Llanharan
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Llanharan (Cyfeirnod OS: ST002831). Saif ar y briffordd A473, rhwng Pencoed a Phontyclun. Daw'r enw o enw personol Haran, neu Aran neu efallai Aaron. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,421.
Yn wreiddiol roedd yn bentref amaethyddol, gyda phoblogaeth o 330 yn 1851. Dechreuodd diwydiant ddatblygu wedi i orsaf Rheilffordd De Cymru agor yno yn 1850. Agorwyd nifer o byllau glo yn y cylch, gyda phyllau Gogledd Llanharan a De Llanharan yn cyflogi 855 a 775 o weithwyr yn 1945.
Cysegrwyd yr eglwys i'r seintiau Julius ac Aaron o'r 3edd a'r 4edd ganrif ac a ferthyrwyd gan y Rhufeiniaid yng Nghearleon[1]. Adeilad mwyaf nodedig y gymuned yw Llanharan House, a adeiladwyd yn niwedd yr 1740au gan Rees Powell, ac a ddatblygwyd ymhellach gan Richard Hoare Jenkins wedi iddo ef ei brynu yn 1795. Enw'r tŷ gwreiddiol ar y safle hon oedd Tŷ Mawr.[2]
Ceir pentref yn Treguier, Llydaw gyda'r un enw.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 'Dictionary of the Placenames of Wales' gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer
- ↑ Gwefan Cyngor Rhondda Cynon Taf
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aberdâr · Abernant · Aberpennar · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llantrisant · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypia · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Pontypridd · Y Porth · Rhigos · Rhydyfelin · Tanysguboriau · Ton Pentre · Ton-teg · Tonypandy · Tonyrefail · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Treorci · Trerhondda · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynysybŵl · Ystrad Rhondda