Llanwynno

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr olygfa o Eglwys Llanwynno yn y gaeaf.
Fforest Llanwynno.

Pentref bychan a phlwyf yn Rhondda Cynon Taf, Cymru yw Llanwynno (Seisnigiad: Llanwonno), a leolir rhwng Cwm Cynon a Chwm Rhondda.

Gorwedd y pentref tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Pontypridd, yn y bryniau rhwng y Rhondda Fach a Chwm Cynon. Mae ffyrdd yn ei gysylltu â Phontypridd i'r de, Penrhiw-ceibr i'r dwyrain a Trerhondda i'r gorllewin.

Hanes[golygu]

Ceir sawl cyfeiriad at Llanwynno yn hunangofiant Glanffrwd. Anfarwolwyd Llanwynno i'r darllenwyr Saesneg gan Gwyn Thomas, y nofelydd a darlledwr, yn A Few Selected Exits (1968). Ffilmwyd yr hunangofiant hwn fel Selected Exits (1993) yn Llanwynno efo Anthony Hopkins yn chwarae rhan Gwyn.

Claddwyd Guto Nyth Bran yn Eglwys Sant Gwynno, a chynhelir rasys Nos Galan er cof amdano, rasys sy'n gorffen yn 'Sgwar Guto' Aberpennar. Roedd hen blwyf Llanwynno yn cynnwys ar un adeg Abercynon, Penrhiwceiber, Ynysybwl, darnau o Aberpennar a Phontypridd, Porth, Ynyshir a Blaenllechau yn y Rhondda.

Hamdden[golygu]

Yn Fforest Llanwynno gerllaw mae Canolfan Gweithgareddau Allanol Daerwynno.

Enwogion[golygu]

  • Dr Richard Griffiths (1756 - 1826), un o arloeswyr y diwydiant glo yn ardal Cwm Rhondda.
  • Guto Nyth Brân (1700 - 1737), a gladdwyd ym mynwent eglwys Llanwynno

Cyfeiriadau[golygu]

  • Hanes Plwyf Llanwynno 1843-90, yn wreiddiol yn Y Darian wedyn ar ffurf llyfr ym 1888