John Ogwen

Oddi ar Wicipedia
John Ogwen
Ganwyd25 Ebrill 1944 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
Man preswylBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodMaureen Rhys Edit this on Wikidata

Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru yw John Ogwen (ganwyd 25 Ebrill 1944). Ganed yn Sling, ger Tregarth yn Nyffryn Ogwen, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Dyffryn Ogwen lle bu'n aelod brwd o'r cwmni drama. Astudiodd Saesneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor.[1] Mae wedi ysgrifennu dramâu, cyflwyno cyfres o raglenni dogfen a chreu recordiadau llafar o weithiau Cymreig.

Yn 2004, derbyniodd wobr arbennig BAFTA Cymru am ei gyfraniad.[2]

Ymunodd â chast Pobol y Cwm yn Ebrill 2017 yn chwarae'r cymeriad Josh. Dyma'r tro cynta iddo ymddangos yn y gyfres ond ysgrifennodd nifer o benodau o'r opera sebon yn y blynyddoedd cynnar.[3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod â Maureen Rhys, un arall o actorion mwyaf adnabyddus Cymru,[4] ac mae'r ddau wedi cydweithio'n aml. Mae ganddynt dri o blant ac maent yn byw ym Mangor.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Proffil John Ogwen. BBC Cymru.
  2.  Gwobrau 2004. BAFTA Cymru.
  3.  John Ogwen yn ymuno efo Pobol y Cwm. Y Cymro (22 Mawrth 2017).
  4.  Maureen O’Cwm?!. Caernarfon Online (19 Rhagfyr 2006). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011.