Ioan Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Ioan Gruffudd
Ganwyd6 Hydref 1973 Edit this on Wikidata
Llwydcoed Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFantastic Four, Titanic, 102 Dalmatians, Hornblower Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
Taldra180 centimetr Edit this on Wikidata
PriodAlice Evans Edit this on Wikidata

Actor o Gymru yw Ioan Gruffudd (ganwyd 6 Hydref, 1973).

Cafodd ei addysgu yn Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig, a daeth i'r amlwg ar lefel ryngwladol trwy chwarae rhan y Pumed Swyddog Harold Lowe yn y ffilm Titanic ym 1997. Serch hynny, tu hwnt i Gymru fe'i adnabyddir yn well am ei bortread o Horatio Hornblower yn y gyfres o ffilmiau teledu Hornblower (1998-2003, cyfres wedi ei seilio ar nofelau C. S. Forester).

Yn lled-ddiweddar mae Gruffudd wedi sefydlu ei hun fel "seren" Hollywood, yn chwarae rhannau Lancelot yn y ffilm King Arthur (2004), Reed Richards neu Mister Fantastic yn y ffilm Fantastic Four (2005) a'i dilyniant Rise of the Silver Surfer (2007), ac fel William Wilberforce yn y ffilm Amazing Grace (2006).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bywyd Cynnar a Theulu[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gruffudd ar Hydref 6 1973 ym mhentref Llwydcoed ger Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, yn Ne Cymru. Symudodd ei deulu wedyn i Gaerdydd. Roedd ei rieni, Peter a Gillian Gruffudd, yn athrawon. Mae ganddo frawd dwy flynedd yn iau nag ef, sef Alun, a chwaer, Siwan, sydd yn saith mlynedd yn iau.

Addysg[golygu | golygu cod]

Aeth Gruffudd i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr (Ynyslwyd) (bellach wedi ei lleoli yng Nghwmdâr), Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, a Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, lle cymerodd ei TGAU a'i Lefelau-A. Yn gerddorwr naturiol, chwaraeodd yr oboe yn ei arddegau, gan ennill lefel Gradd 8 ynddi.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Gruffudd ei yrfa fel actor yn 12 oed yn y ffilm Gymraeg Austin (1986) a symudodd wedyn i'r opera sebon Gymraeg Pobol y Cwm o 1987 tan 1994. Yn 18 oed, aeth i Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig yn Llundain. Ym 1996 ymddangosodd mewn fersiwn newydd o'r gyfres deledu Poldark.

Ar ôl chwarae rhan cariad Oscar Wilde,John Gray, yn y ffilm Wilde (1997), chwaraeodd ei rol rhyngwladol cyntaf fel Pumed Swyddog Harold Lowe yn y ffilm Titanic. Wedyn chwaraeodd ran Horatio Hornblower yn Hornblower.

Mae ei waith fel actor ar deledu yn cynnwys charae rhan Pip yn y cynhyrchiad BBC o Great Expectations (1999), y stori gan Charles Dickens, chwaraeodd ran Solomon Levinsky yn y ffilm Solomon a Gaenor (1999), a rhan y pensaer Philip Bosinney yn addasiad ITV o The Forsyte Saga (2002). O ran ffilmiau, mae Gruffudd wedi ymddangos yn 102 Dalmatians (2000), Black Hawk Down (2001), King Arthur (2004), Fantastic Four a'i dilyniant Fantastic Four: Rise of the Silver Surfer (2007), ac fel William Wilberforce yn y ddrama hanesyddol Amazing Grace (2006).

Cafodd ei dderbyn gan yr Orsedd yn 2003.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Priododd Ioan yr actores Alice Evans ar 14 Medi 2007. Roedd y ddau yn byw yn Los Angeles, Califfornia ac mae ganddynt ddwy ferch. Ym mis Chwefror 2021, gwahanodd y cwpl. Ym Mawrth 2021, cychwynodd Ioan gais am ysgariad.[1]

Ffilm a theledu[golygu | golygu cod]

Rhaglenni Teledu[golygu | golygu cod]

  • Pobol y Cwm
  • Great Expectations
  • The Forsyte Saga
  • Hornblower
  • Ringer
  • Forever

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Welsh actor Ioan Gruffudd has filed for divorce from actress wife (en) , WalesOnline, 3 Mawrth 2021. Cyrchwyd ar 13 Mai 2021.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: