Aberdâr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°42′47″N 3°26′42″W / 51.713°N 3.445°W / 51.713; -3.445

Aberdâr
Saesneg: Aberdare
Aberdare-View from road to Ferndale.jpg
Aberdâr is located in Rhondda Cynon Taf
Aberdâr

 Aberdâr o fewn: Rhondda Cynon Taf
Cyfeirnod grid yr AO SO005025
Prif ardal Rhondda Cynon Taf
Sir seremonïol Morgannwg Ganol
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost ABERDÂR
Rhanbarth cod post CF44
Cod deialu 01685
Yr Heddlu De Cymru
Tân De Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Dyffryn Cynon
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Rhondda Cynon Taf

Tref yng Nghwm Cynon yn sir hanesyddol Morgannwg, ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, de Cymru yw Aberdâr (llurguniad Saesneg: Aberdare). Cyfeirnod OS: SO0002. Lluosog "derwen" ydy "dâr", ac ymddangosodd y gair yn ysgrifenedig yn gyntaf yn 1203. Ceir hefyd yng ngogledd Cymru Aberdaron, sydd hefyd yn ymwneud â choed derw. Ym 1991 roedd poblogaeth y dref yn 31,619. Mae Aberdâr bedair milltir o Ferthyr Tudful a thua 24 milltir o Gaerdydd, ar Afon Cynon. Mae gwasanaeth rheilffordd rhwng Aberdâr a Chaerdydd trwy Gwm Cynon.

Marchnad Aberdâr

Cynnwys

Hanes[golygu]

Yng Nghwmbach Aberdâr y ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r Gymdeithas Gydweithredol yng Nghymru, ym 1860.

Yn wreiddiol, ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pentref Aberdâr mewn ardal amaethyddol, ond pan ddarganfuwyd llawer o lo a mwyn haearn yn yr ardal cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn. Sefydlwyd gweithdai haearn yn Llwydcoed ac Abernant ym 1799 a 1800, wedi'u dilyn gan eraill yn Gadlys ac Aberaman ym 1827 a 1847. Nid yw'r rhain wedi gweithio ers 1875. Cyn 1836, câi'r rhan fwyaf o'r glo ei ddefnyddio yn lleol, yn bennaf yn y gweithdai haearn, ond wedyn dechreuwyd allforio glo o dde Cymru. Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwellodd y dref yn fawr.

Aberdâr oedd cartref un o feirdd yr Ail Ryfel Byd, Alun Lewis, ac mae dyfyniad o'i gerdd The Mountain over Aberdare i'w weld yn y dref. Dyma gartref y Stereophonics hefyd, sy'n dod o Gwmaman. Fel mae'n digwydd mae yna Aberdare yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, sydd hefyd yn cynnwys pyllau glo.

Enwogion[golygu]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr ym 1861, 1885 a 1956. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi[golygu]

Dolenni allanol[golygu]


CymruRhonddaCynonTaf.png Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato