Glan-bad
Pentref yn Rhondda Cynon Taf yw Glan-bad (Saesneg: Upper Boat). Fe'i lleolir ar gyrion Pontypridd.
Mae'n adnabyddus ym myd y cyfryngau fel lleoliad Upper Boat Studios BBC Cymru, lle cynhyrchir y fersiwn newydd o Doctor Who, ynghyd â'r cyfresi teledu sy'n deillio ohono, sef Torchwood a The Sarah Jane Adventures.
Daw'r enw Glan-bad/Upper Boat o'i leoliad ar y gamlas hanesyddol sy'n cysylltu Caerdydd ac Abercynon. Roedd y rhan o'r gamlas rhwng Abercynon a thrwy Pontypridd i Lan-bad yn gul iawn am ei bod mewn cwm cul. Ond ar ôl Glan-bad mae'r cwm yn lledaenu ac adeiladwyd camlas fwy llydan. Arferid trosglwyddo llwythi i fadau llai yng Nglan-bad a dyna sut y cafodd ei enw, yn achos y Gymraeg a'r Saesneg.
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aberdâr · Abernant · Aberpennar · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llantrisant · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypia · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Pontypridd · Y Porth · Rhigos · Rhydyfelin · Tanysguboriau · Ton Pentre · Ton-teg · Tonypandy · Tonyrefail · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Treorci · Trerhondda · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynysybŵl · Ystrad Rhondda