Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
| Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf | |
|---|---|
![]() |
|
| Arwyddair | Coron Gwlad Ei Mamiaith |
| Sefydlwyd | 1978 |
| Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Mrs. Rhiannon Mary Lloyd |
| Lleoliad | Heol y Bont, Ystum Taf, Caerdydd, Cymru, CF14 2JL |
| AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
| Disgyblion | 1000+ |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–18 |
| Lliwiau | Glas golau a thywyll |
| Gwefan | http://www.glantaf.cardiff.sch.uk |
Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal Ystum Taf, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghaerdydd.
Cynnwys |
Hanes[golygu]
Sefydlwyd yr ysgol yn benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Agorodd ei drysau i'r disgyblion cyntaf (98 ohonynt) ym Medi 1978. Dewiswyd safle ysgol Saesneg ei chyfrwng, Glantaff, fel y lleoliad gan fod niferoedd yr ysgol Saesneg yn cwympo'n naturiol oherwydd rhesymau demograffig ac apêl ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal. Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Malcolm Thomas. Y prifathrawes presennol ydy Mrs Rhiannon Mary Lloyd.[1]
Erbyn y 1998 roedd cymaint o alw am addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, agorwyd ysgol arall, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Sefydlwyd trydydd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, ym mis Medi 2012, a chynhaliwyd ar ran o safle Glantaf dros dro, cyn symud i hen adeiladau Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ym Mhenylan ym mis Medi 2013.[2]
Arwyddair yr ysgol yw Coron gwlad ei mamiaith.
Dalgylch[golygu]
Dyma ysgolion cynradd dalgylch yr ysgol:
- Ysgol Glan Morfa
- Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd
- Ysgol Mynydd Bychan
- Ysgol Pencae (y rhan o'r dalgylch i'r gogledd-ddwyrain o afon Taf)
- Ysgol Gymraeg Pwll Coch (o 2013-14)
- Ysgol Y Wern
Cyn-ddisgyblion o nôd[golygu]
Ymysg ei chyn-ddisgyblion mae amryw o gyflwynwyr teledu a chantorion pop Cymraeg:
- Matthew Rhys - actor
- Ioan Gruffudd - actor
- Matthew Pritchard - cyflwynydd teledu
- Guto Pryce - aelod o'r Super Furry Animals
- Huw Bunford - aelod o'r Super Furry Animals
- Eluned Morgan Aelod Senedd Ewrop dros Gymru
- Branwen Gwyn - cyflwynydd teledu
- Gethin Jones - cyflwynydd teledu, Blue Peter
- Jamie Roberts - chwaraewr rygbi
- Huw Stephens - DJ radio
- Ffion Jenkins - gwraig William Hague
- Jamie Robinson - chwaraewr rygbi
- Nicky Robinson - chwaraewr rygbi
- Llwyd Owen - nofelydd
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ School Details: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Cyngor Caerdydd.
- ↑ Gwybodaeth ychwanegol o ran trefniadau derbyn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Cyngor Caerdydd (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.
