys Mynyddoedd Alpaidd,[6] a Barbara Joinson.[7]
Bu Brailsford yn cystadlu yn Ffrainc am bedair mlynedd fel seiclwr proffesiynol cyn dychwelyd i Brydain yn 23 oed i astudio gradd mewn Gwyddoniaeth chwaraeon a Seicoleg, cyn mynd ymlaen i astudio MBA yn ysgol busnes Sheffield. Mae wedi ymwneud â byd seiclo drwy gydol ei yrfa, cyflogwyd ef gan British Cycling, yn gyntaf fel ymgynghorydd pan ddechrodd y Loteri Genedlaethol ariannu'r corff. Symudodd yn ei flaen i fod yn Gyfarwyddwr Rhaglenni cyn dod yn Gyfarddwyddwr Perfformiad.[8]
Arweiniodd Braisfold dîm seiclo Prydain i nifer o fuddugoliaethau yng Ngemau Olympaidd 2004 yn Athens, adnabyddwyd ei gyfraniad blwyddyn yn ddiweddarach gyda MBE ar restr Anrhydeddau penblwydd y Frenhines.[8]
Cafodd seiclwyr Prydain lwyddiant pellach yng Ngemau Olympaidd 2008, gan ennill 14 o fedalau ac wyth o rheiny'n aur. Enillodd hyn anrhydedd o Wobr Hyfforddwr Personoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC ar 14 Rhagfyr 2008.[9] Apwyntwyd ef yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2009.[10][11]
Ym mis Tachwedd 2010, derbyniodd Ddoethuriaeth anrhydedd gan Brifysgol Caer, lle astudiodd Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff.[12]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Cycling's Taff at the top. BBC (17 Awst 2008).
- ↑ Geraint Thomas yn gwneud argraff wrth ymarfer ar gyfer y Gemau Olympaidd (Awst 2008).
- ↑ Golwg, 13 Awst
- ↑ Penisarwaun mum's pride as Brailsford wins Sports Personality of the Year award. Caernarfon and Denbigh Herald (18 Rhagfyr 2008).
- ↑ Mike Parsons (9 Ebrill 2012). DAVID BRAILSFORD, PERFORMANCE DIRECTOR, GREAT BRITAIN CYCLE TEAM. Innovation for Extremes. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2012.
- ↑ We’ve been funded to win Olympic medals, not finish fourth. The Times (26 Mawrth 2007).
- ↑ Cofrestr Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau. Free BMD.
- ↑ 8.0 8.1 MBE For Dave Brailsford British Cycling 15 Mehefin 2005
- ↑ Sports Personality 2008: Cycling. BBC (2008-12-14).
- ↑ London Gazette, rhifyn 58929, 31 Rhagfyr 2008, tud 7
- ↑ New Year honours list: arise Sir Chris ... and there's a medal for your mum as well. The Guardian (2008-12-31).
- ↑ Cycling Chester graduate Brailsford honoured for GB Olympic cycling achievements. Chester Chronicle (16 Ionawr 2009). Adalwyd ar 16 Tachwedd 2009.